Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newydd ar gyfer 2022, Gwobrau Bionet! 

Published: 13/10/2022

Eleni bydd y Partneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal y Gwobrau Bionet i ddathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth.

Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth. Yng ngoleuni’r argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol. 

Rhennir y gwobrau yn 8 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau:

  • Gwobr Unigolyn Ifanc
  • Gwobr Grwp Cymunedol
  • Gwobr Ysgol Gynradd 
  • Gwobr Ysgol Uwchradd
  • Gwobr Busnes 
  • Gwobr Datblygiad sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth
  • Gwobr Cyngor Tref neu Gymuned
  • Gwobr Gwirfoddolwr 

Mae’r holl ffurflenni cais a chanllawiau ar gael yma: Gwobrau Bionet.

Felly cerwch amdani ac enwebu!  Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau yw 12pm ar 28 Hydref! Caiff gwobrau eu cyflwyno yn ein cynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno ar 24 Tachwedd 2022.

Bionet awards - cy facebook.png