Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio Cronfa Mentrau Cymdeithasol Sir y Fflint
Published: 07/04/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio cronfa newydd er mwyn cynorthwyo mentrau
cymdeithasol lleol.
Mae Cronfa Mentrau Cymdeithasol Sir y Fflint yn rhaglen sydd wedi’i llunio’n
benodol i gynorthwyo lansiad neu ddatblygiad menter gymdeithasol bresennol yn y
sir. Mae grantiau unigol o hyd at £5,000 ar gael ac i gael ei hystyried ar
gyfer y cyllid rhaid i fenter gymdeithasol ateb y meini prawf canlynol:
· Rhaid i’r fenter fod yn Sir y Fflint ac yn weithredol yno
· Rhaid iddi gael cynllun busnes dichonol
· Ni ddylai fod yn ddibynnol ar asiantaethau statudol
· Rhaid iddi fod yn hunanlywodraethol
· Rhaid i’r sefydliad fod yn un nad yw’n dosbarthu elw
· Rhaid iddi weithredu heb unrhyw gyfyngiad ar aelodaeth, rhaid iddi fod yn
agored i’r gymuned gyfan.
· Dylai’r sefydliad ailfuddsoddi mwyafrif ei warged yn ei bwrpas cymdeithasol
· Rhaid iddi ddangos y gallu i fod yn hunangynhaliol.
Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau gydag incwm blynyddol o lai na £50,000; gall
ymgeiswyr sydd ag incwm blynyddol uwch na hynny wneud cais ond dim ond os
gallant ddarparu tystiolaeth glir i ddangos na allai’r prosiect gael ei gynnal
gan unrhyw sefydliad di-elw neu fenter gymdeithasol arall y caiff y cais ei
ystyried. Gellir defnyddio’r grant i gynorthwyo gweithgareddau neu wasanaethau
sy’n darparu gwerth cymdeithasol ychwanegol neu sydd o fudd i bobl leol.
Caiff ceisiadau eu hystyried yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn a bydd y Cyngor
yn rhoi gwybod i sefydliadau cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad a yw eu
cais wedi bod yn llwyddiannus.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu mentrau cymdeithasol er mwyn gwella’r
sylfaen busnes, datblygu sgiliau a chyfleoedd lleol a gwella gwasanaethau i
bobl leol. Lansiwyd y gronfa hon yn ein Cynhadledd Menter Gymdeithasol
ddiweddar yng Ngholeg Cambria a’r nod yw darparu grantiau i helpu pobl leol
gyda’u mentrau ac annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 702128 neu
Policy.and.performance.team@flintshire.gov.uk
Llun:
MEC_2547 copy.jpg