Alert Section

Hawliadau Yswiriant


Os ydych chi’n credu ein bod ni wedi methu yn ein dyletswydd gofal, mae gennym ni yswiriant yn ei le i indemnio ein hunain.

Gellir gweld ein tystysgrifau yswiriant yn nerbynfeydd holl adeiladau Cyngor Sir y Fflint, darperir ein Hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gan Zurich Municipal Insurance ar hyn o bryd.

Gall unigolion sy’n dymuno gwneud hawliad yswiriant lawrlwytho’r ffurflen hawliad yswiriant isod a’i chyflwyno ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosibl i helpu gyda’r cais i’r tîm yswiriant yn  insurance@flintshire.gov.uk 

Os oes angen copi papur o’r ffurflen, gellir gwneud cais amdani yn ystod oriau gwaith i’r tîm yswiriant ar 01352 702242, 01352 702256 neu 01352 702260 neu dros e-bost at insurance@flintshire.gov.uk 

Dylai cyfreithwyr a chwmnïau yswiriant ddefnyddio’r wybodaeth porth isod i wneud unrhyw hawliadau yswiriant.

Ar gyfer hawliadau Atebolrwydd Cyflogwyr ac Atebolrwydd Cyhoeddus, yr Yswiriwr yw:

  • Zurich Municipal
  • Rhif y polisi: QLA04U011-0023
  • Rhif adnabod cysonydd y porth: C00650 – Zurich Insurance Company Ltd

Os nad yw eich hawliad o fewn cwmpas hawliad porth, cyfeiriad post ein Hyswiriwr yw

Zurich Municipal,

Birmingham Commercial Direct Casualty Claims,

Blwch Post 3313,

Swindon,

SN4 8XG