Alert Section

Rheoli Chwyn


Mae ar Gyngor Sir y Fflint eisiau clywed eich barn ar reoli chwyn ar ffyrdd, palmentydd ac mewn mannau agored eraill yn y sir.

Prif bwrpas rheoli chwyn yn Sir y Fflint yw sicrhau hygyrchedd a diogelwch y cyhoedd ac asedau priffyrdd. Heb ei reoli’n briodol, gall chwyn achosi rhwystr ar lwybrau cerdded, amharu ar systemau draenio, difrodi priffyrdd, amharu ar welededd ac effeithio’n negyddol ar edrychiad mannau cyhoeddus.

Mae rheoli chwyn yn ategu cyfrifoldebau priffyrdd y Cyngor a’i amcanion amgylcheddol ehangach.

Ers llawer o flynyddoedd bellach mae cynghorau ar draws y DU (yn cynnwys Sir y Fflint) wedi defnyddio glyffosad i reoli chwyn.

Yn dilyn gweithdy i aelodau ym mis Ionawr 2023, rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth ar 14 Mawrth 2023 i’r Cyngor leihau ei ddefnydd o lyffosad, gan ymuno â’r 164 o Gynghorau eraill ar draws y DU. Mae hyn wedi’i wneud i:

  • Lleihau amlygiad diangen i chwynladdwyr mewn mannau cyhoeddus a symud at ddewisiadau amgen sy’n fwy diogel.
  • Diogelu natur a’r amgylchedd.
  • Helpu i leihau’r risg o chwynladdwyr yn mynd i mewn i gyrsiau dŵr.
  • Dilyn canllawiau’r llywodraeth.

Mae gallu Sir y Fflint i ddefnyddio llai o chwynladdwyr sy’n cynnwys glyffosad wedi’i gyrraedd drwy gymorth cyllid grant.

Sut mae’r Cyngor yn rheoli twf chwyn: 

  • Defnyddio chwynladdwyr gyda glyffosad pan nad oes modd defnyddio unrhyw beth arall.
  • Defnyddio cyfuniad o ddulliau eraill ar ein ffyrdd a phalmentydd, mewn parciau, caeau chwarae a mannau gwyrdd – yn cynnwys torri, strimio, tocio, brwsio neu rwygo gyda pheiriant, defnyddio ewyn poeth, dŵr poeth/stêm, llosgyddion gwres, chwistrellau heb lyffosad, chwynnu gyda llaw, sesiynau chwynnu cymunedol.
  • Monitro a rhoi cynnig ar dechnegau newydd a defnyddio chwynladdwyr ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol yn unig.
  • Technegau rheoli gwahanol ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol – ni all un dull yn unig ddisodli glyffosad ac mae dulliau amgen yn gofyn am driniaethau amlach sydd, yn eu tro, yn defnyddio mwy o adnoddau.

Sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd rydym yn gwneud pethau: 

  • Gall dulliau amgen ofyn am fwy o ymweliadau a mwy o amser gweithwyr na thriniaethau yn defnyddio chwynladdwyr traddodiadol.
  • Oherwydd nifer y palmentydd, ffyrdd a mannau cyhoeddus sydd gennym ar draws y sir, nid yw’n bosibl i ni gynnal a chadw’r holl leoliadau i’r un safon bob tro.
  • Caiff lleoliadau eu blaenoriaethu a defnyddir yr adnoddau sydd gennym yn y llefydd lle gellir cael y budd mwyaf:
    • Cyrbau priffyrdd,
    • Lleoliadau allweddol at ddibenion diogelwch,
    • Mannau problemus a nodir gan y Cydlynydd Ardal,
    • Canol trefi ac ardaloedd proffil uchel,
    • Lleoliadau eraill yn ôl yr angen ac ar gais cymunedau.

Beth yw glyffosad:

  • Mae glyffosad yn gemegyn a ddefnyddir mewn llawer o chwynladdwyr. Caiff ei amsugno gan y planhigyn cyn symud drwy’r planhigyn a’i atal rhag cynhyrchu’r proteinau sydd ei angen arno i dyfu, gan achosi iddo farw. Mae’n fath o chwynladdwr sy’n golygu ei fod wedi’i ddylunio i ladd planhigion. Plaladdwr yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio chwynladdwyr, pryfleiddiaid, plaladdwyr a ffwngleiddiaid.
  • Glyffosad yw’r chwynladdwr a ddefnyddir fwyaf ar draws y byd, ac mae o hefyd yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol i reoli chwyn.
  • Yn 2015 cafodd glyffosad ei ddosbarthu fel cemegyn sydd “yn ôl pob tebyg yn garsinogenig i bobl” gan Asiantaeth Ryngwladol Ymchwil Canser (IARC). Mae sefydliadau rheoleiddio eraill wedi asesu’r risgiau’n wahanol ac yn parhau i gymeradwyo glyffosad dan amodau rheoledig.
  • Mae’r arolwg mwyaf ar draws y DU ar ddefnyddio plaladdwyr mewn trefi a dinasoedd yn nodi glyffosad fel y prif gemegyn a ddefnyddir yn ein hamgylcheddau trefol. Mae’n ffurfio o leiaf 90% o’r plaladdwyr a ddefnyddir mewn mannau cyhoeddus.
  • Gall glyffosad effeithio ar ein hamgylchedd naturiol yn anuniongyrchol drwy amharu ar gadwyni bwyd, lleihau ffynonellau o fwyd a lloches a llygru pridd a chyrsiau dŵr, gan niweidio rhywogaethau dyfrol.
  • Caiff cynnyrch sy’n cynnwys glyffosad ei reoleiddio ac mae’n rhaid eu defnyddio yn unol â’r amodau cymeradwyo a’r canllawiau perthnasol. Mae’r ffordd caent eu defnyddio, yn lle a’r rhagofalon a gymerir yn ystyriaethau pwysig wrth reoli llystyfiant.
  • Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar hyn o bryd yn asesu a ddylid adnewyddu’r gymeradwyaeth i barhau i ddefnyddio glyffosad – mae wedi’i gymeradwyo tan 15 Rhagfyr 2026 er mwyn gallu cwblhau’r asesiad. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn asesu a yw glyffosad yn dal yn bodloni’r meini prawf deddfwriaethol ar gyfer sylwedd actif. Byddant yn ystyried unrhyw wybodaeth wyddonol, dechnegol a rheoleiddio newydd.
  • Yn ei adroddiad 'Underestimated and Overlooked – the silent impact of pesticides on children', mae UNICEF yn amlinellu pa mor ddiamddiffyn yw plant i chwynladdwyr, sy’n bresennol yn yr amgylchedd ac yn gallu llygru aer, pridd, bwyd a dŵr.

Beth yw carsinogen:

  • Yn 2015 cafodd glyffosad ei ddosbarthu fel cemegyn sydd “yn ôl pob tebyg yn garsinogenig i bobl” gan Asiantaeth Ryngwladol Ymchwil Canser (IARC).
  • Mae carsinogen yn sylwedd, cemegyn neu’n amlygiad arall a ddangosir i feddu ar y potensial i achosi cancr neu gynyddu’r risg o ddatblygu cancr.
  • Nid yw disgrifio rhywbeth fel carsinogen o reidrwydd yn golygu bod rhywun yn mynd i ddatblygu cancr ar ôl dod i gysylltiad ag o. Mae lefel a hyd y cysylltiad, sut mae’r sylwedd yn mynd i mewn i’r corff a faint, yn gallu effeithio ar y risg.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer natur:

Mae blaenoriaethau bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru wedi’u nodi yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2026, ochr yn ochr â’r Fframwaith 30x30. Yn ogystal â gwarchod bywyd gwyllt mae’r cynllun yn ceisio atal a gwrthdroi’r difrod i fioamrywiaeth, gan adfer ecosystemau a’u gwneud yn fwy gwydn. Mae’n cydnabod bod natur yng Nghymru dan bwysau eithriadol ac nad yw ecosystemau yn wydn i’r pwysau presennol, ac yn mabwysiadu gweledigaeth y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang:

“Erbyn 2050, mae bioamrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi, ei gwarchod, ei hadfer a’i defnyddio’n ddoeth, gan ategu gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a darparu manteision hanfodol i bobl ym mhobman.”

Mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur wedi’i ddylunio i gydlynu camau gweithredu ar draws y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a chymunedau. Mae’r camau wedi’u nodi ar draws chwe nod allweddol sy’n cyd-fynd â’r ymrwymiadau rhyngwladol a nodir yn y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang:

  • Nod 1: Amddiffyn, adfer a rheoli ecosystemau yn effeithiol i feithrin eu gwydnwch.
  • Nod 2: Diogelu rhywogaethau a chreu lle i rywogaethau ffynnu.
  • Nod 3: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau.
  • Nod 4: Sefydlu llywodraethiant effeithiol a’r gallu i gyflawni.
  • Nod 5: Ymgorffori bioamrywiaeth drwy hybu diddordeb ac. ymwybyddiaeth i gefnogi penderfyniadau effeithiol ar bob lefel
  • Nod 6: Gwella ein tystiolaeth a’n gwaith monitro.

Mae nod 3 – “Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau”,  yn cyd-fynd â tharged byd-eang 7 i: “Lleihau llygredd i lefelau nad ydynt yn niweidiol i fioamrywiaeth”. Mae’n amlygu llygredd fel un o’r pwysau allweddol sy’n cyfrannu at ddirywiad bioamrywiaeth ac yn nodi bod ar Gymru angen “rhagweld, atal a lliniaru achosion colli bioamrywiaeth yn llygad y ffynnon”. 

Dan “Lleihau llygredd”, mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei pholisi Cyfoeth Naturiol i gynnwys camau gweithredu i leihau pwysau fel llygredd sy’n effeithio ar fioamrywiaeth ac ecosystemau.

Mae hefyd yn ymrwymo i darged statudol i gymryd camau i leihau llygredd yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd ar fioamrywiaeth sy’n dod i rym, sef Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (sydd wedi’i gymeradwyo gan y Senedd).

Yma yn Sir y Fflint rydym ni’n rheoli mwy o’n glaswelltiroedd mewn ffyrdd cynaliadwy er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Nid yw bob llystyfiant yn chwyn – darganfyddwch fwy am ein safleoedd blodau gwyllt.

Dweud eich Dweud:

Rydym ni’n gobeithio bod hyn wedi gwella’ch dealltwriaeth o ddull y Cyngor ar gyfer rheoli chwyn a defnyddio glyffosad, a hoffem eich gwahodd i dreulio ychydig funudau yn llenwi’r arolwg isod.

Bydd yr adborth a rowch yn cael ei ystyried gan y Cynghorwyr Sir ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut dylai’r Cyngor barhau i gydbwyso:

  • Cynnal a chadw mannau cyhoeddus diogel a hygyrch,
  • Rheoli costau’n effeithiol,
  • Lleihau defnydd plaladdwyr,
  • Amddiffyn iechyd a lles y gymuned a’r amgylchedd.

Bydd yr arolwg ar agor rhwng 12 Hydref ac 8 Tachwedd 2026. 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/Weed-Control/

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 12/10/2026

    Dyddiad cau: 08/11/2026

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

    E-bost: GwasanaethauStryd@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129