Siapio Bwcle
Mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu barn wrth i’r gwaith barhau i siapio gweledigaeth ar gyfer canol tref Bwcle.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus newydd yn rhan o Siapio Bwcle, prosiect sy’n edrych sut y gellir gwella canol y dref a’i gwneud yn fwy deniadol, yn fwy croesawgar ac yn fywiog i bawb.
Bydd yr ymgysylltu yn helpu’r tîm prosiect i ddeall beth mae pobl yn ei werthfawrogi am Fwcle heddiw, beth y gellir ei wella a beth yr hoffai pobl ei weld yn y dyfodol.
Bydd y farn a gesglir yn cael ei defnyddio i brofi a datblygu gweledigaeth ar gyfer Bwcle, gan helpu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a dyheadau pobl leol.
Gall pobl rannu eu barn ar-lein drwy lenwi’r arolwg byr yma:
Pa unai ydych chi’n byw ym Mwcle, yn gweithio yn y dref, yn rhedeg busnes, yn siopa’n lleol neu’n ymweld yn rheolaidd, mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i ni lywio cam nesaf y prosiect.