Alert Section

Cynnig i aildrefnu Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood 2026


Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori blaenorol ar yr un cynigion yn ystod 2025, ond daethpwyd â’r rhain i ben ym mis Mawrth 2026 pan ddaeth her gyfreithiol hwyr i law mewn perthynas â’r cynigion Ysgolion Catholig a allai fod wedi cael goblygiadau ar gyfer yr ymgynghoriad ar ysgolion Saltney hefyd.

Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni’r amserlen statudol a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Ers i’r broses wreiddiol ddod i ben, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 2026 newydd diwygiedig wedi ei gyhoeddi ac felly bydd ymgynghoriad newydd hefyd yn sicrhau fod y broses yn cydymffurfio gyda’r Cod newydd a bod gan fudd-ddeiliaid gyfle cyfredol a theg i wneud sylwadau.

Bydd ail-ddechrau’r broses ymgynghori yn sicrhau bod budd-ddeiliaid a’r cyhoedd yn cael cyfle arall i rannu eu hadborth cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud.


Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i fudd-ddeiliaid ac eraill sydd â diddordeb ddysgu am y newidiadau a gwneud sylwadau ynglŷn â’r cynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.

Cau Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood ac agor ysgol newydd a fydd yn gweithredu ar y ddau safle presennol nes bydd adeilad newydd wedi’i gymeradwyo a’i adeiladu.

Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle ichi ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau a rhannu eich barn am y cynigion sy’n cael eu cyflwyno. Bydd eich cyfraniad i’r ymgynghoriad yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i’r Cyngor benderfynu a ddylid gweithredu ar y cynnig ai peidio. 

Bydd y cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar 16 Mehefin 2025 ac yn dod i ben ar 29 Gorffennaf 2026.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cynnig yn y Ddogfen Ymgynghori Statudol sydd yma:

Cynnig i aildrefnu Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood
  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 16/06/2026

    Dyddiad cau: 29/07/2026

  • Manylion cyswllt
  • Y Tîm Moderneiddio Ysgolion

    E-bost: saltneyconsultations@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923