Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Fflint


Bydd canlyniadau terfynol (Cynllun Creu Lle) o ymgynghoriadau Creu Lle Sir y Fflint ar gyfer y Fflint ar gael yma maes o law.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cam cyntaf ar gyfer y Fflint yn y gwanwyn 2024 a chafwyd adborth gan fwy na 2050 o bobl leol. Ers hynny, mae’r adborth wedi’i ddefnyddio i helpu i ffurfio datblygiad y Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer y dref, diolch i gyllid a gafwyd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 

Mae’r gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Gwneir hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi.

Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad, ac yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygu’r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio’n well er mwyn gwneud gwelliannau.

Y Fflint a’r Wyddgrug yw’r ddau olaf o saith Cynllun Creu Lleoedd i gael eu datblygu, ac mae cynlluniau wedi’u cwblhau ar gyfer Bwcle, Cei Connah, Treffynnon, Queensferry a Shotton. Mae’r Cynlluniau Creu Lleoedd wedi’u datblygu gan ddefnyddio amrywiaeth o setiau data, ymchwil a barn ac adborth gan y cyhoedd. Mae’r cynlluniau ar gyfer y Fflint a’r Wyddgrug yn barod i gael eu rhannu â’r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad pellach cyn cael eu hystyried i’w mabwysiadu gan y Cyngor a’i bartneriaid allanol.

Mae’r ymarfer ymgynghori diweddaraf hwn yn gyfle i aelodau’r cyhoedd weld y cynlluniau drafft, y blaenoriaethau allweddol sydd wedi’u pennu, a’r dull arfaethedig i roi’r cynlluniau ar waith. 

Bydd cyfle i’r cyhoedd rannu eu barn trwy arolwg ar-lein a gaiff ei lansio ddydd Gwener 27 Chwefror 2026 a bydd ar gael tan ddydd Llun 16 Mawrth 2026

Dewch i weld y prif syniadau o Gynllun Creu Lleoedd y Fflint  a rhannu eich barn gyda ni. 

Cyfle i siarad gydag aelodau o’r Tîm Adfywio ynglŷn â’r cynllun yn Llyfrgell y Fflint, Stryd y Eglwys, Y Fflint, Sir y Fflint , CH6 5AP ar:

  • Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026: 4.00pm - 6.00pm;
  • Dydd Iau 12 Mawrth 2026: 10.00am - hanner dydd 

Gallwch hefyd weld y wybodaeth a chwblhau arolwg papur unrhyw bryd yn ystod oriau agor y llyfrgell rhwng dydd Mawrth, 3 Mawrth 2026 a dydd Iau, 12 Mawrth 2026.

Dweud Eich Dweud 

Canlyniadau

Mae canlyniadau Cyfnod 1 ar gyfer Fflint ar gael i'w gweld isod:

Neu ewch i'n tudalen Creu Lleoedd yn Sir y Fflint i gael gwybod mwy.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 13/03/2024

    Dyddiad cau: 16/03/2026

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth Menter ac Adfywio

    E-bost: regeneration@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129