Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Yr Wyddgrug


Bydd canlyniadau terfynol (Cynllun Creu Lle) o ymgynghoriadau Creu Lle Sir y Fflint ar gyfer yr Wyddgrug ar gael yma maes o law.

Mae Creu Lleoedd yn broses sydd â’r nod o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi amrywiaeth o weithgareddau a fyddai o fudd i’r lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i ddatblygu blaenoriaethau ar gyfer yr ardal a fydd yn cael eu nodi mewn cynllun ar gyfer ardal ddiffiniedig megis canol tref (neu weithiau ran o dref/dinas fwy).

Bydd y cynlluniau’n darparu fframwaith i arwain gweithgarwch a datblygiad prosiectau yn y 5-10 mlynedd nesaf gan ystod o bobl a sefydliadau i greu newid cadarnhaol. Trwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cydlynol tuag at gydweithio, nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a gwella’r ardal i breswylwyr lleol, busnesau ac ymwelwyr, ymysg ystod o ganlyniadau cadarnhaol eraill.

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu y dylid gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer y 7 prif dref yn Sir y Fflint. Cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o weithgaredd rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd yn 2023.

Rhwng mis Mawrth 2024 a mis Chwefror 2026, gwahoddwyd trigolion y Wyddgrug i gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol, yn cynnwys digwyddiadau ar-lein a sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb.

Mae’r cam hwn bellach yn dod â’r dadansoddi data a’r adborth at ei gilydd ac yn nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer y dref. Mae’r arolwg yn gofyn i bobl Shotton pa mor ymwybodol ydynt o Greu Lleoedd yn y Wyddgrug, faint maen nhw’n ei gytuno â’r blaenoriaethau arfaethedig a’r ffordd ymlaen a gynigir.

Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lleoedd Sir y Fflint ar gyfer y Wyddgrug ar gael gyda hyn. 

 


Canlyniadau

Mae canlyniadau Cyfnod 1 ar gyfer Yr Wyddgrug ar gael i'w gweld isod:

Neu ewch i'n tudalen Creu Lleoedd yn Sir y Fflint i gael gwybod mwy.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 13/03/2024

    Dyddiad cau: 16/03/2026

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth Menter ac Adfywio

    E-bost: regeneration@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129