Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Yr Wyddgrug
Bydd canlyniadau terfynol (Cynllun Creu Lle) o ymgynghoriadau Creu Lle Sir y Fflint ar gyfer yr Wyddgrug ar gael yma maes o law.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cam cyntaf ar gyfer yr Wyddgrug yn y gwanwyn 2024 a chafwyd adborth gan fwy na 2050 o bobl leol. Ers hynny, mae’r adborth wedi’i ddefnyddio i helpu i ffurfio datblygiad y Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer y dref, diolch i gyllid a gafwyd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae’r gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Gwneir hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi.
Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad, ac yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygu’r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio’n well er mwyn gwneud gwelliannau.
Y Fflint a’r Wyddgrug yw’r ddau olaf o saith Cynllun Creu Lleoedd i gael eu datblygu, ac mae cynlluniau wedi’u cwblhau ar gyfer Bwcle, Cei Connah, Treffynnon, Queensferry a Shotton. Mae’r Cynlluniau Creu Lleoedd wedi’u datblygu gan ddefnyddio amrywiaeth o setiau data, ymchwil a barn ac adborth gan y cyhoedd. Mae’r cynlluniau ar gyfer y Fflint a’r Wyddgrug yn barod i gael eu rhannu â’r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad pellach cyn cael eu hystyried i’w mabwysiadu gan y Cyngor a’i bartneriaid allanol.
Mae’r ymarfer ymgynghori diweddaraf hwn yn gyfle i aelodau’r cyhoedd weld y cynlluniau drafft, y blaenoriaethau allweddol sydd wedi’u pennu, a’r dull arfaethedig i roi’r cynlluniau ar waith.
Bydd cyfle i’r cyhoedd rannu eu barn trwy arolwg ar-lein a gaiff ei lansio ddydd Gwener 27 Chwefror 2026 a bydd ar gael tan ddydd Llun 16 Mawrth 2026.
Dewch i weld y prif syniadau o Gynllun Creu Lleoedd yr Wyddgrug a rhannu eich barn gyda ni.
Cyfle i siarad gydag aelodau o’r Tîm Adfywio ynglŷn â’r cynllun yn Llyfrgell yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1AP ar:
- Dydd Llun 2 Mawrth 2026: 4.00pm - 6.00pm;
- Dydd Mercher 11 Mawrth 2026: 10.00am - hanner dydd
Gallwch hefyd weld y wybodaeth a chwblhau arolwg papur unrhyw bryd yn ystod oriau agor y llyfrgell rhwng dydd Llyn, 2 Mawrth 2026 a dydd Mercher, 11 Mawrth 2026.
Dweud Eich Dweud
Canlyniadau
Mae canlyniadau Cyfnod 1 ar gyfer Yr Wyddgrug ar gael i'w gweld isod:
Neu ewch i'n tudalen Creu Lleoedd yn Sir y Fflint i gael gwybod mwy.