Ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ceisio barn y cyhoedd a busnesau lleol am ddyfodol toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre.
Ym mis Rhagfyr 2024, wrth gynllunio ein cyllideb ar gyfer 2025/26, roedd y Cyngor yn rhagweld y byddai ei gostau rhedeg o ddydd i ddydd yn cynyddu £47.5 miliwn oherwydd sawl ffactor y tu hwnt i’n rheolaeth.
Roedd hyn llawer mwy na’r incwm a ragwelwyd y byddem yn ei dderbyn o’n grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, Treth y Cyngor a ffioedd a thaliadau am ein gwasanaethau.
Ym mis Chwefror 2025, llwyddodd Cyngor Sir y Fflint i bennu ei gyllideb ar gyfer 2025/26. Doedd hyn ddim yn hawdd, ac fe gymerodd sawl mis i’w gynllunio.
Doedd hyn ddim yn hawdd, ac fe gymerodd sawl mis i’w gynllunio. Er mwyn cau bwlch cyllidebol mor fawr, bu’n rhaid ystyried nifer o ddewisiadau anodd iawn. Roedd hyn yn cynnwys lleihau’r gyllideb i redeg ein toiledau cyhoeddus, gyda’r bwriad o ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddarparu mynediad i doiledau yn y lleoliadau yma.
Er nad oes yna ofyniad cyfreithiol bod Cynghorau Sir yng Nghymru yn darparu toiledau cyhoeddus, o dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017, mae’n rhaid iddynt lunio Strategaeth Toiledau Lleol sy’n nodi sut y gall pobl ddefnyddio toiledau yn y gymuned. Mae Strategaeth Toiledau Sir y Fflint ar gael ar ei wefan.
Bellach, ni all Cyngor Sir y Fflint fforddio i barhau i redeg y toiledau cyhoeddus yma, ac mae’n agored i weithio gyda grwpiau gwirfoddol neu grwpiau cymunedol, cynghorau tref neu gymuned, busnesau, sefydliadau, neu unrhyw gyfuniad o bob un, i gael syniadau i barhau i gynnal mynediad i gyfleusterau toiledau cyhoeddus yn yr ardaloedd yma.
Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae’r oriau agor ar wefan y Cyngor.
Mae dau o arolygon y gellir eu cwblhau:
- i’r cyhoedd
Arolwg Cyhoeddus
- i sefydliadau, busnesau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol
Arolwg Sefydliadau, Busnesau Grwpiau Cymunedol a Gwirfoddol