Diweddariad i'r Map Rhwydwaith Teithio Actif Sir y Fflint
Rydym am ddarparu rhwydwaith i Sir y Fflint sy'n caniatáu i gerdded, olwyno a beicio ddod y ffordd fwyaf naturiol a normal o deithio o le i le ar gyfer siwrneiau lleol. A thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cafodd ein map presennol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac mae'n bryd nawr adlewyrchu ar y newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.
Rydym yn adolygu ac yn mireinio'r ATNM i gynnwys:
- Llwybrau Presennol: Dyma’r llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, olwyno a beicio (neu'r holl ddulliau hynny).
- Llwybrau’r Dyfodol: Llwybrau arfaethedig yw'r rhain nad ydynt yn bodoli eto neu sydd angen eu gwella i fodloni'r safonau gofynnol.
Mae'r sylwadau a'r awgrymiadau wedi cael eu hadolygu ac mae mapiau wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad statudol 12 wythnos. Bydd hwn yn cael ei gynnal o 10 Awst 2026 tan 2 Tachwedd 2026. Bydd y map diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026. Gofynnwn yn garedig i chi glicio ar y ddolen ganlynol i weld y map a dweud eich dweud.
Beth yw teithio llesol?
Teithio Llesol yw'r enw a roddir ar siwrneiau beunyddiol, pellter byr, y mae pobl yn eu gwneud ar droed neu ar feic, fel mynd i'r gwaith, i’r ysgol, i’r coleg neu i gyrraedd y siopau a chyfleusterau eraill. Gall hyn hefyd gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd eraill.
Nid yw Teithio Llesol yn cyfeirio at siwrneiau allai pobl eu gwneud am resymau hamdden, fel mynd i gerdded neu feicio yng nghefn gwlad.
Pam mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal?
Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn wreiddiol yn 2013, gwnaeth y ddeddfwriaeth hon ofyniad cyfreithiol i Gynghorau yng Nghymru hyrwyddo a datblygu rhwydwaith o lwybrau Teithio Llesol yn eu hardal. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi adeiladu seilwaith newydd, wedi gwella llwybrau Teithio Llesol presennol ac wedi darparu cyfleusterau newydd er budd cerddwyr, pobl sy’n olwyno a beicwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu ac ymgynghori ar eu cynlluniau ar gyfer Teithio Llesol yn y dyfodol.
Rhowch eich barn ar gerdded, defnyddio cymhorthion symudedd a beicio yn Sir y Fflint!
Cynhelir y digwyddiadau wyneb yn wyneb canlynol, a bydd dyddiadau pellach yn cael eu hychwanegu wrth iddynt gael eu cadarnhau:
- Dyddiad i'w gadarnhau
- Dyddiad i'w gadarnhau