Alert Section

Ymgysylltu Heddiw i Drawsnewid Yfory – Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu Ddrafft


Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i dderbyn adborth ar ei Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft newydd - Ymgysylltu Heddiw i Drawsnewid Yfory.  

Nod y Strategaeth yw nodi’n glir ac yn syml sut y gall pobl gymryd rhan, dweud eu dweud ar bethau sy’n bwysig iddynt a helpu i wella gwasanaethau presennol y Cyngor yn ogystal â helpu i siapio sut fydd gwasanaethau’n edrych yn y dyfodol.  

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal o 29 Medi i 9 Tachwedd 2025 a bydd yn agored i bawb gael dweud eu dweud. 

Bydd yr adborth y byddwn yn ei dderbyn o gymorth i ddatblygu fersiwn derfynol y Strategaeth.

Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae’r oriau agor ar wefan y Cyngor.  

Bydd cymorth hefyd ar gael ar Lyfrgell Deithiol Gwella ar y dyddiadau isod:

Lyfrgell Deithiol Gwella
DyddiadYmweld
30 Medi Caerwys, Calcoed, Brynffordd, Ysgeifiog a Nannerch
2 Hydref Talacre, Gronant, Gwaenysgor, Gwespyr, Mostyn a Phenyffordd (CH8)
15 Hydref Penymynydd, Penyffordd (CH4), Yr Hôb, Oaklea Grange, Kinnerton
17 Hydref Mancot, Mynydd Isa, Ewlo, Green Lane East
22 Hydref Penarlâg, Sealand, Ewlo, Pentre Cythrel, Shotton, Shotton Uchaf
24 Hydref Gwernymynydd, Gwernaffield, Rhosesmor, Rhydymwyn
4 Tachwedd Llanfynydd, Ffrith, Abermorddu, Caergwrle, Coed-llai, Treuddyn
6 Tachwedd Saltney Ferry, Saltney, Sandycroft, Mynydd-y-Fflint, Llaneurgain, Northop Hall

Ar ôl derbyn a dadansoddi’r adborth, byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau, ynghyd â’r strategaeth derfynol:

  • yma ar ein gwefan
  • trwy’r holl sianeli a ddefnyddiwyd i gasglu eich adborth a
  • byddant hefyd ar gael yn ein Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu

Cyn llenwi’r arolwg, a fyddech cystal â threulio ychydig o funudau yn edrych trwy’r strategaeth ddrafft.

Dweud eich dweud

I ofyn am yr arolwg mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â:

  • E-bost: gwasanaethaucwsmer@siryfflint.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01352 703020
  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 29/09/2025

    Dyddiad cau: 09/11/2025

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Chyfathrebu

    E-bost: gwasanaethaucwsmer@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 703020