Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Treffynnon
Canlyniadau ar gael
Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod
Pam mae angen Cynlluniau Creu Lle a pham mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal? Mae Creu Lle yn broses sydd â’r nod o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi ystod o weithgareddau a fyddai o fudd i’r lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd gwybodaeth a gesglir trwy broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer yr ardal a nodir mewn cynllun ar gyfer ardal ddiffiniedig megis canol tref (neu weithiau’n rhan o dref/dinas fwy).
"Bydd y cynllun yn rhoi manylion am y camau gweithredu sydd eu hangen ac sy'n debygol o gael eu cymryd o fewn y 5-10 mlynedd nesaf gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau i sicrhau newid cadarnhaol. Drwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cyd-gysylltiedig o gydweithio, nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi, gwella’r ardal ar gyfer trigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr ac amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol eraill.
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer 7 prif dref y sir.
Bydd dau ymarfer ymgynghori yn cael ei gynnal ar gyfer pob cynllun; un ar y cychwyn cyntaf i gasglu barn pobl ar anghenion y dref ac un wedyn i roi cyfle i fudd-ddeiliaid adolygu’r cynllun drafft.
Rhwng 20 Ionawr 2023 a 31 Ionawr 2025 gwahoddwyd trigolion Treffynnon i gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol, yn cynnwys digwyddiadau ar-lein a sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb.
Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lleoedd Sir y Fflint ar gyfer Treffynnon ar gael gyda hyn.
Canlyniadau Terfynol
Mae Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Treffynnon ar gael i’w gweld isod:
Neu ewch i'n tudalen Creu Lleoedd yn Sir y Fflint i gael gwybod mwy.