Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Bwcle


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Mae Creu Lleoedd yn broses sydd â’r nod o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi ystod o weithgareddau a fyddai o fudd i’r lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd gwybodaeth a gesglir trwy broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer yr ardal a nodir mewn cynllun ar gyfer ardal ddiffiniedig megis canol tref (neu weithiau’n rhan o dref/dinas fwy).

Bydd y cynllun yn rhoi manylion am y camau gweithredu sydd eu hangen ac sy’n debygol o gael eu cymryd o fewn y 5–10 mlynedd nesaf gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau i sicrhau newid cadarnhaol. Drwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cyd-gysylltiedig o gydweithio, yn nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi, yn gwella’r ardal ar gyfer trigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr, ac yn darparu amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol eraill.

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer saith prif dref y sir.

Bydd dau ymarfer ymgynghori yn cael ei gynnal ar gyfer pob cynllun; un ar y cychwyn cyntaf i gasglu barn pobl ar anghenion y dref, ac un wedyn i roi cyfle i fudd-ddeiliaid adolygu’r cynllun drafft.

Rhwng 20 Ionawr 2023 a 30 Mawrth 2024, gwahoddwyd trigolion Bwcle i gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys digwyddiadau ar-lein a sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb.

Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lleoedd Sir y Fflint ar gyfer Bwcle ar gael yma yn fuan.


Canlyniadau Terfynol

Mae’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Shotton ar gael i’w gweld isod:

Neu ewch i'n tudalen Creu Lleoedd yn Sir y Fflint i gael gwybod mwy.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 20/01/2023

    Caewyd: 30/03/2024

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth Menter ac Adfywio

    E-bost: regeneration@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 702120