Alert Section

Ymgynghoriad – rhwystrau'r rhwydwaith beicio lleol


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Pwrpas yr ymgynghoriad

To seek feedback on proposals to review barriers across the Flintshire Cycle Network. The consultation aimed to gather views from residents, stakeholders, and specialist user groups to ensure the cycle network is safe, accessible, and inclusive for all users.

Pryd y gallai pobl ddweud eu dweud

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar-lein ym mis Ionawr 2026 a daeth i ben ddydd Gwener 30 Ionawr 2026.

Sut y gallai pobl ddweud eu dweud

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar-lein ar wefan y Cyngor, lle gallai preswylwyr fynegi eu barn ynglŷn â’r rhwystrau a saif mewn amryw rannau o rwydwaith beicio Sir y Fflint. Rhannwyd y rhwystrau yn ôl ardaloedd daearyddol a darparwyd lluniau i’w gwneud yn haws i bobl wybod ble’r oeddent, fel bod modd iddynt gyflwyno sylwadau’n benodol am y rhai oedd yn berthnasol iddynt.

Cynhaliwyd sesiynau galw heibio i’r cyhoedd hefyd, fel y gallai preswylwyr siarad â swyddogion y Cyngor, trafod lleoliadau’r rhwystrau a sôn am eu profiadau o ddefnyddio’r rhwydwaith beicio. Cyn Nadolig 2025, cynhaliwyd sesiynau yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar 28 Tachwedd (10am-5pm) a 4 Rhagfyr (4pm-8pm) ac ym Mhafiliwn Jade Jones, y Fflint ar 2 Rhagfyr (10am-5pm).

Cynhaliwyd ychwaneg o sesiynau galw heibio ar 23 Ionawr 2026 yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a 26 Ionawr 2026 yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Treffynnon.

Y bobl a gymerodd ran

Cafwyd ymatebion gan breswylwyr a budd-ddeiliaid drwy’r ymgynghoriad ar-lein a’r sesiynau galw heibio. Roedd yr ymatebion hynny’n cynnwys sylwadau ynglŷn â rhwystrau penodol, pryderon am hygyrchedd ac awgrymiadau am welliannau. Mae crynodeb llawn o’r cyfranogwyr a’r ymatebion ar y gweill ar hyn o bryd.

Yr hyn a ddywedodd pobl wrthym

Cynhyrchodd yr ymgynghoriad ymateb gwerthfawr gan breswylwyr a budd-ddeiliaid. Roedd y rhan helaeth o’r ymatebwyr o blaid argymhellion cychwynnol y Cyngor, yn enwedig felly’r cynigion i gael gwared ag amryw rwystrau er hygyrchedd i feicwyr, cerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, teuluoedd â babanod mewn coetsis a defnyddwyr beiciau wedi’u haddasu.

Cafwyd rhai sylwadau’n gwrthwynebu argymhellion cychwynnol y Cyngor, a oedd yn amlygu pryderon neu ystyriaethau penodol yn lleol. Mae’r rhwystrau yn yr ardaloedd hynny dan adolygiad er mwyn sicrhau fod y penderfyniadau’n gytbwys o safbwynt hygyrchedd, diogelwch ac anghenion lleol.

Yr hyn a wnaethom gyda’ch ymatebion

Bu swyddogion y Cyngor yn adolygu’r ymatebion a gafwyd drwy’r ymgynghoriad yn fanwl. Gan fod y mwyafrif o blaid cael gwared â’r rhwystrau, bu modd i’r Cyngor ddechrau’r gwaith o dynnu llawer ohonynt i lawr ledled y rhwydwaith beicio, wedi’i ariannu drwy Grant Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru.

Bydd y rhai cyntaf yn dod i lawr yng Nglannau’r Afon yn Saltney, Shotton, y Fflint, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Pont Penarlâg a Garden City. Caiff y mannau hynny a fu’n destun sylwadau’n gwrthwynebu’r argymhellion cychwynnol eu hadolygu’n fanylach cyn dod i benderfyniad terfynol.

Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn dal yn sail ar gyfer rhaglen barhaus y Cyngor i wella Rhwydwaith Beicio Sir y Fflint er mwyn helpu i greu llwybrau teithio mwy diogel, mwy hygyrch a mwy cynhwysol i bobl leol ac ymwelwyr.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 28/11/2025

    Caewyd: 30/01/2026

  • Manylion cyswllt
  • Ymgynghoriad – rhwystrau'r rhwydwaith beicio lleol

    E-bost: active.travel@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 701234