Ymgynghoriad ynghylch aildrefnu Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood 2025
Canlyniadau ar gael
Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod
Ar ôl i her gyfreithiol hwyr ddod i law mewn perthynas â’r cynigion sy’n ymwneud â’r Ysgolion Catholig (a allai fod wedi cael goblygiadau ar gyfer ymgynghoriad ysgolion Saltney hefyd), cafodd yr ymgynghoriad hwn ei oedi ym mis Mawrth 2026.
Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni’r amserlen statudol a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Ers i’r broses wreiddiol ddod i ben, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 2026 newydd diwygiedig wedi ei gyhoeddi ac felly bydd ymgynghoriad newydd hefyd yn sicrhau fod y broses yn cydymffurfio gyda’r Cod newydd a bod gan fudd-ddeiliaid gyfle cyfredol a theg i wneud sylwadau.
Mae manylion am yr ymgynghoriad newydd a sut i gymryd rhan ar gael yn yr adran Ymgynghoriadau Agored ar ein gwefan.
Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i fudd-ddeiliaid ac eraill sydd â diddordeb ddysgu am y newidiadau a gwneud sylwadau ynglŷn â’r cynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.
Cau Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood ac agor ysgol newydd a fydd yn gweithredu ar y ddau safle presennol nes bydd adeilad newydd wedi’i gymeradwyo a’i adeiladu.
Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle ichi ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau a rhannu eich barn am y cynigion sy’n cael eu cyflwyno. Bydd eich cyfraniad i’r ymgynghoriad yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i’r Cyngor benderfynu a ddylid gweithredu ar y cynnig ai peidio.
Bydd y cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar 3 Mehefin 2025 ac yn dod i ben ar 18 Gorffennaf 2025.