Ymgynghori ar y Gyllideb 2025 / 2026
                        
                            Canlyniadau ar gael 
                            Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod
                         
Pwrpas yr ymgynghoriad
- I amlinellu’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor wrth fantoli ei gyllideb ar gyfer 2025/26.
 
- I geisio barn ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i breswylwyr, ynghyd â’u safbwyntiau am strategaethau i bontio’r bwlch yn y gyllideb – nid gan Gyngor Sir y Fflint yn unig, ond gan Gynghorau eraill ledled y DU. 
 
- I gefnogi aelodau wrth iddynt ystyried dewisiadau i geisio mantoli’r cyfrifon. 
 
Pryd oedd pobl yn cael dweud eu dweud:
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 15 Hydref 2024 a daeth i ben ar 24 Tachwedd 2024. 
Sut oedd pobl yn cael dweud eu dweud:
Gallai pobl roi eu barn drwy lenwi holiadur byr ar-lein. 
Cafodd preswylwyr nad oeddynt yn gallu gwneud yr arolwg ar-lein eu cyfeirio at un o bum Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, lle’r oedd cefnogaeth ar gael.
Nifer y bobl a gymerodd ran:
Cymerodd 3,480 o bobl ran. Ni wnaeth pawb a ddechreuodd yr arolwg fynd ymlaen i gwblhau’r holl gwestiynau.  
Cynhwysir pob ymateb a roddwyd cyn rhoi’r gorau i’r arolwg yn yr adroddiad cryno hwn. 
Yr hyn ddywedodd pobl wrthym:
Mae adroddiad cryno o’r adborth a gafwyd wedi cael ei lunio. 
Yr hyn a wnaethom gyda’ch adborth:
Bu’r adborth a gawsom yn help i wneud penderfyniadau am osod cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025/26, a bydd yn parhau i gynorthwyo ystyriaethau sy’n arwain at osod y gyllideb ar gyfer 2026/27.