Alert Section

Camdriniaeth yn y cartref a Trais Rhywiol


Camdriniaeth yn y cartref yw pan fo unigolyn neu unigolion yn cam-drin eu pwerau emosiynol, corfforol, rhywiol, seicolegol neu economaidd ac yn rheoli aelod o’u teulu, partner neu gynbartner waeth beth fo’u rhyw, oedran neu gyfeiriadedd rhywiol.

Mae gwaith ymchwil yn dangos mai merched sy’n cael eu cam-drin yn y cartref gan amlaf, a hynny gan ddynion.

Gall unrhyw un ddioddef o drais yn y cartref waeth beth fo’u hil, ethnigrwydd, crefydd, oedran, dosbarth, anabledd neu ffordd o fyw.

Gall camdriniaeth yn y cartref hefyd ddigwydd mewn perthnasau lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a gallant gynnwys aelodau eraill o’r teulu, gan gynnwys plant.


Beth yw’r arwyddion o gamdriniaeth yn y cartref?

Efallai y gall y rhestr isod eich helpu i adnabod p’un a ydych yn cael eich rheoli gan eich partner:

  • A oes arnoch ofn eich partner?
  • A ydych yn teimlo’n ynysig?  Ydyn nhw’n eich gwahardd rhag cael cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau?
  • A ydynt yn genfigennus neu’n feddiannol?
  • A ydynt yn eich bychanu neu’ch sarhau?
  • A ydynt yn eich cam-drin ar lafar?
  • A ydynt yn dweud wrthych eich bod yn ddiwerth ac na fyddech yn gallu ymdopi hebddyn nhw?
  • A ydynt wedi bygwth eich brifo chi neu bobl sy’n agos atoch?
  • A ydynt yn eich beirniadu trwy’r amser?
  • A yw eu hwyliau’n gallu newid yn sydyn gan wneud iddynt ddominyddu’r cartref?
  • A ydynt yn llawn cyfaredd un funud ac yn ymosodol y llall? Fel Dr Jekyll / Mr Hyde?
  • A ydynt yn rheoli’ch arian?
  • A ydych yn teimlo eich bod yn cael eich dominyddu neu’ch rheoli?
  • A ydych yn newid eich ymddygiad i osgoi sbarduno ymosodiad?
  • A ydych yn ansicr ynglŷn â’ch barn eich hun?
  • A ydynt yn difrodi’ch eiddo?
  • A ydynt yn malu’ch dodrefn?
  • A ydynt yn bygwth lladd eich anifeiliaid anwes?
  • A ydynt yn bygwth herwgipio’r plant neu gael hawl gwarchodaeth?
  • A ydynt yn gyrru’n gyflym er mwyn eich dychryn?
  • A ydynt yn eich cloi allan o’r tŷ yn ystod ffrae?
  • A ydynt yn dweud wrthych beth i’w wisgo a sut i wneud eich gwallt?

Cyffredinrwydd

Bydd un o bob pedair menyw ac un o bob saith dyn yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref yn ystod eu hoes.  Mae dwy fenyw yn cael eu lladd gan eu partner neu gynbartner bob wythnos yn y DU.  Bydd bron i hanner y merched yng Nghymru a Lloegr yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref, ymosodiad rhywiol neu achos o ymlid yn ystod eu hoes.

Er mai dim ond cyfran fach o’r achosion o gamdriniaeth yn y cartref y mae’r heddlu yn cael gwybod amdanynt, maent yn derbyn un alwad y funud mewn cysylltiad â chamdriniaeth yn y cartref yn y DU, sef oddeutu 1,300 o alwadau y dydd neu dros 570,000 bob blwyddyn (Stanko,2000).  Fodd bynnag, yn ôl Arolwg Troseddau Prydain, mae’r heddlu yn cael gwybod am lai na 40% o achosion o droseddau trais yn y cartref (Dodd et al, Gorffennaf 2004; Walby ac Allen, 2004; Swyddfa Gartref, 2002).

Mae erledigaeth ailadroddus yn gyffredin.  Mae 44% o ddioddefwyr trais yn y cartref yn cael eu cam-drin fwy nag unwaith.  Mae cyfraddau erledigaeth ailadroddus yn uwch mewn camdriniaeth yn y cartref nag unrhyw fath arall o drosedd (Dodd et al, Gorffennaf 2004).


Plant

Mae plant sy’n byw mewn cartrefi lle mae camdriniaeth yn y cartref yn digwydd bellach yn cael eu nodi “mewn perygl” o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.  Ar 31 Ionawr 2005, estynnwyd y diffiniad cyfreithiol o niweidio plant yn Adran 120 y ddeddf hon er mwyn cynnwys ‘niwed a ddioddefir trwy weld neu glywed eraill yn cael eu cam-drin, yn arbennig yn y cartref.’

Mae o leiaf 750,000 o blant yn gweld trais yn y cartref bob blwyddyn.  Mae bron i dri chwarter y plant sydd ar y gofrestr ‘mewn perygl’ yn byw mewn cartrefi lle mae camdriniaeth yn y cartref yn digwydd (Adran Iechyd, 2002).

Mewn 40 - 70% o achosion lle mae merched yn cael eu cam-drin, mae’r plant hefyd yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol eu hunain (Stark a Flitcraft, 1996; Bowker et al., 1998).


Ble allaf gael help?

Gall sawl sefydliad roi cymorth ac arweiniad i chi.  Dilynwch y ddolen isod - Camdriniaeth yn y cartref - Ffynonellau cyngor a chymorth.  

Fodd bynnag, mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.