Grantiau a Rhoddion
Cynllun Grant y Cyfamod Cymunedol
Sefydlwyd Cynllun Grant y Cyfamod Cymunedol er mwyn cynorthwyo’r Cyfamod Cymunedol ac i ariannu prosiectau lleol sy’n dod â chymunedau sifil a’r lluoedd arfog at ei gilydd, gan gryfhau cysylltiadau a chyd-ddealltwriaeth. Gweinyddir y cynllun grant drwy ddod â phanel rhanbarthol at ei gilydd dair gwaith y flwyddyn.
Dosberthir yr arian drwy’r paneli rhanbarthol hyn, a fydd yn cael eu cadeiryddio yn eu tro gan y Llynges Frenhinol, y Fyddin a’r Llu Awyr Brenhinol. Er fod y paneli bellach yn rhanbarthol, bydd tîm Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r Trysorlys yn dal i oruchwylio’r broses.
Gallwch e-bostio panel gweinyddu grantiau rhanbarthol Cymru yn covenant-grantscheme-wales@mod.uk
Cronfa Addysg Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Lansiwyd Cronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn (sef Cronfa Gymorth y Weinyddiaeth Amddiffyn i Ysgolion Gwladol gyda Phlant Gwasanaethwyr) yn 2011 er mwyn cynorthwyo ysgolion a ariennir yn gyhoeddus, academïau ac ysgolion rhydd ledled y DU i liniaru effeithiau symud a/neu ymfyddino eu cymunedau gwasanaethol; boed yn lluoedd arfog arferol neu’n lluoedd wrth gefn.
Cronfa Llety Cyn-filwyr
Cymorth i brosiectau sy’n rhoi llety i gyn-filwyr.
Army of Angels
Gall aelodau a chyn-aelodau o Luoedd Arfog Prydain sydd wedi cael eu hanafu’n feddyliol neu’n gorfforol wrth wasanaethu mewn rhyfeloedd, gan gynnwys cyn-filwyr mewn rhyfeloedd yn Ewrop, y Dwyrain Pell, Ynysoedd y Falklands a’r Gwlff, ac sy’n dioddef o dlodi ariannol ar hyn o bryd, wneud cais am grantiau gan Army of Angels yma.
Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Gall y Lleng Brydeinig Frenhinol ddarparu cymorth i filwyr a chyn-filwyr a’u dibynyddion sy’n dioddef yn ariannol.