Canlyniadau'r ailasesiad o ffyrdd lleol
Dros y 12 mis diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn casglu barn trigolion lleol i helpu i lywio adolygiad a deall pryderon ynglŷn â ffyrdd penodol. O ganlyniad i’r adborth hwn, mae’r Cyngor wedi ailasesu nifer o ffyrdd ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos.
Gan ddefnyddio’r meini prawf eithrio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2022, mae wyth ffordd leol bellach wedi’u dynodi fel rhai sydd â rhan hir a gwastad, sydd un ai’n bodloni’r eithriadau i gyfyngiadau terfyn cyflymder o 20mya, neu sydd angen asesiad pellach y tu allan i’r newid i 20mya yn y broses ddeddfwriaeth. Bydd y ffyrdd yma rwan yn mynd drwy ymgynghoriad statudol ym mis Gorffennaf/Awst, a gan dibynnu ar ganlyniad hwnnw, bydd terfynau sydd wedi’u hailasesu’n cael eu cyflwyno ym mis Tachwedd.
Gellir cael gafael ar restr lawn o’r ffyrdd a nodwyd a lleoliadau’r eithriadau isod:
Eithriadau