Alert Section

Gweithredu cyfyngiadau 20mya ar ffyrdd lleol (Sleidiau Digwyddiad Gwybodaeth i'r Cyhoedd)

Rhan y Cyngor o ran gweithredu deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru

Rhwng 25 Ionawr a 9 Chwefror 2023, cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus ar gyfer trigolion Bwcle, Mynydd Isa, New Brighton, Drury, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami, lle cyflwynwyd cyfyngiadau cyflymer 20mya 12 mis yn gynharach yn rhan o Gynllun Aneddiadau Cam Un Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr unigolion a oedd yn bresennol wybodaeth am ddeddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru a’r meini prawf ar gyfer ei gweithredu, ynghyd â gwybodaeth am ran cynghorau lleol a chyflwyno’r cyfyngiadau cyflymder 20mya ar ffyrdd lleol. 

Ar y dudalen hon gallwch chi weld y wybodaeth y cafodd ei rhannu yn y sesiynau hyn. 


Rôl Llywodraeth Cymru

Y Ddeddfwriaeth

  • Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth i wneud y newid hwn i’r Senedd ar 12 Gorffennaf 2022. Yn dilyn trafodaeth a phleidlais, cafodd ei chymeradwyo a bydd yn dod yn gyfraith ar 17 Medi 2023
  • Mae’r Gorchymyn yn lleihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, oni bai bod yr awdurdod priffyrdd yn pennu terfyn cyflymder gwahanol drwy Orchymyn
  • Mae ffordd gyfyngedig yn ffordd gyda system o oleuadau stryd ar ffurf lampiau wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd

Y Meini Prawf

  • Mae ffyrdd cyfyngedig fel rheol yn ffyrdd mewn ardaloedd preswyl sydd â therfyn cyflymder o 30mya ar hyn o bryd
  • Dylid gosod terfyn cyflymder o 20mya pan geir posibilrwydd o gymysgedd o gerddwyr, beicwyr a cherbydau yn rheolaidd, gyda therfyn o 30mya yn cael ei ystyried pan geir tystiolaeth gref bod cyflymder uwch yn ddiogel
  • Mae meini prawf ‘lleoliad’ wedi’u datblygu i benderfynu ymhle dylid gosod terfynau cyflymder o 20mya, gan ddarparu dull cyson ar draws Cymru

Meini Prawf Lleoliad

O fewn taith gerdded 100 metr i…

  • Unrhyw leoliad addysgol e.e. sefydliad addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg bellach neu addysg uwch
  • Unrhyw ganolfan gymunedol
  • Unrhyw ysbyty
  • Lle mae nifer yr eiddo preswyl a/neu fanwerthu sy’n wynebu ffordd yn fwy nag 20 adeilad fesul km

Ffynhonnell: www.llyw.cymru

Meini prawf 20mya ychwanegol posibl

Mae’n bosibl bod darnau o ffyrdd ble ceir galw mawr (posibl) am gerdded a beicio nad ydynt yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf lleoliad, ond ble mae terfyn cyflymder o 20mya yn briodol:

  • tir bob ochr i briffordd yn barcdir agored a/neu’n gaeau chwarae sy’n cael eu defnyddio’n aml gan bobl ar droed neu feic
  • os ceir mynediad a ddefnyddir yn aml i ysgol neu ysbyty ar hyd y ffordd, hyd yn oed os yw’r mynediad hwn yn bellach na 100 metr o’u prif fynediad
  • y briffordd yn llwybr teithio llesol dynodedig
  • os yw nifer a/neu fath y damweiniau ar hyd y ffordd yn golygu y byddai terfyn cyflymder o 20mya yn darparu diogelwch sylweddol a buddiannau eraill i ddefnyddwyr y ffordd a’r gymuned

Meini Prawf Eithrio

  • Disgwylir i’r mwyafrif o eithriadau gael eu gwneud ar briffyrdd sy’n cludo traffig drwy ardaloedd trefol, ble nad oes llawer o gerddwyr/beicwyr yn eu defnyddio
  • Fel rheol, ni ddylid gwneud eithriadau os yw ffordd yn cludo traffig lleol yn bennaf a dim ond yn gwasanaethu eiddo preswyl, a lle mae pobl yn cerdded ac yn beicio
  • Ni ddylai penderfyniadau ar eithriadau gael eu dylanwadu gan gyflymder presennol y traffig a dylid eu gwneud gan yr awdurdod priffyrdd lleol sy’n adnabod eu ffyrdd orau

Ffynhonnell: https://www.llyw.cymru/pennu-eithriadau-ir-terfyn-cyflymder-diofyn-o-20mya-ar-ffyrdd-cyfyngedig

Ffyrdd a all aros yn ffyrdd 30mya

Dyma enghreifftiau i ddangos sut gellir gwneud penderfyniadau lleol ar sail tystiolaeth:

  • Cyfleusterau lleol: Efallai bod cyfleusterau lleol fel canolfan gymunedol neu feddygfa ar y ffordd dan sylw, ond efallai bod pobl yn teithio iddynt ar droed neu ar feic ar hyd llwybr gwbl wahanol
  • Efallai bod eiddo preswyl a manwerthu ar un ochr i’r ffordd, ond os oes tir agored ar yr ochr arall efallai nad oes yn rhaid i gerddwyr na beicwyr groesi’r ffordd
  • Ffyrdd cyfyngedig drwy ardaloedd diwydiannol

Rôl Cynghorau Lleol

Defnyddio’r Meini Prawf 20mya 

Ym mis Chwefror 2022, cyn cyhoeddi meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru, gwnaeth Cyngor Sir y Fflint weithredu cyfyngiadau cyflymder 20mya ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos yn rhan o Gynllun Aneddiadau Cam Un. Isod, ceir dwy astudiaeth achos yn dangos sut gafodd meini prawf lle Llywodraeth Cymru ei roi ar waith ar ffyrdd a strydoedd lleol.

Astudiaethau Achos

Ffordd Gyfyngedig / Stryd Breswyl – Park Avenue, Mynydd Isa
(Gweithredwyd ym mis Chwefror 2022 cyn Meini Prawf Eithriadau Llywodraeth Cymru)
Map-of-Park-Avenue-Mynydd-Isa-Cymraeg
Agor Park Avenue, Mynydd Isa mewn ffenestr newydd
Mae’n rhaid i ardal fod o fewn taith gerdded 100m i: unrhyw leoliad addysgol (e.e. addysg gynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch); unrhyw ganolfan gymunedol; unrhyw ysbyty, neu; lle mae nifer yr eiddo manwerthu a/neu breswyl sydd o flaen ffordd yn fwy nag 20 eiddo fesul cilomedr, er mwyn i feini prawf lle benderfynu a ddylai ardal fod yn 20mya. Mae’r map yn dangos y pedwar lleoliad ar Park Avenue, Mynydd Isa sy’n bodloni’r meini prawf hyn.
Ffordd Gyfyngedig / Prif Ffordd – B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle
(Gweithredwyd ym mis Chwefror 2022 cyn Meini Prawf Eithriadau Llywodraeth Cymru)
Map-of-Liverpool-Road-Buckley-Cymraeg
Agor B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle mewn ffenestr newydd
Mae’n rhaid i ardal fod o fewn taith gerdded 100m i: unrhyw leoliad addysgol (e.e. addysg gynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch); unrhyw ganolfan gymunedol; unrhyw ysbyty, neu; lle mae nifer yr eiddo manwerthu a/neu breswyl sydd o flaen ffordd yn fwy nag 20 eiddo fesul cilomedr, er mwyn i feini prawf lle benderfynu a ddylai ardal fod yn 20mya. Mae’r map yn dangos y pedwar lleoliad ar B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle sy’n bodloni’r meini prawf hyn.

Rôl Awdurdod Lleol

  • Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd orfodol i weithredu’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig
  • Fel rhan o’r newid, bydd gan bob ffordd gyfyngedig derfyn cyflymder o 20mya, oni bai bod yr awdurdod priffyrdd yn pennu terfyn cyflymder gwahanol drwy Orchymyn
  • Wrth ystyried eithriadau i’r rheol 20mya mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddangos bod ‘tystiolaeth gref’ yn bodoli o ran diogelwch cyflymder uwch. Ni fydd pob ffordd 30mya yn pasio’r prawf yma, a dylai awdurdodau priffyrdd baratoi Gorchmynion cyfreithiol i gadw terfyn cyflymder presennol y ffyrdd hyn. Mae’r rhain wedi’u galw’n ‘eithriadau’ i’r terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig
  • Os yw eu penderfyniad yn gwyro oddi wrth y canllawiau hyn, mae’n rhaid i awdurdodau priffyrdd fod ag achos clir a rhesymedig
  • Mae pob terfyn cyflymder yn cael ei asesu’n ddiduedd ac yn unol â meini prawf cenedlaethol penodol – nid oes gan awdurdodau lleol y gallu i ddiystyru'r meini prawf yn seiliedig ddewis personol neu ddylanwad
  • Mae’n rhaid hysbysebu pob eithriad yn ffurfiol yn unol â’r weithdrefn ymgynghori statudol, a dylid gwahodd gwrthwynebiadau ffurfiol a’u hasesu’n ddiduedd

Rôl Llywodraeth Cymru a’r Heddlu

Addysgu a Gorfodi

  • Bydd GanBwyll a’r Heddlu yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg, ymgysylltu a gorfodi rŵan ac ar ôl mis Medi 2023
  • Mae’r 8 anheddiad cyntaf wedi’u defnyddio i brofi dewisiadau ymgysylltu a gorfodi amrywiol, yn cynnwys gweithgareddau Gwylio Cyflymder Cymunedol a gweithio gydag ysgolion, y Gwasanaeth Tân ac Achub a phartneriaid eraill
  • Mae’r llywodraeth wedi penodi asiantaeth allanol o’r enw Lynn i ddarparu ymgyrch gyfathrebu a newid ymddygiad i helpu i gyflwyno’r terfynnau cyflymder newydd o 20mya

Cyflwyniad sesiynau gwybodaeth 20mya i’r cyhoedd

I lawrlwytho copi o’r sleidiau, cliciwch isod.

Sesiwn Wybodaeth ar Derfyn Cyflymder 20mya Bwcle a’r Ardaloedd Cyfagos