Alert Section

Ymgynghoriad ar Wasanaethau bysiau â Chymhorthdal yn Sir y Fflint


*Mae'r cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn tan ddydd Gwener 18 Hydref*

Fel pob Cyngor yng Nghymru ac yng ngweddill Prydain, mae pwysau mawr ar Gyngor Sir y Fflint i wneud arbedion ar ei wariant cyhoeddus.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn lleihau cyllid Llywodraeth Cymru o £1.7 biliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac mae’n anochel y bydd hyn yn effeithio ar gyllid pob gwasanaeth cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys cludiant. Ers 1 Ebrill 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi newid y ffordd y mae’n darparu cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bysiau a chludiant cymunedol yng Nghymru, gan dorri’r cyllid cymhorthdal bws ledled Cymru o £33m i £25m y flwyddyn. Yn Sir y Fflint, mae’r toriadau yn golygu lleihau’r cymhorthdal i’w wasanaethau bysiau o £224,000 o flwyddyn i flwyddyn. 

Oherwydd y newidiadau hyn, penderfynodd y Cyngor gynnal adolygiad trylwyr o’i wasanaethau bysiau â chymhorthdal yn ystod y flwyddyn ariannol 2012/13 er mwyn penderfynu ar lefel y cymhorthdal i’r dyfodol. Fodd bynnag, nid oedd modd dechrau’r adolygiad nes i gynllun cyllido newydd Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi ac felly bu oedi yn amserlen cwblhau’r adolygiad a rhoi ar waith unrhyw newidiadau sylweddol tan y flwyddyn ariannol 2013/14.

Mae swyddogion wedi adolygu’r holl wasanaethau bysiau â chymhorthdal yn unol â Pholisi’r Cyngor ar Wasanaethau bysiau â Chymhorthdal yn Sir y Fflint. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, mae’r Cyngor yn dymuno clywed barn teithwyr, trigolion a chymunedau.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan bwysig o broses yr adolygiad ac mae’n ceisio adnabod blaenoriaethau pwysicaf defnyddwyr bysiau. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 5 Awst ac 11 Hydref 2013. Yn ystod y cyfnod hwn hoffem glywed eich barn. Y dull dewisol o geisio eich barn yw defnyddio holiadur electronig: 

Gwasanaethau Bws - Holiadur (ffenestr newydd)

Caiff yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad eu casglu mewn adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2013. Os hoffech gael eglurhad ar unrhyw ran o’r wybodaeth ar y wefan neu os hoffech ofyn am fersiwn printiedig o’r holiadur, anfonwch e-bost at: katie.wilby@siryfflint.gov.uk

Gallwch hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn trwy alw heibio i un o’r "cymorthfeydd bws" ym mis Medi 2013. Fe’u trefnir gan Bus Users UK Cymru a chyhoeddir manylion pellach gan gynnwys yr amserau a’r lleoliadau ar wefan Cyngor Sir y Fflint ac ar bosteri ar wasanaethau bysiau lleol.

Amserlen yr Ymgynghoriad

Ymgynghoriad : 5 Awst i 18 Hydref 2013

Asesiad 14 Hydref i 31 Hydref 2013
Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd: 13 Tachwedd 2013

Cymeradwyo gan y Cabinet: 17 Rhagfyr 2013

Cytundeb a Hysbysu Contractwyr: Rhagfyr 2013

Tendro: Ionawr a Chwefror 2014

Hysbysu’r Comisiynydd Traffig: 19 Chwefror 2014
Rhoi ar Waith: Ebrill 2014

Beth yw’r cynigion?

Mae manylion yr argymhellion drafft a’r newidiadau posibl i wasanaethau bysiau i’w gweld yn Atodiad 3. Gofynnir i’r rhai sy’n ymateb i’r ymgynghoriad ystyried rhinweddau pob argymhelliad, os dymunant, gan roi eu barn. Byddai’n fuddiol petaech yn rhoi rhesymau a thystiolaeth i gefnogi eich barn.

Sylwer bod yr ymgynghoriad hwn yn effeithio ar gontractau yn unig. Mae gwasanaethau bysiau nad ydynt yn cael eu henwi yn gweithredu’n fasnachol ac felly maent y tu allan i reolaeth uniongyrchol y Cyngor Sir a heb fod yn rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Mae’r gwasanaethau presennol i gyd wedi cael eu hasesu yn unol â Pholisi’r Cyngor ar Wasanaethau bysiau â Chymhorthdal yn Sir y Fflint, sydd i’w weld yn Atodiad 2, ac mae hyn wedi arwain at greu’r argymhellion drafft a nodir yn y matrics yn Atodiad 3.

Mae’n bwysig cynnal yr adolygiad hwn yn unol â meini prawf cytunedig y gellid eu defnyddio mewn ffordd gyson a gwrthrychol i benderfynu a blaenoriaethu lefel ymyrraeth y Cyngor.

Yn gyffredinol, y ffon fesur orau er mwyn ystyried effeithiolrwydd yw swm y cymhorthdal am bob teithiwr. Fe’i cyfrifir trwy rannu’r gost flynyddol i’r pwrs cyhoeddus gyda chyfanswm nifer y teithwyr. Yr egwyddor allweddol ar gyfer ymyrraeth fyddai, ar gyfer gwasanaethau lle mae cymhorthdal y teithiwr yn fwy na lefel benodol, cynhelid adolygiad manwl a chymerid camau i adfer y sefyllfa.

Mae’r adolygiad yn asesu gwasanaethau ar ffurf goleuadau traffig (Coch, Melyn, Gwyrdd); lle mae Gwyrdd yn wasanaeth cost effeithiol, Melyn yn golygu bod angen adolygiad pellach ac efallai trafodaethau â gweithredwr y gwasanaeth bysiau a Choch yn wasanaeth nad yw’n gost effeithiol ar ei ffurf bresennol.

Dylid cydnabod, mewn achosion eithriadol, nad y gost am bob teithiwr yn unig fydd yn penderfynu a ddylid rhoi cymhorthdal i wasanaeth neu ei ddileu. O’r herwydd, dadansoddwyd gwasanaethau hefyd yn erbyn yr anghenion teithio a amlinellir isod.

Hygyrchedd - Mae gwasanaeth bysiau yn darparu mynediad at wasanaethau hanfodol allweddol, e.e. iechyd, addysg, siopa, ac mae’n lleihau allgáu cymdeithasol.

Adfywio Economaidd - Mae gwasanaeth bysiau yn darparu mynediad at y prif ardaloedd cyflogaeth ac yn cefnogi adfywio economaidd trwy ddarparu modd i fusnesau gael hyd i’r gweithwyr y mae arnynt eu hangen.

Integreiddio - Mae gwasanaeth bysiau yn integreiddio’n dda â moddau cludiant eraill ac yn cysylltu â’r prif wasanaethau bysiau eraill.

Cynaliadwyedd – Mae gwasanaeth bysiau yn darparu ffordd arall deniadol o deithio yn hytrach na’r car preifat ac yn cyfrannu at leihau nifer y ceir ar y ffordd a’r carbon deuocsid a allyrrir.

Diogelwch – Mae gwasanaeth bysiau yn darparu cludiant mwy diogel na’r car preifat i deithwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill a cherddwyr fel ei gilydd, e.e. teithio i’r ysgol.

Sylwer: Nid oes cynigion i dorri teithiau oriau brig sy’n cludo dysgwyr i’r ysgol neu weithwyr. Mae hyn er mwyn amddiffyn cyflogaeth ac addysg. Gall y rhai sy’n ymateb i’r ymgynghoriad gytuno neu anghytuno â’r farn hon.

  • Atodiad 1 (PDF 22KB ffenestr newydd)
  • Atodiad 2 (PDF 75KB ffenestr newydd)
  • Atodiad 3 (PDF 55KB ffenestr newydd)
  • Atodiad 4 (PDF 17KB ffenestr newydd)
  • Atodiad 5 (PDF 51KB ffenestr newydd)