Alert Section

ADAPTS - AMRC Cymru

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cynllun arloesol, sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, yn paratoi busnesau Cymru ar gyfer y dyfodol

ADAPTS-AMRC
O'r chwith i'r dde: Katie Goodwin, Llywodraeth y DU; Sheila Gibney, Cyngor Sir y Fflint; Rupayan Roy, AMRC Cymru; Josh Fox, Crabb Engineering; Natalie Jones, AMRC Cymru.

Mae busnesau yn Sir y Fflint yn fwy cynhyrchiol a chynaliadwy ac yn cynnig gwell cyfleoedd am swyddi da, diolch i raglen a weithredir gan un o sefydliadau ymchwil a datblygu mwyaf blaenllaw Cymru.

Wedi ei leoli ym Mrychdyn mae Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC) Cymru, sy’n rhan o Brifysgol Sheffield, wedi cefnogi 32 cwmni trwy ddarparu adroddiadau ymchwil, digwyddiadau hyfforddi a chymorth un-i-un.

Rhoddwyd y cymorth gan AMCR Cymru fel rhan o’u rhaglen Accelerating Decarbonisation and Productivity Technology and Skills (ADAPTS) gyda’r nod o gyflymu twf a chreu rhagor o swyddi yng nghwmnïau cynhyrchu Sir y Fflint.

Gan ddefnyddio £811K o gyfran Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF), derbyniodd y cwmnïau gefnogaeth ac arweiniad wedi ei deilwra’n benodol i’w gofynion unigol er mwyn gwella eu prosesau digidol a lleihau eu hallyriadau carbon. Cawsant hefyd eu gwahodd i ddigwyddiadau hyfforddi a datblygu dan arweiniad AMRC i ehangu ac atgyfnerthu eu gwybodaeth.

O’r 32 cwmni, derbyniodd 16 ohonynt gymorth ychwanegol gan beirianwyr AMRC Cymru i gyflwyno technolegau blaengar, uwchsgilio eu staff a mynd i’r afael â maes y barnwyd fod angen ei wella.

Un o’r cwmnïau a gefnogwyd oedd cwmni datblygu a chynhyrchu Biofortuna. Yno crëwyd trefn awtomatig ar gyfer proses allweddol fel eu bod yn gallu cynhyrchu ar raddfa fwy i gwrdd â’r galw cynyddol am eu cynnyrch, tra’n parhau i ddiogelu cywirdeb manwl y system flaenorol.

Meddai Chris McCarthy, rheolydd datblygu a chynhyrchu Biofortuna: “Heb y bartneriaeth hon ag AMRC Cymru, byddem wedi gorfod buddsoddi llawer iawn o amser ac adnoddau yn chwilio am atebion posibl. Mwy na thebyg y byddem wedi gorfod bodloni ar un o’r datrysiadau parod oddi ar y silff.

“Rhoddodd ADAPTS y cyfle inni edrych ar bethau o ongl wahanol a chanfod ateb unigryw, wedi ei deilwra’n benodol i’n problem arbennig ni.”

Meddai rheolydd prosiect AMRC Cymru, Natalie Jones: “Mae’n wych gweld y gwahaniaeth a wnaeth y rhaglen ADAPTS, gyda chymorth arian UKSPG, yn cynyddu cywirdeb a chynhyrchedd Biofortuna. Edrychaf ymlaen at weld effaith cyflwyno’r dechnoleg newydd ar dwf y cwmni’n y dyfodol.”

Gan edrych ar y cynllun yn ei gyfanrwydd, ychwanegodd: “Cawsom lwyddiannau gwych ar draws nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol, yn cynnwys cyflwyno cynhyrchion neu wasanaethau newydd, gwella cysylltedd digidol, cynyddu effeithlonrwydd a lleihau allyriadau carbon.

“Oherwydd amserlen y rhaglen a natur y gwaith a gyflawnwyd, bydd yr effaith lawn yn parhau i gael ei gweld dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod trwy greu a diogelu swyddi yn Sir y Fflint. Edrychwn ymlaen at glywed hanes y llwyddiannau hyn.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabined Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd:”Gyda chwmnïau cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn buddsoddi tua £38.8 biliwn yn yr economi bob blwyddyn, mae’n braf iawn gweld y cynllun ADAPTS yn cynorthwyo busnesau Sir y Fflint i dyfu yn y dyfodol. 

“Bydd y buddsoddiad hwn yng nghwmnïau Sir y Fflint o gymorth pendant i’w gwneud yn fwy gwydn ac, yn y pen draw, yn helpu i ddenu a chadw talent yn y sir.”