Alert Section

WeMindTheGap

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Partneriaeth Leol yn sicrhau cyfleoedd gwaith i bobl ifanc Sir y Fflint

WeMindTheGap1
Blaen: Rufus McKenna a Chrystal Lambert gyda'r cefn o'r chwith i'r dde: Tom Hayes, cynhyrchydd cymunedol Theatr Clwyd; Aaron Jones, Arweinydd Rhaglen Ieuenctid WMTG; a Charlotte Wheeler, Swyddog Datblygu Ieuenctid WMTG

Mae pobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Sir y Fflint yn cael eu grymuso i sicrhau gwaith diolch i bartneriaeth strategol rhwng busnesau lleol ac elusen symudedd cymdeithasol.

Mae WeMindTheGap yn cefnogi pobl ifanc 18 i 24 oed ledled y sir i ennill profiad gwaith ymarferol trwy ei rhaglen gyflogadwyedd chwe mis, WeGrow.

Ar ôl derbyn cyllid yn flaenorol drwy ddyraniad Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae’r elusen yn defnyddio cyllid pellach UKSPF yn ystod 2025/2026.

Mae’r rhaglen yn cynnig hyd at bedwar lleoliad gwaith i bob person ifanc, ynghyd â sesiynau wythnosol sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd a gynhelir gan Goleg Cambria, yn ogystal â gweithdai datblygiad personol i feithrin eu gwybodaeth a’u hyder.

Ymhlith y deg o bobl ifanc sydd ar y rhaglen bresennol mae un sy’n elwa’n arbennig o’r cyfleoedd, Chrystal Lambert, sy’n 18 oed.

Cymerodd Chrystal, o’r Wyddgrug, flwyddyn allan o addysg oherwydd heriau iechyd meddwl ar ôl astudio gofal anifeiliaid Lefel 1 yng nghampws Llaneurgain, Coleg Cambria.

Ers ymuno â WeGrow, mae Chrystal wedi cymryd ei chamau cyntaf i fyd gwaith, gan gwblhau lleoliad yn Theatr Clwyd lle bu’n helpu’r sefydliad i adleoli ei swyddfeydd o adeilad Dewi Sant yn y Wyddgrug i’r brif theatr newydd.

WeMindTheGap3
Theatr Clwyd

Dywedodd:“Roeddwn i’n cael trafferth yn yr ysgol a’r coleg, ond rwyf bellach yn llawer mwy hyderus ac wedi meithrin sgiliau newydd, rhywbeth roeddwn yn awyddus iawn i’w gael o’r rhaglen.

“Mae’r gefnogaeth a’r agwedd gadarnhaol gan bawb sy’n rhan o’r rhaglen wedi bod yn wych, ac rwy’n teimlo’n gwbl gyfforddus yn rhannu fy marn a fy nymuniadau heb ofni cael fy marnu.

“Yn gyffredinol, byddwn yn dweud mai ymuno â’r rhaglen hon yw un o’r penderfyniadau gorau rwyf wedi’u gwneud erioed.”

Mae person ifanc arall, Rufus McKenna, yn rhannu’r un teimlad ar ôl cwblhau ei ail leoliad yn Theatr Clwyd ochr yn ochr â Chrystal.

Mae Rufus, 22, wedi chwarae rhan bwysig yn nyfodol y theatr drwy gyfrannu syniadau ar sut y gall y theatr gryfhau ei pherthynas ag ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol Maes Garmon.

Dywedodd:“Roedd trafod sut gall y theatr ymgysylltu â dysgwyr yn wych, ac wrth awgrymu’r math o gymorth hoffwn i fod wedi’i gael yn ystod fy amser yn yr ysgol, rwy’n gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn ddefnyddiol i ddosbarthiadau drama yn y dyfodol.

“Rwyf wedi mwynhau’r gwaith hyd yn hyn, ac rwy’n ddiolchgar bod y rhaglen yn ystyried pa fath o roliau yr hoffech chi roi cynnig arnyn nhw a rhoi’r profiad sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau chi.

WeMindTheGap2
Ch-Dd: Charlotte Wheeler, Swyddog Datblygu Ieuenctid WMTG; Tom Hayes, cynhyrchydd cymunedol Theatr Clwyd; Rufus McKenna, Chrystal Lambert ac Aaron Jones, Arweinydd Rhaglen Ieuenctid WMTG

“Er nad wyf yn hollol sicr pa lwybr gyrfa hoffwn ei ddilyn, rwy’n mwynhau rhoi cynnig ar wahanol bethau a datblygu fy sgiliau ar gyfer y dyfodol.”

Mae rhaglen WeGrow hefyd yn cynorthwyo pobl ifanc i baratoi ar gyfer byd gwaith drwy sesiynau ysgrifennu CV, cyfweliadau ffug, a gweithgareddau grŵp i feithrin hyder.

Dywedodd Laura Columbine, gweithiwr cymunedol WeMindTheGap Sir y Fflint: “Mae cyllid UKSPF wedi bod yn hanfodol er mwyn ein galluogi i barhau i gynnig llwybrau i gyflogaeth i bobl ifanc sy’n cael trafferth dod o hyd i waith neu sy’n ansicr o’u camau nesaf.

"Gyda’n gwaith ymchwil Big Conversation yn datgelu bod llawer ohonynt yn teimlo’n unig, mae’r rhaglen WeGrow hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i feithrin cyfeillgarwch newydd a datblygu sgiliau megis gwaith tîm a chyfathrebu.

“Yn gyffredinol, mae cyllid UKSPF gan Gyngor Sir y Fflint wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd ein gwaith yn ei chael ar draws y sir.”

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet dros yr economi, yr amgylchedd a’r hinsawdd: “Mae’r gefnogaeth a gynigir gan WeMindTheGap yn amhrisiadwy, ac rwy’n hyderus y bydd y sgiliau a’r profiad y mae’r bobl ifanc yn eu hennill yn eu paratoi’n dda ar gyfer byd gwaith.”

Derbyniodd WeMindTheGap £213,453 o gyllid gan Gyngor Sir y Fflint drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).