Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Noddi Cylchfannau


Cyrraedd cynulleidfaoedd ledled Sir y Fflint 

Gallwn eich helpu i gyrraedd miloedd o gymudwyr a defnyddwyr bob wythnos. 

Noddi cylchfannau

Nid yn unig y bydd noddi cylchfan yn codi proffil ac ymwybyddiaeth leol eich busnes, fe fydd hefyd yn cefnogi’r amgylchedd lleol.

Yn berffaith i fusnesau lleol sy’n chwilio am ddull effeithiol o hysbysebu’n lleol, mae noddi cylchfan yn blatfform sy’n gymdeithasol gyfrifol sy’n helpu i gefnogi nifer o fentrau’r Cyngor, o gynnal a chadw priffyrdd i amwynderau a gwasanaethau cyhoeddus.  

Mae cynllun noddi cylchfannau’r Cyngor yn cael ei reoli gan Outdo Media.

Os oes gennych chi ymholiadau cychwynnol neu os hoffech chi fynegi eich diddordeb:  

• Ffoniwch: 01422 322255

• e-bostiwch: info@outdo.co.uk

• ewch i’w gwefan: outdo.co.uk