Alert Section

Yr hyn yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd

Yr hyn yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ar draws Cymru ddatblygu 'Cynlluniau Creu Lleoedd' i nodi sut byddant yn nodi, cynllunio a darparu prosesau Creu Lleoedd ym mhob un o'u canol trefi. Mae hyn yn golygu rhoi anghenion canol trefi yn y dyfodol wrth wraidd polisïau, prosesau gwneud penderfyniadau a chamau gweithredu lleol.

#siopalleolsiryfflint

Mae menter #siopalleolsiryfflint yn annog pobl i edrych tuag at eu stryd fawr leol, canol y dref a busnesau bach i wneud eu siopa ac i gael gwasanaethau.

Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint

Trwy broses 2 gam gystadleuol, mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus trwy dderbyn dyraniad o £1.178 miliwn o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn darparu'r Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint.