Alert Section

Hyrwyddo Canol Trefi


Mae gan Sir y Fflint nifer o fusnesau canol tref bywiog ac amrywiol sy'n cynnig ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a phrofiadau o ansawdd uchel. 

Ond mae cyfyngiadau pandemig Covid-19 a chyfnodau clo a weithredwyd i ddiogelu’r cyhoedd wedi cael effaith ofnadwy ar nifer o ganol trefi Sir y Fflint, gan gyfyngu gallu’r busnesau i weithredu a masnachu fel arfer.   

Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi canol trefi a busnesau gyda'u hadferiad byr dymor a thymor canolig o Covid-19 ac effeithiau parhaus mesurau a chyfyngiadau'r cyfnod clo.  Mae annog preswylwyr a thwristiaid i ddychwelyd i’r trefi, i siopa’n lleol a denu ymwelwyr a siopwyr ychwanegol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor. 

Mae’r Cyngor wedi gweithio gyda sefydliadau cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus i weithredu nifer o ymgyrchoedd hyrwyddo sydd wedi codi ymwybyddiaeth ac adrodd hanesion cadarnhaol yr ystod eang o fusnesau ac atyniadau o ansawdd uchel sydd gan y sir i’w cynnig.  Maent wedi cynorthwyo i godi proffil canol trefi, annog mwy o fasnachu ac archebion gyda'r gobaith o arwain at fwy o werthiannau a throsiant busnes.

Mae ystod o ddeunyddiau hyrwyddo, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, erthyglau yn y wasg ac elfennau ar-lein, wedi’u defnyddio i ledaenu'r neges bod canol trefi Sir y Fflint nid yn unig yn ddiogel a chroesawgar ond hefyd yn rhaff achub ar gyfer nifer o breswylwyr a chymunedau lleol. 

Mae’r enghreifftiau o'r gwaith hyrwyddo a wnaed gan y Cyngor, mewn cydweithrediad a’i bartneriaid, yn cynnwys:

  • Erthyglau taflu goleuni ar drefi yn y wasg
  • Erthyglau masnachwr / cynhyrchydd y flwyddyn
  • Ymgyrchoedd hysbysebu ‘Siopa’n Lleol – Siopa’n Ddiogel’
  • Cystadlaethau basgedi i godi proffil cynhyrchwyr bwyd a diod lleol
  • Cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol ac erthyglau yn y wasg yn cynnwys busnesau sydd wedi mynd ‘tu hwnt i’r gofyn' i gefnogi eu cymunedau lleol
  • Cynnwys yn y cyfryngau am fentrau a ddyluniwyd i annog pobl i siopa'n lleol
  • Erthyglau yn trafod atyniadau a 'phethau i’w gweld a’u gwneud’ yn nhrefi Sir y Fflint.