Alert Section

Cwestiynau am Gwelliannau Digidol


Beth yw synwyryddion ymwelwyr Cisco Meraki?

Mae Cisco Meraki yn ddyfeisiau rhwydwaith ardal leol diwifr, sy'n canfod presenoldeb dyfeisiau wedi'u galluogi gyda Wi-Fi.  Mae'r synwyryddion hyn yn unedau bach, electronig sy'n defnyddio hyn fel modd i gyfrifo cyfanswm y bobl mewn ardal benodol, ar amser penodol.

A yw’r synwyryddion ymwelwyr Cisco Meraki wedi’u cysylltu â 5G?

Na.  Dim ond cyfrifo cyfanswm nifer y bobl mewn ardal mae’r synwyryddion.

Pam ein bod angen gwybod faint o bobl sy’n ymweld ag ardal?

Gall helpu siopau i gynllunio amseroedd agor i weddu i fwy o bobl, gall helpu i wybod ble a phryd sydd orau i gynnal digwyddiadau, a gall helpu i gasglu data ar gyfer ceisiadau cyllido i'n helpu i fuddsoddi mewn ardal, a chynyddu'r siawns o dderbyn cyllid i wella eich canol trefi. 

A fydd hyn yn effeithio ar fy hawl i breifatrwydd?

Na.  Dyluniodd Meraki y swyddogaeth hon gyda sawl nodwedd preifatrwydd mewn golwg, gan adleisio Preifatrwydd trwy Ddylunio ac yn Ddiofyn fel sydd wedi'i ymgorffori yn Erthygl 25 o’r GDPR:

Mae'r nodwedd hon wedi'i diffodd yn ddiofyn ar gyfer sefydliadau a grëwyd yng Nghwmwl UE Meraki.

Adeiladodd Meraki ei nodwedd Dadansoddeg Lleoliad yn benodol fel nad yw’n bosibl olrhain dyfeisiau ar draws gwahanol rwydweithiau cwsmeriaid.  Ni all Dadansoddeg Lleoliad ddweud wrth gwsmer Meraki ble roedd dyfais cyn dod o fewn ystod ei rwydwaith neu ble aeth y ddyfais ar ôl gadael ystod ei rwydwaith.

Mae Meraki hefyd wedi creu ei dudalen we optio allan ei hun y gall defnyddwyr unigol ei chyrchu er mwyn optio allan cyfeiriad MAC eu dyfais rhag cael ei olrhain gan UNRHYW nodwedd dadansoddeg lleoliad wedi'i galluogi gan Meraki.

Gallwch ddod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf ar borth ymddiried Cisco trust.cisco.com 

Yng nghyd-destun y dyfarniad, “Dadansoddeg Lleoliad” yw'r nodwedd sy'n berthnasol i'n sgwrs - mae'n darparu data am leoliadau ffisegol ymwelwyr, gan alluogi busnesau i ddeall ymddygiad cleientiaid yn well. Mae Dadansoddeg Lleoliad ar gael gyda holl bwyntiau mynediad diwifr Meraki. 

Beth yw Trefi SMART?

Trefi sy'n defnyddio offer digidol i gynnig gwasanaethau a data i wneud eu tref yn fwy effeithlon ac i wella'r gwasanaethau a'r gweithrediadau yn y dref.

Pam ein bod angen Trefi SMART?

Er mwyn ein helpu i wella adnoddau, a gwella canol eich tref, mae angen i ni wybod sut orau i ddarparu gwell gwasanaethau a chynigion.  Mae gwybod pa rannau o'r dref yr ymwelir â hwy fwyaf, a phryd, yn ein helpu i ddeall sut i'w gwneud yn fwy deniadol, ac yn ein helpu i wella, yn seiliedig ar wybodaeth a ffigurau cywir. 

Beth yw Blwyddyn Trefi SMART?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn yn ddiweddar i adfywio canol trefi Cymru. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy’n arwain at dwf economaidd yn ogystal â’u helpu nhw i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol.  Cynhaliwyd y Flwyddyn y Trefi SMART o 2021 i ddod i ben ym mis Mawrth 2022.

Faint mae Cyngor Sir y Fflint yn ei dalu am offer SMART a synwyryddion ymwelwyr Cisco Meraki? 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddant yn darparu nifer o synwyryddion cyfrif nifer yr ymwelwyr i Sir y Fflint am ddim, i helpu asesu’r lefelau cyfredol o siopwyr ac ymwelwyr yng nghanol ein tref, ac i adnabod ffyrdd o gynyddu gwariant, a hyd amser y mae pobl yn ei dreulio yn ein trefi. Yn ogystal mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau arian Grantiau Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru ‘Trawsnewid  Trefi - Trefi Digidol’ i barhau i wella cynhwysedd digidol trefi yn Sir y Fflint, i helpu i’w gwneud yn well i breswylwyr Sir y Fflint a busnesau. 

Pa wybodaeth fyddwch chi’n ei gasglu amdanaf?

Mae gan Cisco Meraki y gallu i gynnig mynediad i'r rhwydwaith y gellir ei actifadu neu ei ddadactifadu.  Fodd bynnag, ni fydd synwyryddion ymwelwyr Sir y Fflint yn casglu gwybodaeth bersonol.  Ni ddarperir mynediad Wi-Fi, nac ap, felly ni chesglir unrhyw wybodaeth bersonol.

Fyddwch chi’n olrhain fy ffôn?

Nid yw synwyryddion ymwelwyr yn olrhain ffonau symudol ‘unigol’.  Mae synwyryddion ymwelwyr yn canfod signal ffôn ‘anhysbys’ mewn ardal, sy’n cyfrif tuag at gyfanswm cyfrifiad yr ‘ymwelwyr’ yn yr ardal honno.

A yw hyn wedi’i gysylltu â’r Heddlu a TCC?

Na.  Nid yw cyfrif niferoedd anhysbys o bobl mewn ardal sydd â ‘synhwyrydd ymwelwyr’ yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â systemau teledu cylch cyfyng.  Systemau ar wahân yw'r rhain, sy'n cael eu rhedeg gan systemau a sefydliadau ar wahân, ac nid ydynt yn gysylltiedig.

Pa drefi yn Sir y Fflint sy’n bwriadu cael synwyryddion ymwelwyr?

Mae’r Wyddgrug wedi cael ei adnabod fel lleoliad delfrydol ar gyfer y cynllun peilot oherwydd ei farchnad fywiog, canolfan siopa, cymunedau busnes rhagweithiol a buddsoddiad sylweddol diweddar yn Bailey Holl fel atyniad i ymwelwyr. Gan ddefnyddio cyllid ‘Trefi Digidol’, mae Cyngor Sir y Fflint yn ehangu ar y cyfle i fanteisio ar ddysgu o’r Cynllun Peilot, manteision a gwersi a ddysgwyd, a ffocysu ar flaenoriaethau priodol o ardaloedd eraill, a sicrhau cyflwyniad esmwyth i drefi eraill, gan gynnwys y Fflint, Cei Connah, Treffynnon a Bwcle.

Beth fyddai’r camau nesaf a phwy fyddai’n rhan?

Cafodd Cynllun Gweithredu ei lunio fel ymdrech cydlynol ar y cyd, gyda mewnbwn gan Aelodau lleol a chynrychiolwyr y Dref, i symud y cynllun ymlaen a nodi’r ardaloedd a fyddai’n cael budd o’r gwelliannau.  

Beth mae Rhyngrwyd o Bethau/ Internet of Things (IoT)yn ei olygu?

Mae’r Rhyngrwyd o Bethau (IoT) yn gweithredu fel dyfeisiau diwifr, gan gasglu data nad yw'n bersonol o'u hamgylchedd a chanfod newidiadau yn yr amgylchedd, pethau fel symudiadau, goleuo, tymheredd ac ansawdd aer.  Mae'r rhain yn cysylltu â phyrth, a gweinyddwyr i alluogi coladu'r data.  Mae gwaith IoT mewn cam peilot ar hyn o bryd, ond mae potensial i ddefnyddio IoT i helpu i ddatblygu gwelliannau yn lleol ar gyfer pobl.

Beth yw synwyryddion LoRaWAN?

Mae synwyryddion LoRaWAN yn ddyfeisiau IoT sy'n gweithredu ar rwydweithiau LoRaWAN.  Gallant drosglwyddo data ar draws pellteroedd hir, a chynnig datrysiad ymarferol o ansawdd da ar gyfer cysylltiadau rhwydwaith, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell heb systemau dibynadwy ar gyfer trosglwyddo cyflymder data o ansawdd uchel.

Pam fuasem ni angen neu eisiau synwyryddion LoRaWan?

Gellir defnyddio synwyryddion LoRaWan mewn ffyrdd ymarferol i gefnogi a thawelu meddwl pobl, gan ddefnyddio systemau 'rhybuddio' synhwyrol, megis anfon hysbysiadau pan fydd offer achub bywyd hanfodol fel cylchoedd bywyd a diffibrilwyr yn cael eu symud, i helpu i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu gadael heb offer arbed bywyd gerllaw.  Gallant hefyd helpu i ddarparu gwybodaeth am lif traffig, a’r defnydd o lwybrau beicio, a gall hynny helpu i ddarparu data i gefnogi cynigion cyllido i helpu i wella gwasanaethau i bobl.  Nid yw'r rhain yn casglu gwybodaeth bersonol, dim ond data ar yr amgylchedd a defnyddiau yn yr amgylchedd hwnnw. 

Pryd fydd Trefi Sir y Fflint yn Mynd yn Ddigidol?

Bydd cyfarpar yn cael eu gosod ar ddiwedd mis Mawrth 2022, ac yn darparu gwybodaeth fwy diweddar i gyfrif nifer yr ymwelwyr, yn ogystal i’r cyfarpar cyfredol - sydd wedi bod mewn lle ers nifer o flynyddoedd.

Meysydd electrofagnetic ac iechyd

Mae wi-fi a 5G, 4G a 3G yn fathau o dechnoleg a ddefnyddir er mwyn darparu cysylltiadau â ffonau symudol, gliniaduron a thabledi neu unrhyw ddyfais arall sydd angen eu cysylltu â rhwydwaith. Mae’r mathau hyn o dechnoleg yn cael eu defnyddio ledled y byd ac yn galluogi defnyddwyr i weithio, dysgu a rhyngweithio â gwybodaeth lle bynnag y gellir cael signal.

5G yw’r bumed genhedlaeth o dechnoleg cysylltedd symudol ac fel y cenedlaethau blaenorol (3G a 4G), mae 5G yn defnyddio’r sbectrwm radio. Mae’r sbectrwm radio yn cefnogi’r holl wasanaethau diwifr a ddefnyddir gan bobl a busnesau bob dydd - yn cynnwys gwneud galwad ar y ffôn symudol, gwrando ar y radio neu fynd ar-lein gan ddefnyddio wi-fi.

Sefydlodd Llywodraeth y DU y Grŵp Ymgynghori AGNIR (Advisory Group for Non-Ionising Radiation) er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion yn ymwneud ag ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio sy’n cael ei greu gan y mathau hyn o dechnoleg.

Cynhyrchodd yr AGNIR gyfres o asesiadau risg a ffurfiodd sail i gyhoeddiadau’r llywodraeth ac o ganlyniad mae Cyngor Sir y Fflint yn dilyn y cyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae rhan o’r canllaw sy’n dynodi’r dehongliad o’r risg i’w weld isod.

“Yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r cyngor arbenigol, nid oes angen i aelodau’r cyhoedd gymryd unrhyw gamau arbennig i leihau cyswllt â’r lefelau isel o donnau radio o rwydweithiau ac offer wi-fi (er enghraifft, fel y defnyddir mewn lleoliadau cyhoeddus), mesuryddion clyfar neu orsafoedd sylfaen ffonau symudo".

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig).

“Nid oes unrhyw dystiolaeth gyson hyd yma sy’n dangos bod amlygiad i signalau radio gan wi-fi a WLAN yn cael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd yn gyffredinol”.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r technolegau hyn dylech gysylltu â’r AGNIR drwy eu cysylltiad ymholiadau cyffredinol (ar gael yn Saesneg yn unig).

E-bost: enquiries@phe.gov.uk

Public Information Access Office

Public Health England

Wellington House

133-155 Waterloo Road

London

SE1 8UG