Alert Section

Marchnadoedd


Mae marchnadoedd yn elfen hanfodol o ganol trefi - maent yn dod â chwsmeriaid i’r dref ac yn cynnig cyfleoedd busnes gwerthfawr i fasnachwyr ac yn creu egni a hyfywdra.

Yn dilyn adolygiad manwl o farchnadoedd yn Sir y Fflint, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymroddedig i gynyddu graddfa a llwyddiant marchnadoedd y sir.


Datblygu’r dyfodol - Marchnadoedd Sir y Fflint
Fel rhan o waith y Cyngor Sir i adfywio canol trefi, mae adolygiad annibynnol wedi’i gynnal o Farchnadoedd Canol Trefi yn y Sir er mwyn eu hasesu ac ystyried cynigion priodol i’w gwella neu eu newid, gan gynnwys edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill yn y DU.  Roedd yr astudiaeth yn cynnwys asesiad manwl o’r marchnadoedd, a oedd hefyd yn cynnwys ymgynghori â masnachwyr y marchnadoedd, siopwyr a siopau cyfagos.

Gweler Crynodeb Gweithredol yr adolygiad hwn yma.


Dosbarthu taflenni mewn marchnadoedd
Mae’n ofynnol i unrhyw unigolyn neu fudiad sy’n dymuno dosbarthu taflenni neu bamffleid ar ddiwrnod marchnad yn un o farchnadoedd Cyngor Sir y Fflint gyflwyno ffurflen gais i gael hawlen i wneud hynny.  Fel arall maen nhw’n torri’r Is-ddeddfau a Rheoliadau Marchnadoedd.   

Cyflwynir yr hawlen gan y Rheolwr Marchnadoedd (07919 166279) ac mae’n ddilys am fis o ddyddiad ei gyhoeddi, a’r gost ydy £8.00. Ni chodir tâl ar fudiadau elusennol.


Marchnadoedd a gynhelir yn Sir y Fflint

Cei Connah
Marchnad leol fach yw marchnad Cei Connah a gynhelir bob dydd Iau yng Nghanolfan Siopa Cei Connah.


Yr Wyddgrug
Cynhelir marchnad stryd yr Wyddgrug bob dydd Mercher a dydd Sadwrn ac mae’n un o’r marchnadoedd stryd fwyaf llwyddiannus yng ngogledd Cymru.  Mae nifer fawr o fasnachwyr yn gosod stondinau o bob math ar hyd y Stryd Fawr a Sgwâr Daniel Owen bob wythnos.

Hefyd, mae marchnad dan do yng Nghanolfan Siopa Daniel Owen, sydd ar agor bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac mae’n cynnig ystod eang o nwyddau.

Gallwch lawrlwytho gwybodaeth bellach isod:

Marchnad Yr Wyddgrug - Marchnad stryd fwyaf a gorau Gogledd Cymru 


Manylion cyswllt

  • Peter Hayes
    • Saesneg 07919 166279
    • Cymraeg 01267 224923

Mae'r swyddfa ar gau ar ddydd Llun a bydd pob galwad heb ei hateb yn mynd at beiriant ateb.

Gwybodaeth bellach
Newyddion y BBC (8 Mehefin)