Alert Section

Caniatâd i gasglu arian o ddrws i ddrws


Crynodeb o’r drwydded 

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch chi i gynnal casgliadau o dŷ i dŷ er mwyn codi arian i elusen. 

Meini prawf cymhwysedd 

Rhaid i’r cais fod ar ffurf a ragnodir gan yr awdurdod lleol. 

Mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn cymwys a phriodol. 

Crynodeb o’r rheoliadau 

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939)

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd

Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.

Gwneud cais ar-lein 

Cais am drwydded casglu o dŷ i dŷ (ffenestr newydd)

Ffurflen manylion ar ôl casglu o dŷ i dŷ (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Mae gennych chi’r hawl i gyflwyno apêl i’r Gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet. 

Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o wrthod y cais. 

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Mae gennych chi’r hawl i gyflwyno apêl i’r Gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet. 

Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

Email: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

Mewn partneriaeth â EUGO