Alert Section

Rhaglen Gwisg Ysgol


Oes gennych chi wisgo ysgol ddi-eisiau neu sydd heb ei gwisgo?

I helpu i leihau costau addysg yn Sir y Fflint, beth am roddi eich gwisg ysgol nad ydych chi wedi’i defnyddio neu nad ydych chi ei heisiau mwyach.

Boed yn ddechrau’r flwyddyn ysgol neu ran o’r ffordd drwyddi, gall prynu gwisg ysgol fod yn gostus.

Nod y rhaglen Gwisg Ysgol Ail Law yw annog pobl yn Sir y Fflint i ailgylchu a rhoi eu heitemau o wisg ysgol nad ydyn nhw wedi’u defnyddio neu nad ydyn nhw eu hangen mwyach, yn hytrach na’u rhoi yn y bin.  Bydd pob gwisg ysgol sy’n cael eu rhoi ar gael i’w prynu mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Sir y Fflint.

Derbynnir pob eitem o wisg ysgol, yn cynnwys yr eitemau â logos ysgolion arnynt. Pan fo’n bosibl, gofynnwn i’r eitemau fod wedi’u golchi cyn i chi eu rhoi i ni.

Os oes gennych chi eitemau o hen wisg ysgol, dewch â nhw i ni!

Cymerwch olwg ar yr ysgolion a'r busnesau lleol sy'n gwneud gwahaniaeth trwy gynnig eitemau gwisg ysgol ail law.

 O ble galla i gasglu'r rhian?

I gael gwybodaeth am yr eitemau o wisg ysgol ail law sydd ar gael yn eich ysgol chi, ewch i’w gwefan. 

Ble galla i brynu gwisg ysgol ail law?

Cysylltwch â’ch ysgol leol i gael gwybodaeth am brynu gwisg ysgol ail law ganddyn nhw.

Mae lleoliadau eraill ar gael, gweler y rhestr isod.

  • Nanny Biscuit
  • Eglwys Rivertown, Shotton. 
    Ar agor ddydd Llun a dydd Mercher, 9.30am - 12.30pm.
  • Clwb Criced Cei Connah, Cei Connah. 
    Ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am - 12.30pm.
  • Capel Quaystone, Cei Connah. 
    Ar agor ddydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener, 9.30am - 12.30pm.