Alert Section

Blog Sir y Fflint Ddigidol

Newyddion Sir y Fflint Ddigidol o fis Awst 2022

Awst 2022


Mae canlyniadau’r ymgynghoriad ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol wedi dod i mewn ac rydym wedi gwrando ar y pethau a ddwedoch wrthym.

Roedd yr adborth yn dangos pedwar prif faes ffocws i ymatebwyr. Eir i’r afael â’r meysydd hyn fel rhan o brosiectau neu themâu o fewn y Strategaeth Ddigido a byddant yn parhau i gael blaenoriaeth wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu crynhoi isod. I weld y canlyniadau’n llawn, gweler ein tudalennau ymgynghoriad Strategaeth Ddigidol.

Gellir gweld y Strategaeth Ddigidol lawn yma, ond sylwer mai dyma’r fersiwn wreiddiol – byddwn yn uwchlwytho’r ddogfen Strategaeth derfynol cyn gynted ag y bydd wedi ei diweddaru. 


Cynllunio a Gwybodaeth 

Roedd yr ymatebion yn awgrymu y dylid:

  • Cael map ffordd ac amserlenni gweledol i’w gweithredu
  • Cael tryloywder o amgylch costau ac effeithiau ar wasanaethau

Byddwn yn cyhoeddi map ffordd ar gyfer y Strategaeth ac yn parhau i adrodd ar gynnydd a darparu diweddariadau trwy Ganolbwynt Digidol y Cyngor a blogiau rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.  


Cynhwysiant a Hygyrchedd 

Roedd nifer fawr o’r ymatebion yn canolbwyntio ar

  • Sicrhau nad yw pobl sy’n methu â chael mynediad at wasanaethau ar-lein yn cael eu heithrio
  • Helpu pobl i ymgysylltu â’r byd digidol trwy helpu i ddarparu mynediad at gysylltiadau, dyfeisiadau a hyfforddiant

Mae Cynhwysiant Digidol yn thema estynedig newydd yn y strategaeth ddiwygiedig ac mae’n dal i fod yn brif ystyriaeth ar gyfer pob prosiect wrth symud ymlaen, gan roi cwsmeriaid wrth wraidd darpariaeth y gwasanaeth. 

Mae Canolbwynt Digidol y Cyngor yn rhoi mynediad at ystod eang o adnoddau gan gynnwys hyfforddiant am ddim, mynediad at ddyfeisiadau a chyfeirio pobl at ein Canolfannau Cysylltu, llyfrgelloedd a mentrau cymunedol eraill.  Caiff y rhaglen gefnogi hon ei gwella ymhellach eleni gan gynnwys gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi i gefnogi pobl i ymgysylltu â’r byd digidol, ynghyd â chymorthfeydd digidol yn ein Canolfannau Cysylltu.

Er mwyn mynd i’r afael â thlodi digidol, bydd ein Canolfannau Cysylltu hefyd yn dod yn “Ganolfannau Ar-lein” pwrpasol sy’n cefnogi cymunedau lleol gan gynnwys rhoi mynediad at fanc data cenedlaethol.  Sir y Fflint yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i ddarparu cardiau SIM gyda data am ddim i bobl sy’n wynebu tlodi digidol mewn partneriaeth â’r Good Things Foundation

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cynnwys cynhwysiant digidol yn eu blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 a byddant yn gweithio i wella sgiliau digidol y gweithlu gofal cymdeithasol (staff mewnol a gweithwyr gofal annibynnol y trydydd sector).  


Cysylltedd

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn dweud y dylai’r Cyngor:

  • Weithio i ddarparu gwell cysylltedd yn y Sir

Mae’r gwaith ar y rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol wedi cyrraedd y camau olaf ac mae dwythellau ffibr yn cael eu gosod a nifer y safleoedd sydd heb y gwasanaeth hwn yn gostwng yn raddol ledled y Sir.  Rydym bellach yn canolbwyntio ar yr elfen Seilwaith Digidol ym Margen Dwf Gogledd Cymru, gan geisio sicrhau bod ein trigolion, busnesau ac ymwelwyr yn cael eu cysylltu’n well ledled y Sir.


Gwefan a darpariaeth gwasanaeth

Roedd nifer o ymatebion yn awgrymu y dylem:

  • Sicrhau fod gwasanaethau ar-lein yn hawdd i’w defnyddio
  • Sicrhau fod gwybodaeth ar-lein yn gyfredol ac yn berthnasol
  • Dylunio gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion cwsmeriaid

Mae grŵp gwefan wedi’i sefydlu i sicrhau fod y wefan yn cael ei gwella e.e. diweddaru cynnwys ar-lein, a chynnal a chadw dolenni cyswllt. Byddwn hefyd yn parhau i symleiddio a diweddaru’r wefan, gwella swyddogaethau chwilio a sicrhau ei bod yn hygyrch i bob dyfais (mae’r rhan fwyaf o ymweliadau â’r wefan yn dod o ffonau clyfar).

Mae rhaglen gwaith i’r dyfodol mewn lle i adolygu cynnwys y wefan.  Rydym wedi cyflwyno syniadau modern ar gyfer y wefan gan gynnwys “canolbwyntiau” ble mae’n haws cael gafael ar wybodaeth.  Mae’r rhain yn cynnwys y Canolbwynt Digidol, Etholiadau a Phrentisiaethau  gydag eraill yn cael eu cyflwyno drwy’r amser - chwiliwch am y Canolbwynt Tai newydd! - i’w gwneud yn haws i ganfod gwybodaeth ar ein gwefan. 


Y Porth Cynlliunio

Lansiodd adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint system TG newydd ym mis Mai i gefnogi’r gwaith o brosesu’r holl geisiadau cynllunio.

Mae’r system newydd wedi’i chysylltu â’r Porth Dinasyddion newydd lle gallwch chi wneud amryw o bethau, gan gynnwys gweld ceisiadau cynllunio a chaniatâd cynllunio, olrhain a rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio, cofrestru i dderbyn hysbysiadau pan fo ceisiadau’n cael eu derbyn yn seiliedig ar feini prawf penodol, e.e. fesul ardal cod post a llawer mwy!

Trwy gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint a dewis Cynllunio fel un o’ch meysydd diddordeb, byddwch yn gallu cael mynediad at swyddogaeth lawn y Porth Dinasyddion:

Os oes gennych ymholiadau am y Porth Dinasyddion, e-bostiwch:

AgileAdministrators@Flintshire.gov.uk 


Felly, mae llawer yn digwydd trwy’r amser! Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau am siwrnai ddigidol y Cyngor, mae croeso i chi gysylltu

Communication@Flintshire.gov.uk


 Cyng Billy Mullin, 
Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol 

  • Llun o'r Cynghorydd Billy Mullen
  • Cyng Billy Mullin 
  • Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol

  • Sir y Fflint Canolbwynt Digidol
  • Mynd Ar-lein a Cefnogaeth Ddigidol
  • Cadw'n Ddiogel Ar-lein
  • Cymorth a Chyngor Digidol
  • Y Gymuned Ddigidol
  • Adnoddau Iechyd a Lles
  • Cyngor Digidol
  • Digwyddiadau a Gweithgareddau Digidol
  • Gwirfoddolwyr Digidol