Newidiadau i Amddiffyn wrth Bontio o 31/12/23
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi penderfynu y bydd Amddiffyn wrth Bontio yn peidio â chael ei gymhwyso i geisiadau newydd am Brydau Ysgol am Ddim tu hwnt i 31/12/23.
Mae hyn yn golygu o 01/01/24, ni fydd unrhyw geisiadau newydd ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim sy’n cael eu prosesu’n llwyddiannus, fel bod y rhiant yn ‘gymwys’ yn cael amddiffyn wrth bontio os yw’r rhiant yn colli cymhwysedd, a fyddai’n digwydd os ydynt wedi cael newid yn eu hincwm sy’n eu symud i ffwrdd o’r mathau o incwm sy’n gymwys a restrwyd ar y dudalen hon.
Rydym wedi llunio rhai Cwestiynau Cyffredin/materion yr ydym yn rhagweld y gall ddigwydd oherwydd y newidiadau hyn, i helpu rhieni i ddeall beth yr allai olygu dan amgylchiadau penodol:
C. Roedd plentyn yn defnyddio Amddiffyn wrth Bontio cyn 31/12/23 oherwydd bod y rhiant wedi colli cymhwysedd yn flaenorol. A fydd yr amddiffyniad nawr yn dod i ben ar 31/12/23? A. Na – Mae’r Gweinidog wedi egluro y bydd yn parhau ar gyfer y sawl sydd eisoes yn ‘defnyddio’r’ amddiffyniad, nes diwedd cam cyfredol addysg y plentyn. Mae cam addysg yn golygu’r ysgol gynradd neu uwchradd.
C. Beth sy’n digwydd os oes plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn seiliedig ar fod yn ‘gymwys’ cyn 31/12/23, ydi hyn yn golygu na fyddant yn cael eu hamddiffyn os yw incwm y rhiant yn newid? A. Na - Mae’r amddiffyniad yn parhau i fod ar gael ar gyfer unrhyw achos a oedd eisoes yn gymwys ar, neu cyn 31/12/23. Bydd yr amddiffyniad ar gael, os yw incwm y rhiant yn newid, nes cam cyfredol addysg y plentyn.
C. A yw hyn yn golygu ar gyfer unrhyw geisiadau newydd ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim a wnaed ar ôl 31/12/23, os yw’r rhiant yn colli cymhwysedd, mae Prydau Ysgol am Ddim yn dod i ben? A. Ydi - Ni fydd amddiffyniad ar gael os gwnaed unrhyw gais ar ôl 31/12/23, a gymeradwywyd yn llwyddiannus yn wreiddiol, yn seiliedig ar gymhwysedd, os yw incwm y rhiant yn newid, fel nad yw’r plentyn yn gymwys bellach, felly bydd y Prydau Ysgol am Ddim yn dod i ben. Os yw hyn yn digwydd ac mae eich plentyn yn yr ysgol gynradd, mae pob ysgol wedi cael eu hatgoffa, dan yr amgylchiadau hyn, os yw’r plentyn mewn blwyddyn briodol, byddant yn cael cynnig pryd dan ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim Cynradd Cynhwysol.
C. Sut fydda i/ysgol fy mhlentyn yn gwybod pwy fydd/na fydd yn cael cynnig amddiffyniad? A. Bydd unrhyw geisiadau newydd ar ôl 31/12/23, os yn llwyddiannus, yn arwain at neges e-bost yn cael ei anfon i chi ac ysgol eich plentyn. Bydd yr e-bost yn eich hysbysu chi a’r ysgol yn benodol nad yw’r plentyn am gael ei Amddiffyn wrth Bontio.
C. Credaf y dylai fy mhlentyn fod yn ‘gymwys’ yn seiliedig ar fy incwm, ond mae’r ysgol wedi’u nodi fel amddiffyn wrth bontio, beth ddylwn i’w wneud? A. Dylai’r rhiant brofi eu bod yn gymwys drwy anfon tystiolaeth ymlaen o’u hincwm i FreeSchoolMeals@flintshire.gov.uk, gan sicrhau eu bod yn dweud wrthym eu henw llawn, cyfeiriad ac enw/dyddiad geni’r plentyn dan sylw. Mae’n bwysig fod gennym fanylion diweddar o’ch incwm, oherwydd os yw hyn yn anghywir, gall eich atal rhag cael mynediad i gyllid pellach megis Hanfodion Ysgol (grant gwisg ysgol).
C. Rydw i wedi symud o ardal arall yng Nghymru lle’r oedd fy mhlentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim dan amddiffyn wrth bontio. Oes modd i mi ei drosglwyddo i Sir y Fflint? A. Oes - Ond nid yw hyn yn gallu digwydd yn awtomatig oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod rhaid i’r rhiant wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gyda ni, neu brofi eich bod wedi derbyn Prydau Ysgol am Ddim mewn ardal arall yng Nghymru yn seiliedig ar amddiffyn wrth bontio. Os nad oes modd i chi brofi eich bod wedi derbyn Prydau Ysgol am Ddim mewn ardal arall yng Nghymru, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i’ch helpu. Gan fod hyn yn fater eithaf newydd, rydym yn y broses o wella ein ffurflenni cais i wneud hyn yn haws i rieni.
Taliadau Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM)
Prydau Ysgol am Ddim a Prydau Ysgol am Ddin Cyffredinol i Ddisgyblion Cynradd (UPFSM) deall y gwahaniaeth
Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion Cynradd (UPFSM) - Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau fod pob plentyn sy’n mynychu ysgolion cynradd yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd (UPFSM) erbyn 2024, waeth beth fo lefel incwm y cartref. Ni fydd unrhyw ffurflenni i’w llenwi. Nid yw derbyn prydau ysgol am ddim o dan y cynllun UPFSM yn golygu bod gan deuluoedd hawl awtomatig i dderbyn budd-daliadau eraill megis grantiau gwisg ysgol. I gael mwy o wybodaeth am UPFSM ewch i: www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Free-School-Meals.aspx
Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) - Mae rhai teuluoedd sy’n bodloni meini prawf penodol, er enghraifft y rhai ar incwm is neu’n cael budd-daliadau penodol, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (e-FSM).
Ar ôl gwneud cais llwyddiannus am eFSM yna mae teuluoedd yn gymwys i gael budd-daliadau eraill ar gyfer cost hanfodion ysgol megis grantiau gwisg ysgol (GAD).
Er y bydd UPFSM yn cael ei gyflwyno ym Medi 2022, a bydd grwpiau blwyddyn cymwys yn cael prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd sy’n gymwys ar gyfer eFSM barhau i ddefnyddio’r broses ymgeisio eFSM i sicrhau nad ydynt yn colli unrhyw fudd-daliadau eraill.
Beth yw’r Polisi Prydau Ysgol am Ddim?
Bydd prydau ysgol am ddim (eFSM) yn cael eu darparu i blant y mae eu rhieni yn derbyn:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Cymorth o dan Ran VI o’r Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Treth Plant, os nad ydynt yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith ac os nad yw eu hincwm blynyddol yn fwy na £16,190
- Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Treth Gwaith ychwanegol - y taliad y gall rhywun dderbyn am bedair wythnos ychwanegol unwaith iddynt beidio bod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol
- Credyd Cynhwysol (os yw incwm a enillir yn cael ei gynnwys yn yr asesiad Credyd Cynhwysol mae’n rhaid iddo fod yn llai na £616.66)
Sut ydw i’n gwneud cais?
Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein i wneud cais am brydau ysgol am ddim (eFSM).
Mae fy mhlentyn yn byw yn Sir y Fflint ond yn mynychu'r ysgol y tu allan i Sir y Fflint. O ble ydw i'n hawlio Prydau Ysgol am Ddim (eFSM)?
Mae hwn yn faes lle rydym yn derbyn llawer o ymholiadau. Mae ein hamodau grant ar gyfer cyllid Cinio Ysgol Am Ddim (eFSM) yn dweud wrthym mai’r Cyngor sy’n gyfrifol am yr ysgol y mae’r plentyn yn ei mynychu yw lle dylai’r rhiant hawlio. Er enghraifft, os yw plentyn yn byw yng Ngronant (Sir y Fflint) ond yn mynychu ysgol ym Mhrestatyn (Sir Ddinbych), cyfrifoldeb Cyngor Sir Ddinbych fyddai cyllid Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) felly mae'n rhaid i'r rhiant wneud cais i Sir Ddinbych. Mae hyn yn union yr un fath ar gyfer grant gwisg ysgol (PDG).
Fodd bynnag, os yw plentyn yn byw yn Sir y Fflint ond yn mynychu ysgol mewn sir gyfagos yn Lloegr (fel Caer), yna mae gennym amodau arbennig gan Lywodraeth Cymru a gyflwynwyd ym mis Awst 2022 sy’n caniatáu inni asesu achosion o’r fath. Sylwch, gan fod y newid hwn wedi’i wneud ym mis Awst 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym na allwn wrthdroi gwrthodiadau am y rheswm hwn o flynyddoedd blaenorol. Byddem felly yn gwerthfawrogi dealltwriaeth rhieni yn hyn o beth ac yn ymatal rhag gofyn i ni wrthdroi penderfyniadau blaenorol.
Dylwn fod wedi gwneud cais yn gynharach ac wedi colli allan ar daliadau am wyliau o ganlyniad. Os byddaf yn gwneud cais nawr, a ellir ei ôl-ddyddio?
Yn anffodus ddim. Mae'r polisi sy'n llywodraethu Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) yn datgan yn benodol na chaniateir ôl-ddyddio. Rydym yn aml yn derbyn ymholiadau a chwynion yn y maes hwn ond yn gresynu nad oes gennym ddisgresiwn i ddyfarnu ôl-ddyddio.
Rwy'n ofalwr maeth, a allaf hawlio Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) i'r plentyn rwy'n ei faethu?
Ydw – Dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen. Pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen ar-lein, mae dewis incwm ar gyfer 'Lwfans Maeth'.
Mae fy mhlentyn wedi'i gofrestru gydag ysgol yn Sir y Fflint ond nid yw'n mynychu'r ysgol am reswm penodol, megis materion iechyd, anabledd, gwaharddiad ac ati. A allaf gael fy nhalu am eFSM yn lle hynny?
Na – mae eFSM yn ymwneud â darparu pryd o fwyd i blentyn ac mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru (LlC) yn gadarn iawn yn ei gylch. Mae’n bosibl y byddwn yn gallu gwneud newidiadau i ddarpariaethau prydau, megis sicrhau bod pecyn bwyd ar gael y gall y rhiant ei gasglu, ond mae hyn mewn amgylchiadau eithriadol. Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.
Mae gen i blentyn neu blentyn arall sy'n dechrau yn yr ysgol ym mis Medi. A fyddant yn cael prydau ysgol am ddim yn awtomatig?
Os yw eich plentyn yn dechrau'r dosbarth derbyn ym mis Medi, bydd yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y Prydau Ysgol Gynradd Am Ddim Newydd, Cyffredinol. Fodd bynnag, os yw'r rhiant yn derbyn incwm penodol (gweler y pwyntiau bwled isod), rhaid iddynt barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim (eFSM). Y rheswm am hyn yw na fyddant yn gallu cael gafael ar gyllid arall, fel grant gwisg ysgol. Mae gennym fwy o wybodaeth am hyn yma:
https://www.flintshire.gov.uk/cy/Resident/Schools/Free-School-Meals.aspx
Pam bod hawlio prydau ysgol am ddim (eFSM) yn bwysig?
Os ydych chi’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (eFSM) mae’n bwysig iawn i ysgol eich plentyn eich bod chi’n hawlio hynny. Gall yr ysgol dderbyn cyllid ar gyfer plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim (eFSM), cyllid a fydd yn eu cynorthwyo i ddarparu rhaglenni cefnogi wedi eu targedu a phrynu offer ac adnoddau ac ati.
Os yw’n well gan eich plentyn dderbyn pecyn bwyd neu wneud trefniadau cinio eraill, mae’n dal yn bwysig eich bod chi’n cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim (eFSM) er mwyn i’ch ysgol hawlio’r cyllid.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn anfonwch e-bost at: FreeSchoolMeals@flintshire.gov.uk