Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Anfonwch eich lluniau gorau o dref, castell ac arfordir y Fflint atom

Published: 28/02/2024

Helpwch ni i ddathlu tref, castell ac arfordir y Fflint drwy gyflwyno eich lluniau gorau i’w cynnwys mewn arddangosfa yn nes ymlaen eleni.

Fel rhan o brosiect ‘Off Flint’ Cyngor Sir y Fflint, rydym yn awyddus i ddangos pa mor arbennig yw’r dref, felly rydym yn gofyn i bobl fynd allan i dynnu lluniau a’u rhannu nhw gyda ni.

Gall y rhain gynnwys eich hoff olygfa neu fanylion cuddiedig sydd o bosibl yn cael eu hanwybyddu. Hoffem glywed y stori y tu ôl i’r llun, beth wnaeth i chi dynnu’r llun a pham ei fod mor arbennig i chi.

Bydd y lluniau’n cael eu harddangos yn arddangosfa derfynol ‘Off Flint’ yn Llyfrgell y Fflint yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf, ac yn cael eu hychwanegu at y ciosg digidol er mwyn eu rhoi ar gof a chadw.

Mae ‘Off Fflint’ yn brosiect cyffrous sy’n cynnwys pobl leol mewn cofnodi, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint. Bydd straeon, lluniau ac arteffactau a gasglwyd yn ystod y prosiect yn ffurfio sail ar gyfer archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint, fel bod y wybodaeth a gesglir yn hynod hygyrch i bawb.

Arweinir y prosiect gan Gyngor Sir y Fflint, a diolch i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol, mae wedi cael £54,200 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dylid sicrhau bod unrhyw un yn eich lluniau wedi rhoi caniatâd i chi dynnu eu llun.  Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich lluniau yw dydd Gwener, 24 Mai 2024.  Gellir cyflwyno lluniau, ynghyd â’r ffurflen ffotograffiaeth dros e-bost at communityheritageofficer@flintshire.gov.uk