Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Landlord Cei Connah yn cael dirwy o bron i £30,000 am dorri Deddfau Tai

Published: 01/09/2023

Mae landlord twyllodrus wedi cael dirwy o £27,460 am roi preswylwyr mewn perygl drwy fethu cynnal eiddo yng Nghei Connah.

Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno erlyniad yn erbyn Guljbar Hussain am beidio cyflawni amodau trwydded Tai Amlfeddiannaeth (HMO).

Roedd Mr Hussain a’i gwmni, Stone Petals Limited, wedi eu trwyddedu i weithredu The Old Quay House ar Dock Road, ond rhoddwyd y preswylwyr, gan gynnwys teuluoedd a phlant ifanc mewn perygl.

Ym mis Mai 2022, roedd preswylwyr wedi cwyno i dîm safonau tai Cyngor Sir y Fflint ynglyn ag amodau byw anfoddhaol. 

Roedd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wedi cynnal archwiliad o’r eiddo ym mis Mai a mis Awst 2022 oedd yn cadarnhau nad oedd wedi cael ei gynnal yn unol â’r drwydded HMO.

Roedd Mr Hussain a’i gwmni wedi methu atgyweirio na newid drysau tân diffygiol, wedi gadael preswylwyr heb ddwr poeth yn gyson yn y basnau golchi dwylo, wedi gwrthod cyflwyno adroddiad Cyflwr Gosod Trydanol diweddaraf a heb roi sylw i atgyweiriadau oedd eu hangen mewn llety byw preswylwyr, ystafelloedd cymunedol a cheginau a rannwyd.

Roedd wedi pledio’n euog i dorri amodau’r drwydded yn Llys yr Ynadon, yr Wyddgrug ar 22 Awst 2023, a chafodd ddirwy o £18,000, gorchmynwyd i dalu £7,200 ychwanegol i’r dioddefwyr a £2,260 o gostau.

Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges glir y bydd Cyngor Sir y Fflint yn diogelu preswylwyr rhag landlordiaid twyllodrus sy’n torri amodau eu trwydded.

“Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Sir y Fflint i sicrhau bod Tai Amlfeddiannaeth yn cael eu rheoli’n gywir.”