Meini Prawf Eithrio Llywodraeth Cymru
Llyw.cymru - Pennu eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig
- Disgwylir i’r mwyafrif o eithriadau gael eu gwneud ar briffyrdd sy’n cludo traffig drwy ardaloedd trefol, ble nad oes llawer o gerddwyr/beicwyr yn eu defnyddio
- Fel rheol, ni ddylid gwneud eithriadau os yw ffordd yn cludo traffig lleol yn bennaf a dim ond yn gwasanaethu eiddo preswyl, a lle mae pobl yn cerdded ac yn beicio
- Ni ddylai penderfyniadau ar eithriadau gael eu dylanwadu gan gyflymder presennol y traffig a dylid eu gwneud gan yr awdurdod priffyrdd lleol sy’n adnabod eu ffyrdd orau
Ffyrdd a all aros yn ffyrdd 30mya
Dyma enghreifftiau i ddangos sut gellir gwneud penderfyniadau lleol ar sail tystiolaeth:
- Cyfleusterau lleol: Efallai bod cyfleusterau lleol fel canolfan gymunedol neu feddygfa ar y ffordd dan sylw, ond efallai bod pobl yn teithio iddynt ar droed neu ar feic ar hyd llwybr gwbl wahanol
- Efallai bod eiddo preswyl a manwerthu ar un ochr i’r ffordd, ond os oes tir agored ar yr ochr arall efallai nad oes yn rhaid i gerddwyr na beicwyr groesi’r ffordd
- Ffyrdd cyfyngedig drwy ardaloedd diwydiannol