Alert Section

Trosolwg

Mae datblygu chwarae yn cyfeirio at ymagwedd fwriadol a chyfannol o feithrin twf, dysg a lles plentyn drwy ffurfiau amrywiol o chwarae. Mae'n cydnabod rôl hanfodol chwarae yn natblygiad corfforol, gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol plant.

Mae datblygu chwarae yn ymwneud â chreu amgylcheddau, cyfleoedd a gweithgareddau sy’n annog plant i gymryd rhan mewn chwarae, sydd yn ei dro yn cefnogi eu datblygiad a’u dysg cyffredinol.

Mathau o Chwarae

Chwarae Corfforol: Gweithgareddau sy’n ymwneud â symudiad, ymarfer corff a datblygiad sgiliau echddygol bras. Mae enghreifftiau yn cynnwys rhedeg, neidio, dringo a chwaraeon.

Chwarae Creadigol: Chwarae ffugio lle mae plant yn defnyddio eu creadigrwydd i chwarae rôl, creu sefyllfaoedd a defnyddio gwrthrychau’n symbolaidd.  Mae’r math hwn o chwarae yn meithrin datblygiad gwybyddol a chymdeithasol.

Chwarae Cymdeithasol: Rhyngweithio sy’n helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, cydweithredu, trafod a datrys gwrthdaro. Mae hyn yn cynnwys gemau cydweithredol a chystadleuol.

Chwarae Gwybyddol: Gweithgareddau sy’n ysgogi meddwl, datrys problemau a chreadigrwydd. Gall hyn amrywio o bosau a blociau adeiladu i arbrofi a darganfod pethau newydd.

Chwarae Synhwyraidd: Yn ymwneud ag ymgysylltu â synhwyrau niferus (cyffwrdd, gweld, sŵn ayb) i archwilio deunyddiau a gweadau. Mae chwarae gyda thywod, chwarae gyda dŵr a biniau synhwyraidd yn enghreifftiau.

Chwarae yn yr Awyr Agored: Treulio amser yn yr awyr agored, sy’n annog chwilota, cysylltu â natur a gweithgarwch corfforol.

…a llawer iawn mwy!

Manteision Datblygu Chwarae

Datblygiad Corfforol: Mae chwarae yn helpu i ddatblygu sgiliau gwybyddol, cydsymud a ffitrwydd corfforol cyffredinol.

Datblygiad Gwybyddol: Mae chwarae yn annog meddwl yn feirniadol, datrys problemau a chreadigrwydd.

Datblygiad Emosiynol: Mae chwarae yn darparu cyfrwng ar gyfer mynegi emosiynau, lleihau straen a meithrin hunan-barch.

Datblygiad Cymdeithasol: Mae chwarae yn dysgu cydweithrediad, cyfathrebu, empathi a datrys gwrthdaro.

Datblygiad Ieithyddol: Mae chwarae yn cefnogi sgiliau ieithyddol drwy sgyrsiau, adrodd straeon a chwarae creadigol.

Dysgu Diwylliannol a Chymdeithasol: Mae chwarae yn galluogi plant i archwilio eu diddordebau, dysgu am eu byd a datblygu synnwyr o hunaniaeth.

Hyrwyddo Datblygu Chwarae

Amgylcheddau Diogel: Sicrhau mannau diogel, a gaiff eu goruchwylio a sy’n addas i oedran i hwyluso chwarae plant.

Deunyddiau Amrywiol: Darparu ystod amrywiol o ddarnau rhydd sy’n annog gwahanol fathau o chwarae.

Ymgysylltiad Oedolion: Gall oedolion hwyluso chwarae, ymuno yn y chwarae a rhoi arweiniad heb feddiannu’r broses chwarae.

Annog Dychymyg: Cefnogi chwarae creadigol drwy gynnig deunyddiau penagored a chaniatáu plant i arwain.

Mae datblygu chwarae yn ymagwedd gyfannol sy’n cydnabod gwerth enfawr chwarae yn nhwf a dysg plant. Drwy greu amgylcheddau cefnogol a chynnig cyfleoedd chwarae amrywiol, gall plant ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiadau sy’n cyfrannu at eu lles a’u datblygiad cyffredinol.