Alert Section

Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Mae'r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a gaiff ei ddathlu yn y Deyrnas Unedig i amlygu pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a dadlau dros hawl plant i chwarae.

Mae’n ddiwrnod llawn hwyl, gemau a gweithgareddau hwyliog, wedi ei drefnu gan gymunedau a sefydliadau amrywiol, ac awdurdodau lleol. Nod y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yw codi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd chwarae i les, datblygiad ac ansawdd bywyd cyffredinol plant. Dyma drosolwg o’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol:

Tarddiad a Diben

Fe sefydlwyd y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyntaf yn 1986 gan Fiwro Cenedlaethol y Plant yn y DU. Cafodd y digwyddiad ei greu i fynd i’r afael â phryderon cynyddol ynglŷn â lleihau cyfleoedd chwarae i blant o ganlyniad i ffactorau fel trefoli, cynnydd mewn amser sgrîn a phryderon am ddiogelwch. Mae’r digwyddiad yn pwysleisio’r angen i amddiffyn a hybu hawl plant i chwarae a hyrwyddo pwysigrwydd chwarae heb strwythur dan arweiniad plant.

Amcanion Allweddol

Codi Ymwybyddiaeth: Mae’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn anelu i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni, darparwyr gofal, gwneuthurwyr polisi a’r cyhoedd yn gyffredinol ynglŷn â gwerth chwarae ym mywydau plant.

Dathlu Chwarae: Mae’r digwyddiad yn darparu llwyfan i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau chwareus amrywiol, gan feithrin creadigrwydd, dychymyg a gweithgarwch corfforol.

Eiriolwr dros Chwarae: Mae’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn gweithredu fel cyfle i ddadlau dros fwy o gyfleoedd chwarae, mannau chwarae mwy diogel a pholisïau sy’n blaenoriaethu chwarae plant. 

Ymgysylltu â'r Gymuned: Mae’n annog cymunedau i ddod ynghyd, trefnu digwyddiadau a chreu amgylcheddau sy’n rhoi cyfle i blant chwarae.

Gweithgareddau’r Digwyddiad

Mae digwyddiadau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn amrywio’n helaeth, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys ystod o weithgareddau wedi eu dylunio i hyrwyddo chwarae. Gall y rhain gynnwys:

Chwarae yn yr Awyr Agored: Caiff meysydd chwarae, parciau a mannau agored yn aml eu trawsnewid yn barthau chwarae gyda gemau, chwaraeon a gweithgareddau creadigol.

Celf a Chrefft: Mae gweithgareddau celfyddydol a chrefft yn galluogi plant i fynegi eu hunain yn greadigol a chymryd rhan mewn prosiectau ymarferol.

Gemau a Heriau: Gemau traddodiadol, chwaraeon a heriau sy’n annog gweithgarwch corfforol a rhyngweithio cymdeithasol.

Chwarae Blêr: Gweithgareddau’n ymwneud â dŵr, mwd, tywod a deunyddiau eraill cyffyrddadwy sy’n ysgogi’r synhwyrau a chreadigrwydd.

Chwarae Creadigol: Gwisg ffansi, chwarae rôl a gweithgareddau adrodd straeon llawn dychymyg sy’n meithrin creadigrwydd a sgiliau cymdeithasol plant.

Digwyddiadau Cymunedol: Gorymdeithiau, ffeiriau a gwyliau sy’n dathlu chwarae ac yn dod â theuluoedd a chymunedau ynghyd.

Themâu a Negeseuon

Bob blwyddyn fe all y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gael thema neu neges benodol sy’n cyd-fynd â materion neu fentrau cyfredol sy’n gysylltiedig â chwarae. Gall themâu ganolbwyntio ar werth chwarae awyr agored, pwysigrwydd chwarae o ran lles corfforol a meddyliol plentyn a rôl chwarae mewn creu cymunedau gwydn.

Cyfranogiad

Caiff y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ei ddathlu ar hyd a lled y DU, ac mae’n cynnwys ysgolion, canolfannau cymunedol, awdurdodau lleol, sefydliadau chwarae a theuluoedd. Gall digwyddiadau amrywio o ddigwyddiadau bach lleol i wyliau cymunedol mwy.

Mae’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn gweithredu fel elfen bwerus sy’n atgoffa pobl o bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a’r angen i amddiffyn a hyrwyddo eu hawl i chwarae. Drwy’r dathliad blynyddol hwn caiff plant eu hannog i archwilio, creu a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cyfrannu at eu datblygiad cyfannol tra’n cael hwyl a meithrin synnwyr o gymuned.