Hafan > Preswyl > Tai > Digartref / Digartrefedd

Digartref / Digartrefedd

Ein prif nod yw atal digartrefedd trwy gynnig cyngor a chymorth i’ch galluogi i aros yn eich cartref, neu gallwn eich helpu i ddod o hyd i lety arall trwy edrych ar yr holl ddewisiadau tai sydd ar gael, gan gynnwys sicrhau llety yn y sector preifat neu’ch helpu chi gyda bond blaendal os oes angen.

Edrychwch ar y ‘cwestiynau cyffredin’ isod a ddylai’ch helpu chi gyda’ch ymholiad cychwynnol.  Peidiwch ag aros nes eich bod chi’n wirioneddol ddigartref, cysylltwch â’r tîm ac mae’n bosibl y gallwn eich atal chi rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf.

Os na all ein tîm atal eich digartrefedd ymhen 56 diwrnod, byddwn yn cynnal ymholiadau i gadarnhau’r canlynol:

  • eich bod yn gymwys am ein gwasanaeth
  • yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd
  • mewn angen blaenoriaeth ai peidio
  • a ydych chi wedi gwneud eich hun yn fwriadol ddigartref
  • pennu a oes gennych gysylltiad lleol â Sir y Fflint.

Os oes angen, gallai llety dros dro gael ei gynnig wrth i’r ymholiadau hyn gael eu cynnal.

Cofiwch ein bod ni’n ymateb i argyfwng ac felly mae’n bosibl y bydd rhaid i ni ddibynnu ar lety dros dro nad ydyw o reidrwydd ar gael mewn ardal o’ch dewis ac yn nodweddiadol, gallan nhw fod yn llai o faint na’r hyn sydd ei angen arnoch yn ddelfrydol.  Cofiwch, nid dewis llwybr cyflym i dai cyngor yw digartrefedd. Byddwch yn cael eich bandio yn unol â hynny ac yn nhrefn dyddiad.

Cwestiynau Cyffredin

Rydw i wedi cael rhybudd wrth fy landlord

Bydd y math o rybudd yn penderfynu ar y math o gytundeb sydd gennych.  Os ydy’ch landlord am i chi adael, rhaid iddynt roi rhybudd i chi mewn ffordd arbennig.  Os oes gennych amheuaeth o ran eich hawliau, cysylltwch â’n Tîm Atebion Tai ar 01352 703777.

Mae fy landlord yn byw gyda fi ac wedi dweud wrthyf am adael
Mae gan bobl sy’n rhannu llety gyda’u landlord wahanol hawliau i bobl sy’n rhentu eiddo ar wahân.  Golyga hyn eich bod yn debygol o fod yn breswylydd eithriedig os ydych chi mewn un o’r sefyllfaoedd canlynol:-

rydych chi’n rhannu llety gyda’ch landlord:-

  • rydych chi’n byw yn yr un adeilad â’ch landlord ac yn rhannu llety gydag aelod o deulu’ch landlord
  • rydych chi’n byw yn eich llety am wyliau
  • nid ydych chi’n talu unrhyw rent am eich llety.

Os ydych chi’n breswylydd eithriedig, ychydig iawn o hawliau tenantiaeth fydd gennych.  Mae’n bwysig cofio pa mor hawdd yw hi i’ch landlord eich troi allan.  O’r herwydd, gallai fod yn anodd i chi gael atgyweiriadau wedi’u gwneud neu wrthwynebu codiadau mewn rhent.

Fel preswylydd eithriedig, eich unig hawl yw aros hyd nes i’ch landlord ofyn i chi fynd, neu am gyhyd ag y mae’ch cytundeb ysgrifenedig yn ei ddweud.  Gall eich landlord eich troi allan trwy roi rhybudd rhesymol i chi ac nid oes angen gorchymyn llys arno.  Byddai’r rhan fwyaf o awdurdodau’n gofyn i’ch landlord am 14 i 28 diwrnod fel rhybudd rhesymol.  

Fe’ch anogwn yn gryf i gysylltu â’n Tîm Atebion Tai ar 01352 703777 er mwyn ceisio’ch atal chi rhag mynd yn ddigartref a cheisio trafod gyda’ch landlord  gyda’r bwriad o’ch galluogi i aros yn yr eiddo e.e. trefnu am rywfaint o waith cyfryngdod os ydych chi wedi cael ffrae gyda’ch landlord. 

Mae fy landlord/asiant wedi dweud wrthyf trwy neges destun/ar lafar eu bod yn mynd i roi rhybudd i mi

Os ydy’ch landlord / asiant wedi rhoi gwybod i chi mewn person neu drwy neges destun eu bod yn mynd i roi rhybudd i chi, golyga hyn nad ydych chi’n ddigartref na dan fygythiad o fod yn ddigartref ar hyn o bryd.  Nid yw rhybudd ar lafar neu drwy neges destun gan landlord / asiant yn rhybudd dilys.

Rydw i wedi cael Rhybudd Adran 21 sy’n Gofyn am Feddiant
Mae mwyafrif y tenantiaethau rhent preifat yn Denantiaeth Fyrddaliol Sicr sy’n golygu y gallwch fyw yn yr eiddo am 6 mis o leiaf ac ni ellir eich troi allan heb Orchymyn Llys.  Ni all llys wneud gorchymyn am feddiant oni y rhoddwyd Rhybudd Adran 21 dilys i chi.  Ni ellir ôl-ddyddio’r rhybudd a rhaid iddo fod yn ddeufis o leiaf.

O ble gallaf gael cyngor?
Fe’ch cynghorwn yn gryf i gysylltu â’n Tîm Atebion Tai ar 01352 703777 yn ddi-oed er mwyn ceisio helpu eich atal rhag mynd yn ddigartref.  Dan rai amgylchiadau, gallwn ddirymu’ch rhybudd gyda rhywfaint o drafod gan ein tîm (e.e. os oes ôl-ddyledion, gallwn drefnu cynllun talu, neu drefnu i weithiwr cymorth gynorthwyo gydag unrhyw broblemau ariannol sydd wedi arwain at gyhoeddi’r rhybudd).  Gallai ymyrraeth gynnar olygu hefyd na fyddai costau’r llys yn cael eu trosglwyddo ymlaen i chi gan eich landlord.  Neu, gallwch gysylltu â Shelter Cymru neu Cyngor Ar Bopeth am gyngor annibynnol mewn perthynas â’ch sefyllfa tai. 

Rwy’n cael trafferth talu fy rhent / morgais

Os na allwch dalu’ch rhent neu forgais, peidiwch ag anwybyddu’r broblem oherwydd ni fydd yn diflannu.  Siaradwch gyda’ch landlord neu fenthyciwr morgais cyn gynted â phosibl.  Os yw’r broblem yn sgil newid mewn amgylchiadau, problem gyllidebu, diswyddiad neu doriad mewn budd-daliadau, mae rhai camau syml isod y gallwch eu cymryd i’ch helpu chi gael rheolaeth ar bethau ac osgoi troi allan neu adfeddiannu.

Siaradwch gyda’ch Landlord neu Fenthyciwr Morgais
Er y gellir deall pam y gallai fod arnoch ofn dweud wrth eich landlord neu fenthyciwr morgais eich bod yn mynd i fod yn hwyr gyda’r rhent neu’r morgais, mae’n llawer gwell bod yn onest am y broblem cyn i chi fethu â thalu.

Pan fyddwch yn siarad gyda’ch landlord:-

  • esboniwch pam rydych chi’n mynd i fod yn hwyr gyda’r rhent a gofynnwch am rywfaint o amser ychwanegol
  • byddwch yn glir am  yr hyn rydych chi’n ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem i helpu sicrhau na fydd yn digwydd eto

Pan fyddwch yn siarad gyda’ch benthyciwr morgais, byddant yn awyddus i helpu a byddant yn trafod trwy’ch dewisiadau.  Rhaid iddynt wneud ymdrechion rhesymol i ddod i gytundeb gyda chi, gan gynnwys ystyried p’un ai i newid y ffordd rydych chi’n gwneud taliadau a phryd i’w gwneud nhw.

Os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion morgais, rhaid i’ch benthyciwr, ymhen 15 niwrnod:-

  • restru’r holl daliadau rydych chi wedi’u colli
  • rhoi gwybod cyfanswm eich ôl-ddyledion i chi
  • rhoi gwybod swm unrhyw ffioedd a achoswyd yn sgil colli unrhyw daliadau
  • rhoi gwybod i chi’r union swm sy’n weddill dan eich morgais
  • rhoi amser rhesymol i chi dalu am unrhyw brinder mewn taliadau
  • rhoi gwybod i chi’r ffioedd tebygol yn y dyfodol os na fydd yr ôl
  • ddyledion yn cael eu clirio

At hynny, rhaid i’ch benthyciwr beidio â mynd ati i adfeddiannu oni fod pob ymdrech resymol arall i ddatrys y sefyllfa wedi methu, a rhaid iddynt roi rhybudd rhesymol i chi cyn cymryd y cam hwnnw.  Cynigiwch dalu’n ôl yr hyn y gallwch ei fforddio pan fyddwch yn trafod eich dewisiadau gyda’ch benthyciwr – mae parhau i dalu’n ôl rhywfaint o’r arian yn well na thalu dim byd a bydd yn helpu lleihau’ch ôl-ddyledion.

Nodwch y broblem a gwnewch gynllun 
Mewn rhai achosion, bydd hi’n amlwg pam fod gennych broblem - efallai bod eich incwm neu dreuliau wedi newid er gwaeth yn sydyn, e.e. rydych chi wedi colli eich swydd neu mae’ch partner wedi symud allan ac wedi stopio cyfrannu at y rhent neu’r morgais.  Mewn achosion eraill, hwyrach eich bod yn byw y tu hwnt i’ch modd.  Beth bynnag yw’r rheswm, bydd angen i chi gael cynllun.  Gallai bod yn hwyr yn talu’ch rhent neu forgais yn fynych arwain at eich troi allan ac at eirda gwael gan eich landlord os ydych chi’n rhentu, neu adfeddiant o’ch cartref os oes gennych forgais.

Eich cynllun dau gam:-

  • defnyddiwch ein Ffurflen Incwm a Gwariant i gyfrifo’r diffyg rhwng eich incwm misol a’ch treuliau
  • ar ôl i chi wneud hyn, chwiliwch am fyrdd o dorri’n ôl neu roi hwb i’ch incwm misol i gau’r bwlch.

Ffyrdd y gallwch dorri’n ôl

Gall torri’n ôl fod yn anodd, ond hwyrach na fydd hynny mor boenus â chael eich troi allan o’ch cartref - a dyna pam mae’n hollbwysig eich bod chi’n gweithredu nawr.  Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:-

  • allwch chi waredu ar unrhyw un o’ch treuliau misol rheolaidd neu dorri’n ôl ar unrhyw bethau moethus?
  • ydych chi ar y tariff rhataf ar gyfer eich holl filiau misol?
  • os oes gennych ddyled cerdyn credyd, allwch chi newid i gerdyn credyd 0% ac arbed taliadau llog i chi’ch hun?
  • ydych chi’n gwario gormod ar fynd allan neu ar ddillad newydd? Mae’n llawer pwysicach gallu talu’r rhent neu’r morgais.

Rhoi Hwb i’ch Incwm

Os ydy’ch amgylchiadau wedi newid a bod eich incwm wedi cwympo o ganlyniad, hwyrach y gallwch hawlio budd-daliadau i’ch helpu chi i dalu’ch rhent, megis y Budd-dal Tai neu Ostyngiadau’r Dreth Gyngor.  Os torrwyd eich budd-daliadau o ganlyniad i’r cap budd-daliadau neu oherwydd y dosbarthwyd eich bod yn ‘tanbreswylio’ch’ cartref - gallwch wneud cais am Daliadau Dewisol Tai.  Ni all Taliadau Dewisol Tai gynorthwyo perchnogion cartrefi.

Ble i gael help a chyngor am ddim

Os hoffech siarad â rhywun am sut i ddelio â’ch landlord neu ar ôl siarad â’ch benthyciwr morgais, gallwch ffonio Shelter neu Cyngor ar Bopeth neu Ymgynghorydd Dyledion Arbenigol Cyngor Sir y Fflint ar 01352 703693.  Byddan nhw’n gallu siarad â chi hefyd am ba hawliau gallech eu hawlio i’ch helpu i dalu’ch rhent neu forgais os ydych chi ar incwm isel.  Neu, gallwch gysylltu â’n Tîm Atebion Tai ar 01352 703777 i gael cymorth. 

Mae fy mherthynas wedi chwalu ac mae fy mhartner yn gofyn i mi adael

A all fy mhartner fy nhaflu i allan o’n cartref os byddwn yn gwahanu?

Fel rheol, bydd hyn yn dibynnu ar:-

  • statws cyfreithiol eich perthynas
  • a oes gennych hawliau deiliadaeth

Rwy’n briod / Rydw i mewn partneriaeth sifil / Rwy’n denant / Rydw i’n byw gyda fy mhartner a rhoddwyd hawliau deiliadaeth i mi
Os oes unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, mae gennych hawliau cryf i aros yng nghartref y teulu a byddai’n rhaid i’ch partner gael gorchymyn llys (e.e. gorchymyn gwahardd) cyn y gallent wneud i chi adael eich cartref.  I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau i aros yn y cartref, darllen yr adran ar hawliau deiliadaeth.

Os ydy’ch partner yn ceisio’ch gorfodi chi allan, e.e. trwy wneud eich bywyd mor ddiflas nid oes gennych ddewis ond i adael, neu’n newid y cloeon fel na allwch fynd nôl mewn i’r tŷ, mae hyn yn achos o droi allan anghyfreithlon.  Mae troi allan anghyfreithlon yn drosedd a gallwch roi gwybod i’r heddlu am eich partner.  Yn ogystal, gallech gymryd gwaharddeb, gorchymyn dim aflonyddu neu fath arall o orchymyn llys yn eu herbyn neu i’w hatal rhag ymddwyn fel hyn.

Rwy’n byw gyda fy mhartner ond ni roddwyd hawliau deiliadaeth i mi
Yn yr achos hwn, bydd eich partner yn gallu eich troi allan heb orchymyn llys os bydd yn rhoi rhybudd rhesymol i chi (byddwn yn gofyn am 14 i 28 diwrnod).  Ar ôl i’ch partner dynnu ei ganiatâd/chaniatâd i chi rannu’r cartref, ni fydd gennych hawl i aros yno mwyach ac nid oes dim i stopio’ch partner rhag newid y cloeon ar yr eiddo pan fyddwch chi allan fel na allwch fynd nôl i mewn.  

Os byddwch yn gwrthod gadael, gall eich partner wneud cais i’r llys am orchymyn taflu allan neu gall hyd yn oed ofyn i’r heddlu am help i’ch cael chi allan.  Fodd bynnag, mae’r heddlu’n annhebygol o eisiau bod yn rhan o’r peth os nad oes gan eich partner orchymyn llys. 

Os nad ydych chi am adael, bydd angen i chi wneud cais i’r llys yn syth i roi hawliau deiliadaeth i chi.   Mae’r dewis hwn yn agored i chi p’un a ydych mewn perthynas heterorywiol, lesbiaidd neu hoyw gyda’ch partner.

Hwyrach y gallwch hefyd wneud cais am hawliau deiliadaeth ar ôl i chi adael yr eiddo.  Ar y cyfan, bydd hyn ond yn berthnasol os cawsoch eich gorfodi allan gan bartner treisgar neu ymosodol.

Symudais allan – ydy hyn yn golygu y gallaf symud nôl i mewn eto?

Rwy’n briod neu mewn partneriaeth sifil:

Os gadawsoch gartref y teulu (e.e. os aethoch i aros mewn lloches neu gyda theulu neu ffrindiau), mae gennych hawl i symud nôl i mewn eto ynghyd ag unrhyw blant neu wyrion rydych ch’n gofalu amdanynt.  Os nad yw’ch partner eisiau i chi ddychwelyd, gallwch fynd i’r llys am orchymyn i orfodi’ch hawliau deiliadaeth.  Bydd hyn yn eich galluogi i symud nôl i mewn.  Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i orfodi’ch ffordd nôl mewn heb orchymyn llys.  Os oes angen i chi wneud hyn (e.e. os oes angen i chi gasglu celfi neu eiddo) y peth gorau yw gofyn i’r heddlu ddod gyda chi, er mwyn atal pethau rhag mynd allan o reolaeth.

Os symudoch chi allan ar 4 Mai 2006 neu wedi hynny, bydd eich hawl i ddychwelyd a byw yn y cartref ond yn para dwy flynedd.  Fodd bynnag, byddwch ond yn colli’ch hawliau os nad ydych wedi byw gyda’ch partner neu yng nghartref y teulu yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd.

Byddwch yn colli’ch hawl i fyw yn y cartref hefyd os:-

  • ydych chi’n rhoi’ch hawliau i fyw yno i fyny, neu
  • os ydych chi’n ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil

Os symudoch allan cyn 4 Mai 2006, byddwch yn cael yr hawl i symud nôl i mewn hyd nes i chi gael ysgariad neu ddiddymiad o bartneriaeth sifil neu’n ildio’ch hawliau.

Mae gennyf hawliau deiliadaeth
Os ydy’r llys wedi rhoi hawliau deiliadaeth i chi, gallwch ddychwelyd i gartref y teulu tra bydd yr hawliau hynny’n para.  Bydd eich hawliau’n para cyhyd ag y bydd y gorchymyn llys yn ei nodi (hyd at chwe mis) neu hyd nes y cewch eich troi allan yn gyfreithiol o’ch cartref.  Gallwch wneud cais i’r llys adnewyddu’ch hawliau deiliadaeth ar ôl iddynt ddirwyn i ben. Ond rhaid i chi gofio gwneud hyn oherwydd ni fyddwch chi’n cael eich atgoffa.  Os nad yw’ch partner am i chi ddychwelyd i gartref y teulu, gallwch ofyn i’r llys am orchymyn i orfodi’ch hawliau deiliadaeth a’ch caniatáu i symud nôl i mewn.

Rwy’n denant neu’n gyd-denant:

Yn yr achos hwn, byddwch yn cadw’r hawl i ddychwelyd i’ch cartref hyd nes i’ch tenantiaeth ddod i ben yn swyddogol.  Gallai’ch tenantiaeth ddod i ben oherwydd:-

  • rydych chi’n dod â’r denantiaeth i ben eich hun
  • bod eich prydles yn dod i ben
  • bod eich landlord yn eich troi allan

Rydw i am adael fy mhartner am resymau cam-drin domestig
RHOWCH EICH DIOGELWCH YN GYNTAF.  Gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun diogelwch ar waith hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gadael yn syth bin.  Ceisiwch adael tra bydd y cyflawnwr oddi cartref fel na all ef/hi geisio’ch stopio.  Os oes modd, trefnwch le i aros cyn i chi adael a chael cyngor am gystodaeth os oes gennych unrhyw blant.  Os oes rhaid i chi adael mewn brys oherwydd bod eich partner wedi ymosod arnoch chi, ffoniwch yr heddlu.  Efallai y gallant ei arestio/harestio, a fydd yn rhoi rhywfaint o amser i chi adael.

Llinell gymorth trais domestig i fenywod
Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Trais Domestig Cenedlaethol, sydd ar agor 24 awr / saith diwrnod yr wythnos ar 0808 2000 247.  Caiff y llinell gymorth ei rhedeg gan Cymorth a Lloches i Ferched ac mae’n cynnig cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth gyfrinachol i ddioddefwyr cam-drin domestig a gall helpu gydag atgyfeiriadau i lochesi i fenywod sy’n ffoi rhag trais domestig.  Gall y llinell gymorth ddarparu mynediad i ddehonglwyr mewn ystod o ieithoedd.

Llinell gymorth trais domestig i ddynion
Gallwch gysylltu â’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327.  Mae’r llinell gymorth (a redir gan yr elusen Respect) ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am i 1pm a 2pm i 5pm ac mae’n cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i ddynion sy’n dioddef trais domestig yn ogystal â’u ffrindiau a’u teulu.

Help i bobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol
Mae llinell gymorth Broken Rainbow yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol i holl aelodau’r cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, eu teulu a’u ffrindiau, ac i’r asiantaethau sy’n eu cefnogi.  Gallwch gysylltu â Broken Rainbow ar 0300 999 5428.  Mae’r llinell gymorth ar agor ar ddydd Llun 2pm i 8pm, Dydd Mercher 10am i 5pm a Dydd Iau 2pm i 8pm.

Aros yn eich cartref
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin neu drais domestig, efallai yr hoffech aros yn eich cartref, cael y cyflawnwr allan a gwneud eich cartref yn lle diogelach i fyw ynddo, yn enwedig os oes gennych gysylltiadau teuluol cryf neu addysg y plant yn yr ardal.

Ffoniwch yr heddlu:

Mewn rhai achosion, y ffordd orau o gael y cyflawnwr i adael yw cael ef/hi wedi’i (h)arestio.  Efallai mai dim ond am gyfnod byr y bydd hyn yn ei gael /ei chael allan o’r ffordd, ond os caiff ei gyhuddo/chyhuddo, gellir ei gadw/chadw yn y ddalfa neu gallai gael mechnïaeth dim ond ar yr amod nad yw’n mynd yn agos atoch.  Os cyflawnwyd trosedd, gallai gael ei (h)erlyn a chael dedfryd o garchar.

Newidiwch y cloeon:

Hwyrach yr hoffech newid y cloeon i atal y cyflawnwr  rhag mynd i mewn i’ch cartref.  Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o ddau beth:-

  • mae newid y cloeon yn annhebygol o atal ymosodwr penderfynol, ac eithrio pan gânt eu cyfuno â mesurau diogelwch eraill
  • os oes gan y cyflawnwr hawliau i fyw yn y cartref (er enghraifft, os oes gennych denantiaeth ar y cyd), gallech fod yn ei droi/ei throi allan yn anghyfreithlon.

Gwnewch eich cartref yn fwy diogel:

Mae sawl mesur y gallwch chi eu cymryd i’ch gwneud chi’n fwy diogel yn eich cartref, er enghraifft trwy:-

  • ffitio cloeon mwy diogel, cadwyni drws, a thyllau sbïo ar gyfer y drysau blaen
  • atgyfnerthu drysau a fframiau drysau
  • gosod cloeon, barrau a griliau ar y ffenestri- gosod larymau, teledu cylch caeedig a goleuadau diogelwch
  • gwella mesurau diogelwch tân
  • cael ystafell ddiogel wedi’i hatgyfnerthu ac y mae modd ei chloi yn y tŷ y gellir ffonio’r heddlu ohoni
  • rhoi gwybod i’r cymdogion nad yw’r cyflawnwr yn byw gyda chi mwyach a gofyn iddynt roi gwybod i chi os byddant yn ei (g)weld yn loetran o gwmpas
  • newid rhifau ffôn a sgrinio galwadau.

Gellir defnyddio’r mesurau hyn ochr yn ochr â mesurau cyfreithiol eraill i gadw’r cyflawnwr allan (e.e. Gorchymyn Deiliadaeth neu Orchymyn Peidio ag Ymyrryd neu waharddeb). Byddant ond yn eich diogelu tra byddwch y tu mewn i’ch cartref, felly mae’n bosibl yr hoffech ystyried mesurau diogelwch eraill tra byddwch chi allan (e.e. larymau personol, ffôn symudol, dosbarthiadau hunan amddiffyn).  Gallan nhw hefyd fod yn ddrud ond efallai y gallwch gael help i dalu amdanynt gan y cyngor.

Gall yr heddlu roi rhagor o gyngor i chi ar fesurau diogelwch.  Gwnewch yn siŵr fod eich gorsaf heddlu leol yn gwybod eich bod chi wedi dioddef cam-drin domestig.  Dylech hefyd roi copi iddynt o unrhyw waharddeb berthnasol, yn enwedig os oes grym arestiad ynghlwm, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt ymateb yn gyflym i unrhyw alwad gennych chi.

Gorchmynion Deiliadaeth
Gorchmynion llys yw Gorchmynion Deiliadaeth sy’n ymestyn neu’n cyfyngu ar hawl rhywun i breswylio mewn cartref.  Er enghraifft, gallant roi’r hawl i chi aros yng nghartref y teulu lle nad oedd gennych yr hawl honno’n flaenorol (er enghraifft, lle mae’r denantiaeth yn unig denantiaeth yn enw’r cyflawnwr), neu wahardd y cyflawnwr o’r cartref.

Gellir gwneud cais am Orchymyn Deiliadaeth ar wahân neu fel rhan o drefniadau cyfraith deuluol arall (trefniadau ysgariad neu gystodaeth, er enghraifft).  Bydd manylion y gorchymyn y gallwch wneud cais amdano’n dibynnu ar eich perthynas â’r cyflawnwr a’r math o lety rydych chi’n byw ynddo.

Gall Gorchmynion Deiliadaeth feddu ar bŵer i arestio, felly, er enghraifft, os ydy’r cyflawnwr wedi’i wahardd o’r cartref, gellir ei (h)arestio os bydd yn ceisio torri i mewn.  Gellir rhoi dedfryd o garchar neu ddirwy i gyflawnwr am dorri’r gorchymyn.

Bydd angen i chi ofyn am gyngor cyfreithiwr i gael Gorchymyn Deiliadaeth.  Ni allant sicrhau eich diogelwch, a bydd ond yn para am amser cyfyngedig, felly bydd angen i chi gymryd camau pellach i ddatrys pwy sy’n aros yn yr eiddo yn y tymor hir.

Cael gorchymyn neu waharddeb
Bydd angen i chi gael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu.  Bydd y cyfreithiwr yn eich helpu chi i wneud cais i’r llys am waharddeb. Weithiau, gellir ceisio gwaharddebau fel rhan o drefniadau cyfraith teulu (ysgariad neu gystodaeth).  Bydd y barnwr yn ystyried tystiolaeth y trais yn eich erbyn chi ac:-

  • ydy’r ymddygiad rydych chi eisiau ei stopio’n anghyfreithlon
  • ydy’r cyflawnwr yn debygol o roi’r camau ar waith
  • oes tebygolrwydd o niwed i chi
  • a ellir esbonio’r ymddygiad yn glir er mwyn i’r cyflawnwr ddeall beth mae’n cael ei wahardd rhag gwneud
  • ydy’r gorchymyn neu’r waharddeb yn angenrheidiol ar gyfer eich diogelwch.

Yn wahanol i’r llysoedd troseddol, nid oes rhaid profi’r trais ‘y tu hwnt i bob amheuaeth resymol’; bydd rhaid i’r barnwr fod yn fodlon ei fod yn ‘fwy tebygol na pheidio’ bod y trais wedi digwydd.  Wedyn, bydd y barnwr yn penderfynu a fydd yn gwneud gorchymyn neu waharddeb ac, os felly, pa amodau i glymu wrtho.

Cael help gan y Tîm Atebion Tai
Gallwch gysylltu â’n tîm am help a gallwn awgrymu gwella diogelwch yn eich cartref fel dewis arall i fynd at le diogel.  Eich dewis chi yw  hi os nad ydych yn dymuno aros yn y cartref, yn enwedig os na fyddwch yn teimlo’n ddiogel.  

Gallwn gynnig y canlynol:-

  • cyngor a chymorth ar ddigartrefedd
  • troi at lety neu loches brys
  • cyngor ar wahardd y cyflawnwr o’ch cartref
  • gwelliannau yn niogelwch eich cartref (e.e. caledu targedau – larymau, cloeon ac ati)- cysylltiadau brys a chefnogaeth barhaus

Cysylltwch â’n tîm ar 01352 703777.  

Rydw i am adael fy nghartref neu mae fy nheulu / perthnasau wedi gofyn i mi adael

Os credwch fod angen i chi adael eich cartref oherwydd dadleuon neu anghytundeb teuluol, nid symud allan yw’ch unig opsiwn.  Gallai fod yn well i chi aros gartref gyda’ch teulu a cheisio datrys eich trafferthion.  Nid yw’r wybodaeth isod yn benodol i oedran a gall fod yn berthnasol i unrhyw un o unrhyw oedran sy’n byw gartref gyda theulu neu berthnasau eraill.

Gwirionedd gadael cartref

Os ydych chi’n ystyried gadael y cartref oherwydd straen gyda’ch teulu, gallai helpu i stopio a meddwl am wirionedd adael y cartref yn y lle cyntaf.  Efallai y credwch ei fod yn golygu:-

  • eich fflat eich hun
  • gwneud beth rydych chi eisiau, pan fyddwch chi eisiau
  • dim rheolau
  • neb yn dweud wrthoch beth i wneud

Mewn gwirionedd, mae’n debygol:-

  • y gallai fod yn anodd dod o hyd i rywle i fyw
  • y bydd rhaid i chi rannu llety
  • bydd rheolau tŷ
  • bydd gennych lawer o gyfrifoldebau newydd, fel talu rhent a choginio
  • bydd gennych incwm cyfyngedig a gallech ei chael hi’n anodd fforddio’r pethau rydych chi’n eu mwynhau

Aros yng nghartref y teulu

Wrth i chi dyfu i fyny, mae’n naturiol na fyddwch chi’n cyd-dynnu gyda’ch rhieni neu warcheidwaid bob amser.  Gall yr anghytundeb hwn ddeillio’n aml o ddiffyg dealltwriaeth o fywydau a’ch ymddygiad eich gilydd. Byddai’n well ceisio datrys pethau.  Esboniwch sut rydych chi’n teimlo a gwrandewch ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.

Gosod rhai rheolau sylfaenol

Weithiau, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo mai eich rhieni sy’n gwneud y rheolau i gyd a bod rhaid i chi ddewis ufuddhau iddynt neu eu torri.  Ond nid oes rhaid i bethau fod fel hyn.  Wrth i chi dyfu i fyny, mae’n bwysig eich bod chi a’ch rhieni’n gosod y rheolau sylfaenol gyda’ch gilydd ac yn gwneud penderfyniadau a fydd yn dderbyniol i bawb.

Gallai’r penderfyniadau hyn fod ar faterion fel:-

  • preifatrwydd a lle personol
  • pryd a pha mor aml rydych chi’n mynd allan
  • faint rydych chi’n helpu o gwmpas y tŷ

Ceisiwch drafod yn lle dadlau, a bod yn barod i gyfaddawdu.

Gallai’r enghreifftiau gynnwys:-

  • gallech gytuno bod eich rhieni’n cadw allan o’ch ystafell wely ar yr amod eich bod chi’n ei chadw’n daclus ac yn rhoi’ch dillad budr yn y peiriant golchi
  • gallech benderfynu na fyddwch yn mynd allan yn ystod yr wythnos, ond yn gallu aros allan mor hwyr ag y dymunwch ar y penwythnos.

Os ydy’ch rhieni’n bendant iawn am rai pwyntiau, gofynnwch pam, yn hytrach na dadlau yn ei gylch a gwrandewch ar eu rhesymau.  Mae’n debygol iawn mai eich lles chi sydd ganddynt mewn golwg a’u bod nhw am i chi fod yn ddiogel ac yn hapus.  Os ydyn nhw’n poeni amdanoch chi, gallech chi roi tawelwch meddwl iddyn nhw, fel rhoi rhif cyswllt iddyn nhw os ydych chi’n bwriadu aros rhywle dros nos neu roi gwybod iddynt am eich ymrwymiadau gwaith neu goleg, os ydyn nhw’n credu eich bod chi’n esgeuluso’ch gwaith o gwmpas y tŷ.

Gair i gall...

Efallai bod hyn yn swnio’n ystrydebol, ond os ydych chi eisiau cael eich trin fel oedolyn, mae’n bwysig ymddwyn fel un.  Dyma ambell i awgrym i gael parch ac ymddiriedaeth eich rhieni:-

  • tynnwch eich pwysau o gwmpas y tŷ – edrychwch ar ôl brodyr a chwiorydd iau, gwnewch y golch neu coginiwch bryd i’r teulu
  • os ydych chi am i’ch rhieni aros allan o’ch ystafell wely, cadwch hi’n daclus – peidiwch â rhoi esgus iddynt fusnesan
  • peidiwch â gadael eich rhieni allan o’ch bywyd - ceisiwch dreulio rhywfaint o amser safonol gyda nhw bob hyn a hyn (os ydyn nhw’n sylweddoli nad ydych chi’n eu hosgoi, maen nhw’n fwy tebygol o ymddiried ynoch chi a rhoi rhywfaint o le i chi)
  • ceisiwch fod yn onest ac yn agored – os byddwch yn dweud celwydd ac yn cael eich dal (ac mae’n debygol y cewch chi), bydd hyn ond yn gwneud pethau’n waeth ac yn dinistrio ffydd eich rhieni ynoch chi
  • peidiwch â dadlau dros bopeth bach rydych chi’n anghytuno ag ef (felly, bydd gennych chi fwy o rym pan ddaw hi i’r pethau mwy o faint)
  • siaradwch drwy bethau!
  • os oes gennych broblem â’r ffordd y mae’ch rhieni’n eich trin, er enghraifft, os ydyn nhw’n pregethu arnoch chi neu’n gwrthod cyfaddawdu ar reolau’r tŷ, siaradwch gyda nhw am y peth – efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli eu bod nhw’n eich cynhyrfu.

Cofiwch, pan fyddwch yn trafod trwy bethau:-

  • peidiwch â mynd yn flin a gweiddi neu regi - bydd eich rhieni ddim yn gwrando
  • os ydych chi’n flin, arhoswch nes i chi deimlo’n fwy pwyllog, cyn trafod pethau
  • ceisiwch ysgrifennu’ch pwyntiau i lawr os credwch chi y gallech fynd yn emosiynol
  • dewiswch eiliad da, pan nad yw’ch rhieni’n brysur ac y gallant roi sylw i’r hyn rydych chi’n ei ddweud
  • rhowch eich ochr chi o’r stori, wedyn gofynnwch iddynt esbonio’u hochr nhw
  • gwrandewch ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, a cheisiwch gydnabod eu barn, hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno ag ef
  • os byddwch yn cweryla, peidiwch â bod ofn cyfaddef eich bod chi ar fai ac ymddiheurwch
  • siaradwch â rhywun arall

Os ydych chi’n cael problemau’n cyfathrebu gyda’ch rhieni, gallai fod yn help trafod â rhywun arall, gallai fod yn frawd neu’n chwaer hŷn, eich nain a’ch taid, modryb neu ewythr, ffrind neu athro/athrawes.  Efallai y gallen nhw gyfryngu rhyngoch chi, er mwyn helpu esmwytháu pethau gyda’ch rhieni.

Cyfryngdod
Os teimlwch fod arnoch angen rhywfaint o help ‘uniongyrchol’ i ddatrys pethau gyda’ch teulu, gall ein Tîm Atebion Tai drefnu cynnal sesiwn cyfryngu.  Mae cyfryngwr yn rhyw fath o ganolwr niwtral a all eich helpu chi a’ch rhieni i ddatrys eich problemau.  Dydyn nhw ddim yn cymryd ochrau, dydyn nhw ddim yn penderfynu ‘pwy sy’n iawn’ ac nid ydyn nhw’n dweud wrthych beth i wneud.  Yn hytrach, byddan nhw’n eich helpu i ddatrys pethau i chi’ch hun.  Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gyfryngdod , cysylltwch â’n tîm ar 01352 703777.

A all fy rhieni/perthnasau fy nhaflu i allan?
Gellir datrys y rhan fwyaf o anghytundebau teuluol trwy gyfathrebu ac, mewn rhai achosion, cyfryngdod.  Fodd bynnag, weithiau nid yw hi’n bosibl aros adref oherwydd nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel neu efallai bod eich rhieni wedi dweud bod rhaid i chi adael.  Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio’ch cael chi nôl adref, lle mae’n ddiogel gwneud hynny ac os oes angen, rhoi cefnogaeth i’ch helpu chi a’ch teulu.  Dan rai amgylchiadau, gallwn wneud atgyfeiriad at brosiectau Llety â Chymorth yn Sir y Fflint os oes gennych hawl i ddychwelyd adref ond dim ond tan i lety arall gael ei sicrhau. 

Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed
Os ydy’ch teulu wedi gofyn i chi adael a’ch bod chi’n 16 neu’n 17 oed, gallwch gysylltu â’n tîm am rywfaint o help.  Daeth rheolau newydd i rym i helpu pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd a byddwn yn ymgymryd ag asesiad ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Plant.  Y rheswm am hyn yw bod, fel rheol, mwy yn digwydd gyda’ch sefyllfa chi na dim ond digartrefedd, e.e. ysgol neu goleg, rhesymau meddygol, cam-drin.  Cwblheir yr asesiad i sicrhau yr eir i’r afael â’ch holl anghenion a’ch bod yn cael y gwasanaeth iawn i chi.  Os dymunwch siarad ag aelod o’n Tîm Integredig Pobl Ifanc, ffoniwch 01352 703164.  

Rwy’n cael fy aflonyddu gan fy nghymydog / landlord

Mae’r gyfraith yn diogelu pobl sy’n byw mewn eiddo preswyl yn erbyn aflonyddwch a throi allan anghyfreithlon.  Gwna hyn mewn dwy ffordd: trwy wneud aflonyddwch a throi allan anghyfreithlon yn drosedd, a thrwy alluogi rhywun sy’n cael ei aflonyddu neu ei droi allan yn anghyfreithlon i hawlio iawndal trwy’r llys sifil.

Beth sy’n cyfansoddi aflonyddwch?
Gall aflonyddwch ddigwydd mewn sawl ffordd.  Disgrifir ei fod yn ‘achosi braw neu drallod’ a hefyd fel ‘rhoi pobl mewn ofn o drais’.  Gall gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r mathau o ymddygiad canlynol: -

  • Bygythiadau o drais yn eich erbyn neu gyflawni gweithred o drais gwirioneddol arnoch chi
  • Ymddygiad neu eiriau ymosodol ac/neu sarhaus
  • Bygythiadau o ddifrod i’ch eiddo a’ch pethau neu ddifrod gwirioneddol iddynt

Unrhyw gamdriniaeth neu fygythiad ysgrifenedig a wnaed yn eich erbyn, gan gynnwys llythyrau, graffiti neu unrhyw fath arall o ddeunydd ysgrifenedig fel posteri’n cael eu rhoi i fyny sy’n eich difrïo.

Yn ei hanfod, gall aflonyddwch fod yn unrhyw fath o ymddygiad neu weithred a gymerir yn eich erbyn sy’n bygwth eich ymdeimlad o ddiogelwch a heddwch neu sy’n achosi anghyfleustod diangen i chi.

Beth allwch chi ei wneud os ydych chi wedi dioddef aflonyddwch?
Os teimlwch eich bod yn cael eich aflonyddu, dylech roi gwybod i’r heddlu’n syth.  Mae’n ddefnyddiol hefyd os ydych chi wedi cadw cofnod ysgrifenedig o’r holl achlysuron pan ddigwyddodd unrhyw aflonyddwch, gan gynnwys pa fath o aflonyddwch a ddioddefoch, y dyddiad a’r amser y digwyddodd, ac enw neu ddisgrifiad o’r cyflawnwr/cyflawnwyr.  Hyd yn oed os nad ydych chi wedi casglu’r holl wybodaeth hon neu os nad ydych yn gwybod pwy allai fod yn gyfrifol, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch i’r heddlu.

Mwya’i gyd y gallwch chi ddweud wrthynt, cyflymaf i gyd a hawsaf i gyd y bydd hi i gael yr aflonyddwch i stopio a chychwyn unrhyw drefniadau cyfreithiol angenrheidiol.  Ar ôl i chi gael eich cyfweld gan yr heddlu, byddant wrth law i gynnig unrhyw gyngor i chi wrth iddynt gynnal eu hymchwiliadau.

Beth os ydw i’n byw mewn llety rhent?
Os ydych chi’n byw mewn llety rhent, dylech roi gwybod i’ch Landlord, eich Swyddog Tai Cymdogaeth neu Gymdeithas Tai hefyd.  Gallant gynnig cefnogaeth ychwanegol a allai gynnwys ffitio cloeon, diogelu blychau post rhag fandaliaeth, ffensys a goleuo, a gosod larymau a allai hyd yn oed cael eu cysylltu â’r orsaf heddlu leol.  Os ydy’ch cyflawnwr yn byw yn yr un adeilad â chi, gallan nhw hefyd eu hwynebu a’u rhybuddio ynghylch toriadau posibl i’r cytundeb tenantiaeth, a’r posibilrwydd o gael eu troi allan.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwneud popeth o fewn ei allu i’ch helpu i aros yn eich cartref ac ni ddylech deimlo dan unrhyw bwysau i orfod symud.  Ni ddylai neb fyth deimlo rheidrwydd i gael eu gyrru allan o’u cartref a’ cymdogaeth yn erbyn eu dymuniadau yn sgil aflonyddwch.  Fodd bynnag, os teimlwch mai ailgartrefu yw’r unig ddewis, siaradwch gyda’ch Swyddog Tai Cymdogaeth, Cymdeithas Tai neu Landlord/Asiant.

Deddf Diogelwch rhag Dadfeddiannu 1977

Os ydych chi’n denant ac yn rhentu’ch eiddo’n breifat, mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n drosedd:-

  • Gwneud gweithredoedd sy’n debygol o ymyrryd ar heddwch neu gysur tenant neu unrhyw un sy’n byw gydag ef neu hi; neu
  • Tynnu’n ôl yn barhaol neu atal gwasanaethau y mae gan y tenant angen rhesymol i fyw yn y safle fel cartref.

Mae’n drosedd gwneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir uchod yn fwriadol, yn ymwybodol neu lle credant yn rhesymol y byddan nhw’n achosi i’r tenant adael eu cartref, neu stopio defnyddio rhan ohono, neu stopio gwneud y pethau y dylai tenant ddisgwyl gallu ei wneud fel rheol.  Mae’n drosedd hefyd i gymryd cartref rhywun i ffwrdd oddi wrtho/i yn anghyfreithlon.

Caiff yr union droseddau eu gosod yn y Ddeddf Diogelwch rhag Dadfeddiannu 1977, a wnaed yn gryfach gan Ddeddf Tai 1988.

Gallai fod rhaid i rywun a geir yn euog gan ynadon o drosedd dan y Ddeddf Diogelwch rhag Dadfeddiannu orfod talu uchafswm dirwy o £5,000, neu gael ei anfon i’r carchar am chwe mis, neu’r ddau.  Os bydd yr achos yn mynd i Lys y Goron, gallai’r gosb fod yn garchar am hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.