Alert Section

Diogelu Plant

Mae diogelu’n cynnwys:

  • amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin
  • atal niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
  • sicrhau bod plant yn cael eu magu â gofal diogel ac effeithiol
  • gweithredu i alluogi pob plentyn a pherson ifanc i gael y canlyniadau gorau.

Mae amddiffyn plant yn rhan o'r broses ddiogelu. Mae’n canolbwyntio ar ddiogelu plant unigol sy’n dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol. Mae’n cynnwys gweithdrefnau amddiffyn plant sy’n disgrifio sut i ymateb i bryderon am blentyn.

Mae canllaw a deddfwriaeth amddiffyn plant a diogelu plant yn berthnasol i holl blant hyd at 18 oed.

Mae ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant mewn sefyllfa unigryw i arsylwi newidiadau mewn ymddygiad neu ymddangosiad plant sy’n peri pryder am eu lles ac fe ddylai pawb weithredu mewn modd cydlynol ac amserol i ymateb i unrhyw bryderon ynghylch lles plentyn. 

Dysgu mwy am ddiogelu