Alert Section

Timau Llyfrgell Gladstone a'r Hen Reithordy, Penarlâg yn dod ynghyd i gynnal Digwyddiadau Drysau Agored


Lleoliad
Llyfrgell Gladstone a’r Hen Reithordy, Penarlâg
Date(s)
9/16/2023
Disgrifiad
15373

Bydd dau adeilad hanesyddol ym Mhenarlâg yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr gael cipolwg y tu ôl i’r llen, lle na chaniateir mynediad i’r cyhoedd fel arfer. 

Ddydd Sadwrn, 16 Medi 2023, gall ymwelwyr fynd ar daith gyfunol o’r ddau eiddo, fel rhan o ddigwyddiadau Drysau Agored, gwyl hynod boblogaidd Cadw o dreftadaeth adeiledig Cymru. Mae hanes Llyfrgell Gladstone a’r Hen Reithordy yn cydblethu. Roedd llawer o breswylwyr yr Hen Reithordy yn deulu agos i’r Gladstones, a chwaraeodd ran bwysig yn siapio Llyfrgell Gladstone yn dilyn ei farwolaeth. Er mwyn nodi 125 mlynedd ers marwolaeth W. E. Gladstone, y thema Drysau Agored eleni yn y Llyfrgell a’r Hen Reithordy yw ‘Teulu’r Gladstone ym Mhenarlâg’ ac mae’r ddau leoliad wedi dod ynghyd i gynnig taith gyfunol o’r ddau safle.  

Bydd y Llyfrgell yn cynnig cyfle i weld rhai o uchafbwyntiau archifau a chasgliadau printiedig Llyfrgell Gladstone, taith o amgylch yr Ystafelloedd Darllen a chipolwg y tu ôl i’r llen yn yr ystafelloedd diogel. Yn yr Hen Reithgor, sydd bellach yn gartref i Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, gallwch wylio fideo sy’n adrodd hanes cysylltiad y teulu Gladstone â’r ty, gan gynnwys cipolwg ar sut roedd yr adeilad yn edrych yn ystod eu cyfnod yno, mynd ar daith o amgylch yr ystafelloedd diogel lle’r oedd archifau’r Sir yn cael eu cadw ac ymweld â’r Stiwdio Gadwraeth i gael gweld arddangosfa o sut cedwir dogfennau hanesyddol. Mae teithiau’n para tua 90 munud a bydd lluniaeth blasus ar gael yng nghaffi Llyfrgell Gladstone. 

Mae’n rhaid archebu ymlaen llaw ar gyfer pob taith, sy’n cychwyn o’r ddau safle am 10am, 11.30am ac 1pm. Dim ond un daith sydd angen i chi ei harchebu er mwyn cael ymweld â’r ddau safle. I archebu taith yn cychwyn o Lyfrgell Gladstone, ffoniwch 01244 532350 neu anfonwch e-bost at: enquiries@gladlib.org. I archebu taith yn cychwyn o’r Hen Reithordy, ffoniwch 01244 532364 neu anfonwch e-bost at: archives@newa.wales  

Mae teithiau yn rhad ac am ddim - archebwch nawr rhag i chi gael eich siomi!