Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sorted Sir y Fflint yn lansio DVD ysbrydoledig

Published: 06/06/2016

Yn ddiweddar mae tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc Cyngor Sir y Fflint, Sorted, wedi lansio DVD ysbrydoledig a wnaed gan bobl ifanc i addysgu pobl ifanc am beryglon defnyddio canabis. Mae “Young, Wild & Free yn adrodd yr hanes o sut y gall cyffuriau dreiddio i mewn ich bywyd ac yna ei fwyta, gan arwain at ddewisiadau bywyd gwael. Maen cael ei hadrodd mewn arddull anlinellol trwy lygaid a meddwl y prif gymeriad Beth. Wedi cymryd dwy flynedd i’w gwneud, cafodd y ffilm ei hariannu gan PACT (Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd), Gwirvol a Grant Cymorth Strategaeth Gwaith Ieuenctid Sir y Fflint a hwyluswyd gan TAPE Community Music and Film a fu’n ffilmio a golygu’r prosiect. Dyfeisiwyd y ffilm fer gan Grwp Llywio Sorted Sir y Fflint, a ysbrydolodd y sgript ac ymddangos ynddi yn y ffilm. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Maer DVD unigryw hwn yn adnodd addysgiadol gwych. Bydd ein tîm Sorted Sir y Fflint yn cyflwyno hwn i addysgu ar gyfer atal defnyddio trwy ysgolion uwchradd, colegau, unedau cyfeirio disgyblion, clybiau ieuenctid a phrosiectau cymunedol yn Sir y Fflint. Byddant yn dechrau cyflwyno cyn gynted ag y bo modd y tymor hwn ac o fis Medi, bydd yn cael ei ymgorffori yn y cwricwlwm i gael ei ddangos yn ystod sesiynau ABCh fel rhan on rhaglen ysgolion iach. Maer DVD yn para 15 munud, ond mae cyfleoedd i’w oedi er mwyn annog trafodaeth grwp. DIWEDD Nodyn i Olygyddion Mae Gwirvol yn bartneriaeth amrywiol unigryw Gymreig, yn hyrwyddo, cefnogi a llywio gwirfoddoli ymysg pobl ifanc ieuenctid.