Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyniad Gwarchod y Cyhoedd
Published: 11/09/2014
Ddydd Gwener 5 Medi ymddangosodd Mrs Lynda Payne or Old Smithy, Brynffordd,
Treffynnon, Sir y Fflint yn Llys Ynadon yr Wyddgrug wedi ei chyhuddo o dair
trosedd mewn cysylltiad â chadw da byw ar dir yn Waen y Brodlas, Brynffordd.
Cafwyd Mrs Payne yn euog o’r tri chyhuddiad a ddygwyd gan Wasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint mewn perthynas ag achosion o dorri deddfwriaeth
iechyd a lles anifeiliaid a rheoli clefydau.
Cafwyd Mrs Payne yn euog a gorfodwyd hi i dalu dirwy o £300 am fethu gwaredu
sgil-gynhyrchion anifeiliaid, dirwy o £150 am fethu dangos cofnodion y gwartheg
a gedwir ar ei daliad, a £150 am fethu dangos cofnodion y defaid a gedwir ar y
daliad ym Mrynffordd. Ychwanegwyd £50 fel tâl dioddefwr a dyfarnwyd £1000 i
gwrdd â chostau’r Cyngor Sir
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod
y Cyhoedd a Hamdden:
“Mae diwydiant a chymuned ffermio Sir y Fflint yn rhan allweddol on sir ac
mae’r economi leol a diogelu da byw a bywoliaeth yn flaenoriaethau uchel i’r
Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i bawb sy’n cadw da byw sicrhau eu bod
yn cyrraedd safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid a sicrhau eu bod yn
atal lledaeniad clefydau.