Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau pen-blwydd yr Arth Faethu yn un oed!

Published: 29/02/2024

Bu i Faethu Cymru Sir y Fflint gynnal parti pen-blwydd arbennig iawn y mis hwn i ddathlu blwyddyn ers lansio Ymgyrch yr Arth Faethu.  

Gwahoddwyd plant a gofalwyr maeth lleol i’r parti ac roedd cyfle i chwarae gemau a chreu crefftau i ddathlu pen-blwydd yr Arth Faethu’n un oed.Foster bear birthday.jpg

Pleser hefyd oedd croesawu Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r digwyddiad.

Meddai’r Cynghorydd Jones: “Mae ymgyrch yr Arth Faethu wedi bod yn ardderchog, gan sicrhau gwell dealltwriaeth o ofal maeth i annog mwy o ddarpar ofalwyr maeth i ddod ymlaen. Hoffem ddymuno pen-blwydd hapus iawn i’r Arth Faethu” Roeddem yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r dathliadau a chyfarfod â rhai o’n gofalwyr maeth a phobl ifanc arbennig.”

Lansiwyd Ymgyrch yr Arth Faethu ym mis Ionawr 2023 mewn cydweithrediad ag Ysgolion Cynradd ar draws Sir y Fflint i godi ymwybyddiaeth o faethu yn yr awdurdod lleol ac amlinellu’r angen brys i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint. 

Hyd yma, mae tair ar ddeg o ysgolion cynradd yn Sir y Fflint wedi croesawu’r Arth Faethu i’w hystafelloedd dosbarth, ac mae’r plant yn cael pecyn gweithgareddau sy’n cynnwys tedi-bêr o’r Arth Faethu a llyfr gweithgareddau i fynd adref gyda nhw. Mae’r ymgyrch yn addysgu plant a’u teuluoedd am faethu gyda’r awdurdod lleol a’r manteision o blant sy’n derbyn gofal yn aros yn lleol. 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am faethu gyda’ch awdurdod lleol yn Sir y Fflint neu os ydych yn ysgol gynradd sydd eisiau gwybod mwy am ymgyrch yr Arth Faethu, cysylltwch â melissa.cross@flintshire.gov.uk neu ewch i www.fosterwales.flintshire.gov.uk/fosterbear.