Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith yn dechrau ar lwybr diogel Treffynnon

Published: 31/01/2024

Wythnos nesaf bydd gwaith yn dechrau i greu ‘llwybr diogel’ newydd yn Nhreffynnon.

Mae Tîm Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint yn falch o gadarnhau bod £487,000 wedi’i dderbyn i greu llwybr diogel newydd yn y dref.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y llwybr ar hyd yr A5026 Holway Road a Whitford Street yn cael ei ledu, gan ei wneud yn saffach ac yn fwy hygyrch i ddisgyblion, rhieni a’r gymuned ehangach.

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus 4 wythnos ym mis Medi 2023 lle cafodd trigolion eu gwahodd i ddigwyddiad galw heibio i ddweud eu dweud ar y llwybrau sydd angen eu gwella.

Mae’r gwaith, sy’n cael ei wneud gan EE Civils, yn dechrau ddydd Llun 5 Chwefror ac mae disgwyl iddo bara 10 wythnos. I hwyluso’r gwaith mi fydd yna system oleuadau traffig dros dro mewn grym ar yr A5026 Holway Road.

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol, ond efallai y bydd oedi ar brydiau.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: “Roedd adborth ac ymgysylltiad y gymuned yn ystod yr ymgynghoriad yn wych, ac rydym ni’n falch o allu rhoi cynllun llwybrau mwy diogel ar waith yn Nhreffynnon.

“Drwy greu amgylchedd diogel i gerddwyr gallwn annog hyd yn oed mwy o bobl i adael eu ceir gartref a dewis teithio’n fwy llesol. Bydd hynny yn ei dro yn arwain at aer glanach a strydoedd mwy diogel.

“Ymddiheurwn am unrhyw oedi neu amhariad y mae’r gwaith yn ei achosi.”

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y gwaith yma, cysylltwch â Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint ar 01352 701234.