Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae storïau gofalwyr maeth Sir y Fflint yn dangos y ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol sy’n derbyn gofal

Published: 24/01/2024

Mae dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. 

Mae yna 96 o blant mewn gofal maeth ar hyn o bryd yn Sir y Fflint ac 88 o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint ond mae angen mwy.

Roedd gan Faethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 awdurdod lleol Cymru – y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol. 

Mae Maethu Cymru Sir y Fflint wedi ymuno â’r ymgyrch newydd o’r enw ‘gall pawb gynnig rhywbeth’, gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach, ond sylweddol, sydd gan bobl a all wneud y byd o wahaniaeth i unigolyn sy’n derbyn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch, yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd a’r rhai sy’n gadael gofal.

Roedd yr ymatebion gan y grwpiau hyn yn tynnu sylw at dri pheth allweddol a oedd yn rhwystro gofalwyr posibl rhag ymholi: 

·         Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn sy’n derbyn gofal.

·         Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

·         Camddealltwriaeth ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr. 

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gan ofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda’r awdurdod lleol yn hyblyg, cynhwysol, ac yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Mae Gavin yn ofalwr maeth sengl, tymor hir gyda Maethu Cymru Sir y Fflint ac mae wedi bod yn maethu pobl ifanc yn eu harddegau ers 15 mlynedd.  Mae Gavin yn ofalwr maeth amyneddgar a gofalgar sydd ag agwedd hyblyg a dynamig tuag at faethu.  

Yn ystod ei gyfnod fel gofalwr maeth mae wedi cynnig gofal maeth mewn argyfwng yn aml yn ogystal â maethu hirdymor a ‘Phan Fyddaf yn Barod’, cynllun yng Nghymru sy’n rhoi’r hawl i bobl ifanc aros gyda’u gofalwyr maeth unwaith y byddant yn cyrraedd 18 oed.   

Mae Gavin hefyd yn gweithio’n llawn amser ond drwy ddefnyddio cefnogaeth gan y gwasanaeth maethu a rhwydwaith cyfoedion o ofalwyr maeth lleol mae’n gallu darparu gofal maeth o ansawdd uchel i bobl ifanc yn Sir y Fflint.   

Mae gan Gavin agwedd hamddenol tuag at faethu gyda phwyslais ar blant a phobl ifanc yn derbyn amgylchedd cartref ymlaciol ble gallant fod eu hunain, datblygu annibyniaeth a ffynnu.   Mae llawer o’r plant a phobl ifanc mae Gavin wedi eu cefnogi dros y 15 mlynedd diwethaf yn parhau mewn cysylltiad ag ef heddiw.  

Dywedodd: “Ar ôl 15 mlynedd o faethu, rwy’n parhau i gredu bod y cyfle i weld plentyn neu berson ifanc yn ffynnu yn eich gofal yn anrhydedd.   Does dim yn fwy boddhaol na chymryd rhan yn eu llwyddiant, a darparu’r dechrau mewn bywyd sy’n caniatáu iddynt symud ymlaen i annibyniaeth.”

Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran gwasanaethau plant

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system cyfan ar gyfer gwasanaethau plant. 

Roedd y newidiadau arfaethedig yn y cytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gwneud ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’. 

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn fwy nag erioed. 

Dywedodd Prif Cyngor Sir y Fflint, Neil Ayling: “Mae ein gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn Sir y Fflint yn gwneud gwaith anhygoel, yn cefnogi plant drwy gynnig eu sgiliau, profiad, empathi a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel. 

“Mae angen recriwtio mwy o ofalwyr maeth anhygoel yn Sir y Fflint i sicrhau bod holl blant lleol yn cael cartref croesawgar.

“Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, rydym yn sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicaf oll, gallwch helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i rannu eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â Maethu Cymru Sir y Fflint.”

I gael gwybodaeth am faethu, neu ar gyfer ymholiad, ewch i: https://www.fosterwales.flintshire.gov.uk/en/Home.aspx