Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i Bolisïau Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Published: 04/01/2024

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022, yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Mae cyflwyno’r newidiadau sylweddol a ddaeth yn sgil y Ddeddf yn golygu bod angen adolygu a diwygio polisïau a gweithdrefnau fel Polisi Rheoli Tai a Pholisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Cyngor. Dyma grynodeb o’r prif newidiadau dan sylw:

·        Ychwanegu a thynnu deiliaid contract

Bydd gweithdrefnau newydd bellach yn caniatáu i rai meddianwyr adael heb effeithio ar y lleill.

·        Gadael

Mae’r broses o ddiarddel deiliad contract sy’n absennol bellach yn llawer haws, boed hynny yn erbyn deiliad contract unigol neu rai ar y cyd. Gall landlord wneud hynny heb orchymyn Llys a gall un deiliad contract ar y cyd ddiarddel un arall drwy wneud cais i’r Llys.

·        Hawliau olyniaeth

Mae’r rhain wedi gwella’n sylweddol mewn sawl achos. Yn arbennig, mae goroesedd yn disgyn y tu hwnt i reolau olyniaeth, sydd yn y gorffennol wedi creu anawsterau mawr pan nad yw plant wedi gallu etifeddu tenantiaeth ar ôl i’r ddau riant farw.

·        Systemau effeithiol

Nod y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yw sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu mabwysiadu i atal a lleihau nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u datrys cyn gynted â phosib’ drwy ymyraethau priodol ac amserol.

Bydd y newidiadau hyn yn gwella’r gwasanaeth mae’r Cyngor yn ei ddarparu, yn symleiddio prosesau mewn achosion o gam-drin domestig, neu lle mae tor-perthynas. Bydd yn sicrhau nad yw eiddo’n cael ei adael yn wag am gyfnodau hir, ac yn cefnogi nifer o bobl ifanc sy’n parhau i fyw gartref i fyw’n annibynnol, gan greu amodau byw hirdymor diogel mewn cyfnod lle mae’n fwyfwy anodd cael hynny oherwydd rhent yn cynyddu neu ddiffyg arian i brynu.

Mae ystod o ymddygiad yn cyfrif fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, o niwsans bach i aflonyddu difrifol, ac mae hynny oll yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd a tharfu ar allu pobl i ddefnyddio a mwynhau eu cartref a’u cymuned. Bydd y newidiadau hyn i’r polisïau’n gwella’r gwasanaeth mae’r Cyngor yn ei ddarparu er mwyn ei alluogi i fynd i’r afael â’r ymddygiad hwn yn effeithiol ac yn effeithlon.

Dywedodd Vicky Clark, Prif Swyddog Tai a Chymunedau, “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rheoli tai ac ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithiol ac effeithlon sy’n adlewyrchu’r arferion gorau, yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn gwarchod hawliau trigolion yn y gymuned gan leihau’r risg i’r Cyngor gymaint ag y bo modd.”

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, “Bydd deiliaid contract a phreswylwyr Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r newidiadau hyn. Ni fyddwn yn caniatáu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau, ac rydw i’n hyderus y bydd y newidiadau yma’n yn galluogi’r Cyngor i weithio gyda phobl Sir y Fflint i leihau’r math hwn o ymddygiad a’i atal yn y dyfodol.”