Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i ffioedd gwasanaethau larwm

Published: 04/01/2024

Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i breswylwyr, y gymuned ac ymwelwyr â Sir y Fflint, ac mae ffioedd neu daliadau yn berthnasol i rai ohonyn nhw gan greu incwm.

Mae Gwasanaeth Cefnogi Llety yn y Gymuned yn darparu gwasanaeth daliadaeth niwtral i unrhyw berson hyn yn Sir y Fflint allai fod angen cefnogaeth sy’n ymwneud â thai.

Mae yna dros 2500 o unedau llety tai gwarchod o fewn stoc tai y Cyngor lle mae’r Gwasanaeth Cefnogi Llety yn y Gymuned yn darparu gwasanaeth ymateb ar gyfer larymau sy’n cael eu hactifadu, yn ychwanegol i’r gefnogaeth sy’n ymwneud â thai. Ar gyfer preswylwyr CRT, gwasanaeth 24 awr y dydd yw hwn, sydd yn gweithredu gwasanaeth tu allan i oriau o fewn y tîm ar gyfer gwaith y tu allan i oriau swyddfa (nosweithiau, min nos a phenwythnosau).  Fe godir tâl ar y preswylwyr hynny sy’n defnyddio’r gwasanaeth larwm. 

Nod y Cyngor yw cynyddu incwm lle bynnag y bo’n bosibl er mwyn cyfrannu tuag at ddarparu gwasanaethau rheng flaen allweddol. Mae adennill costau llawn ar gyfer gwasanaethau dewisol, lle mae gan y Cyngor bwer, ond nid dyletswydd i ddarparu’r gwasanaeth, yn anghenraid i’w galluogi nhw i gynnal y gwasanaeth i’w preswylwyr.

Ar hyn o bryd, nod yw’r ffi a godir am y gwasanaeth larwm, sef £2.20 yr wythnos (50 wythnos rhent), yn talu am gost y gwasanaeth. Er mwyn sicrhau y gall y gwasanaeth gwerthfawr yma barhau i gael ei ddarparu, fe gynigir codi’r ffi am y gwasanaeth o £0.98, gan gymryd y gost wythnosol i £3.18.

Bydd hyn yn golygu y gellir adennill y costau llawn o 2024/2025 ymlaen a bydd y ffi yn cael ei adolygu’n flynyddol yn rhan o broses gynllunio busnes CRT.

Dywedodd Vicky Clark - Prif Swyddog, Tai a Chymunedau, “Rydym ni’n gwybod pa mor werthfawr yw’r gwasanaeth yma i’n preswylwyr tai gwarchod a bydd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu’r lefel yma o wasanaeth a ddisgwylir.

Dydi hi byth yn benderfyniad hawdd i gynyddu’r ffioedd gwasanaeth fel hyn, ond er mwyn diogelu ei ddarpariaeth, mae angen gwneud hynny ar hyn o bryd.”

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby -  Aelod Cabinet, Tai ac Adfywio: “Nid yn unig y mae’r gwasanaeth yma’n cael ei werthfawrogi gan ddefnyddwyr gwasanaeth, ond mae eu ffrindiau a’u teuluoedd yn ei werthfawrogi hefyd, mae’n rhoi tawelwch meddwl iddynt fod gan eu hanwyliaid gefnogaeth wrth law bob awr o’r dydd, ac mae’n galluogi’r unigolion i fyw yn annibynnol yn ein cymunedau.”