Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymateb gwych i arolwg addysg Brychdyn a Saltney

Published: 05/12/2023

Mae dros 1,500 o bobl wedi dweud eu dweud am ddyfodol addysg ym Mrychdyn a Saltney.

Cwblhaodd Gyngor Sir y Fflint ymarfer ymgysylltu cynnar dros dymor yr haf i gasglu barn y gymuned a siapio dyfodol darpariaeth addysg yn yr ardal.

Cynhaliwyd yr arolwg hwn, a gafodd ei rannu gydag ystod eang o bobl yn y gymuned, o ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023 tan ddydd Llun, 3 Gorffennaf 2023, a chasglwyd 1,503 o ymatebion gan y cyhoedd.  Cafwyd lefel uchel o ymgysylltiad gan ddisgyblion yr ymgynghorwyd â hwy ar y cynlluniau hefyd.

Cyflwynwyd nifer o opsiynau posibl i ymatebwyr:

1.       Gwneud dim - cadw ysgolion Brychdyn a Saltney fel ag y maent.

2.       Gwneud y lleiafswm i gael gwared â’r ôl-groniad o broblemau cynnal a chadw.

3.       Ailwampio ac ymestyn cyfleusterau presennol (lle bo modd).

4.       Adeiladu Campws 3 - 16 i gynnwys Ysgol Uwchradd Dewi Sant a chyfuno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.

5.       Adeiladu Ysgol Gydol Oes 3 - 16.

6.       Adeiladu Ysgol Uwchradd 11-16 newydd i Ysgol Uwchradd Dewi Sant ar safle Bretton ac adeiladu Ysgol Gynradd 3-11 newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Dewi Sant.

7.       Cau Ysgol Uwchradd Dewi Sant

Roedd y mwyafrif (443) o bobl yn anghytuno’n gryf gydag opsiwn 1 i wneud dim byd a chadw ysgolion fel ag y maent.  Opsiwn 6 oedd yr opsiwn a ffefrir o ran nifer yr ymatebion ‘cytuno’n gryf’ (383), fodd bynnag, roedd 205 o bobl yn anghytuno’n gryf.

Opsiwn 3 oedd yr opsiwn a ffefrir yn gyffredinol gyda 332 o ymatebwyr yn anghytuno’n gryf a 235 yn cytuno.  Opsiwn 7 oedd y cynnig a ffefrir leiaf o bell ffordd, gyda 717 o ymatebwyr yn anghytuno’n gryf a dim ond 52 yn cytuno’n gryf.

Canfuwyd mai cyflwr adeiladau a safon cyfleusterau oedd y broblem fwyaf pan ofynnwyd beth oedd yn peri’r pryder mwyaf am eu hysgol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg ymgysylltu cynnar.  Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol ond mae consensws cyffredinol yn y gymuned bod angen newid ac y byddai buddsoddiad yn ddymunol. 

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i ddarparu addysg a chyfleoedd o ansawdd uchel i ddisgyblion.  Rydym yn gweithio i ddatblygu cynllun sy’n darparu strategaeth newydd ar gyfer addysg yn yr ardal sy’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy.”

Bydd canlyniad yr arolwg yn mynd i’r Cabinet i’w drafod gan aelodau yn y misoedd nesaf.