Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion yn mynd i’r afael ag absenoldebau anawdurdodedig

Published: 30/11/2023

Cyhoeddodd penaethiaid yn Sir y Fflint 99 o ddirwyon yn ystod 2022/23 er mwyn ceisio mynd i’r afael ag absenoldebau anawdurdodedig cyson mewn ysgolion.

Mae cofnodion yn cadarnhau bod penaethiaid a gwasanaethau cefnogi wedi defnyddio’r pwerau statudol sydd ar gael iddynt trwy gyhoeddi 99 Rhybudd Cosb Benodedig rhwng £60 a £120.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod rhieni/gofalwyr yn sicrhau bod eu plant yn mynychu’r ysgol. Pan fo absenoldebau cyson yn parhau, gall ysgolion gyhoeddi dirwy.

O’r 99 o ddirwyon a gyhoeddwyd, cafodd bron eu hanner eu talu o fewn yr amserlen a roddwyd. Gorchmynnodd y Gwasanaeth Lles Addysg bod y sawl na dalodd y ddirwy yn mynd i’r llys. Hyd yma, mae’r Llys Ynadon wedi rhoi 8 dirwy o £660.

Dywedodd Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cyngor Sir y Fflint, John Grant, fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gefnogi plant a theuluoedd sydd â lefel bresenoldeb isel. Fodd bynnag, pan na fydd yr ysgol wedi awdurdodi’r absenoldebau, polisi’r Gwasanaeth Lles Addysg yw cyfeirio pob Rhybudd Cosb Benodedig nad ydynt wedi’u talu, i’r llys.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Mae’n galonogol bod cynifer o rieni/gofalwyr yn derbyn nad yw absenoldebau anawdurdodedig yn briodol a’u bod wedi talu’r ddirwy’n brydlon.

“Fel Cyngor, rydym yn dymuno ei gwneud yn glir ei fod yn hanfodol bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol bod presenoldeb yn yr ysgol yn ofyniad cyfreithiol. Yn ogystal ag effeithio ar addysg y plentyn, mae diffyg presenoldeb hefyd yn gallu cael effaith negyddol ar ddatblygiad eu sgiliau cymdeithasol a’u hiechyd meddwl a’u lles.

“Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau â’i bolisi i sicrhau bod absenoldeb anawdurdodedig yn cael ei herio yn 2023/24 er mwyn cefnogi plant Sir y Fflint i gael y cyfleodd gorau posib mewn bywyd.”